Agor cwest i farwolaeth bachgen 7 oed yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaeth bachgen saith oed yn Sir Benfro.
Clywodd y cwest fod yr heddlu wedi cael eu galw i gartref Louis Linse ar Stryd y Farchnad Uchaf yn Hwlffordd ar fore 10 Ionawr.
Fe gafodd y bachgen ei drosglwyddo i Ysbyty Llwynhelyg yn y dref, ble cafodd ei gadarnhau yn farw er gwaethaf ymdrechion staff iechyd.
Mae menyw 42 oed, Papaipit Linse, yn parhau yn y ddalfa wedi'i chyhuddo o lofruddiaeth Louis.
'Amgylchiadau trasig'
Clywodd y gwrandawiad yn Hwlffordd ddydd Gwener fod prawf post mortem wedi cael ei gynnal i'w farwolaeth, ond nad oes canlyniadau hyd yma.
Fe wnaeth y crwner Paul Bennett "gydymdeimlo â theulu ehangach Louis Linse", gan ychwanegu fod "amgylchiadau ei farwolaeth yn rhai trasig".
Cafodd y cwest ei ohirio at ddyddiad sydd eto i'w bennu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Louis.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2024