Tân Casnewydd: Rhieni yn chwilio am ofal i'w plant

  • Cyhoeddwyd
Tân CasnewyddFfynhonnell y llun, Darren Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad ond cafodd adeilad Meithrinfa Wibli Wobli ei losgi'n llwyr

Mae rhieni yn chwilio am ofal brys i'w plant ar ôl tân mawr mewn meithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd.

Cafodd adeilad Meithrinfa Wibli Wobli ar stad ddiwydiannol Wern ei losgi'n llwyr yn y digwyddiad nos Sul.

Roedd tua 60 o blant yn mynd i'r feithrinfa, ac mae'r tân yn golygu bod nifer o rieni'n chwilio am ofal iddyn nhw mewn meithrinfeydd eraill.

Mae Lauren Caley o ardal Tŷ-du (Rogerstone) yn fam i Oliver a Xavier, sy'n efeilliaid dwy oed.

Does dim digon o le mewn meithrinfeydd eraill yn yr ardal, ac mae hi wedi newid ei phatrwm gwaith er mwyn gofalu am ei phlant.

Lauren Caley
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lauren Caley yn gorfod newid ei phatrwm gwaith er mwyn gofalu am Oliver a Xavier

Dywedodd Ms Caley: "Ers y tân, dwi wedi gorfod gofyn i ffrindiau am help i ofalu amdanyn nhw, er mwyn i fi gael gweithio.

"Neithiwr, mi wnaethon ni chwilio am rywle - unrhywle - yn yr ardal.

"Yn y pendraw, roedden ni'n edrych ar feithrinfeydd yn Nhorfaen, fyddai'n golygu teithio ar yr M4 ddwywaith y dydd.

"Am 08:00 bore 'ma [dydd Mercher], mi wnaeth un feithrinfa gysylltu gyda ni i ddweud bod ganddyn nhw le, ond roedd yn rhaid i ni dderbyn y cynnig yn syth, gan fod cymaint o alw."

Dywedodd Natasha Baker bod y fflamau'n "enfawr"
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Natasha Baker ei bod yn bwysig symud mor gyflym â phosibl er mwyn i staff y feithrinfa gadw eu gwaith

Ddydd Mercher, dywedodd perchennog Wibli Wobli, Natasha Baker: "Fe fyddai'n cysylltu gyda rhieni unwaith y bydda'i wedi cael adeilad newydd.

"Ni'n chwilio am gartref newydd parhaol, fwy na thebyg ar les.

"I ni, mae'n bwysig symud mor gyflym â phosibl er mwyn i'r staff gadw eu gwaith. Nhw yw'r feithrinfa.

"Mae rhieni'n gefnogol iawn ac yn dweud y byddan nhw'n dychwelyd pan fyddwn ni'n ailagor - gobeithio mewn mater o fisoedd."

Lauren Caley a'i bechgynFfynhonnell y llun, Lauren Caley
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lauren Caley wedi gofyn am gymorth ffrindiau i ofalu am ei phlant

Mae mam Oliver a Xavier, Lauren Caley, yn swyddog polisi gydag elusen. Mae'n dweud y bydd yn rhaid iddi newid ei phatrwm gwaith.

"Dim ond lle ar gyfer dau ddiwrnod llawn a dau hanner diwrnod sydd 'na yn y feithrinfa newydd, felly dyna'r unig gyfle ga'i i weithio.

"Diolch byth, mae fy nghyflogwr i'n hyblyg.

"Roeddwn i wedi penderfynu dechrau gweithio diwrnod ychwanegol, ond dwi wedi dweud yn barod na fyddai'n gallu gwneud hynny, achos alla'i ddim cael rhywun i ofalu am y plant.

"Rydyn ni'n gwario bron i £2,000 y mis ar ofal plant - sy'n fwy na'r morgais - ond ers y tân mae tua 30-50 o deuluoedd yn chwilio am nifer cyfyngedig o lefydd."

TanFfynhonnell y llun, Marie Groucott
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meithrinfa Wibli Wobli wedi bod yn chwilio am adeilad newydd ers y tân

"Mi gawson ni neges ddoe [dydd Mawrth] yn dweud y bydd yn rhaid aros am fisoedd lawer cyn iddyn nhw fedru agor mewn adeilad newydd, ac y byddai'n rhaid i ni chwilio am ofal plant ein hunain.

"Maen nhw wedi bod yn dda iawn... maen nhw'n yn ceisio trefnu sesiwn olaf fel eu bod nhw'n gallu dweud hwyl fawr wrth y plant - am nawr."

'Colli mas ar fod mewn awyrgylch Gymraeg'

Teulu arall sydd wedi gorfod chwilio am feithrinfa arall ers y tân ydy teulu Sofia.

Dywedodd tad Sofia, Rhydian Ball: "Mae'n sefyllfa ni yn oce. Roedd Sofia'n mynd i feithrinfa arall felly ni wedi cael tri diwrnod ychwanegol fan 'ny.

"Mae e'n ddrutach, £20 y dydd felly mae hynny'n anodd ond o leia' mae lle gyda ni yn wahanol i lot o rieni eraill."

Agorodd Meithrinfa Wibli Wobli yn Ebrill 2023 fel y feithrinfa ddwyieithog gyntaf yn yr ardal.

Difrod bore Llun

Yn ôl Mr Ball: "Ni yn poeni tamaid bach bydd Sofia'n colli mas ar fod mewn awyrgylch Gymraeg a chlywed y Gymraeg yn ystod y dydd.

"Roedd ganddi ffrindiau yn Wibli Wobli fyddai'n mynd i'r un ysgol â hi ym mis Medi ond fydd neb o'r feithrinfa arall yn mynd i'r ysgol yna.

"Gan bod y ddau ohonom ni'n gweithio yn y dydd, doedd y cylch Meithrin ddim yn gallu darparu beth oedd angen arnom ni o ran gofal felly roedd Wibli Wobli yn grêt.

"Gobeithio byddan nhw 'nôl ar eu traed yn gloi ond mae e'n mynd i gymeryd misoedd."

Pynciau cysylltiedig