Hwlffordd: Menyw yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio bachgen

  • Cyhoeddwyd
Stryd y Farchnad Uchaf yn Hwlffordd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd y Farchnad Uchaf yn Hwlffordd, toc cyn 10:45 fore Mercher.

Mae menyw wedi ymddangos yn y llys wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth bachgen saith oed.

Mae Papaipit Linse, 42, o Stryd y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, wedi ei chyhuddo o lofruddio Louis Linse ar Ionawr 10.

Yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Abertawe, siaradodd Ms Linse ond i gadarnhau ei henw a'i chyfeiriad.

Mae wedi ei chadw yn y ddalfa nes bydd gwrandawiad pellach yn Llys y Goron Abertawe, ddydd Mawrth 16 Ionawr.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Heol y Farchnad Uchaf yn Hwlffordd am 10:45 fore Mercher .

Yn fuan wedyn cafwyd cadarnhad bod Louis wedi marw.