Clwb pêl-droed yn anfon £5,000 yn ôl i Tristan Tate
- Cyhoeddwyd
Mae clwb pêl-droed cymunedol o ogledd Cymru wedi ymddiheuro ar ôl derbyn ac wedyn talu nôl rhodd o £5,000 gawson nhw gan frawd y dylanwadwr dadleuol Andrew Tate.
Fe ddiolchodd FC United of Wrexham yn gyhoeddus i Tristan Tate ar gyfrwng cymdeithasol X yr wythnos ddiwethaf.
Ond cafodd yr arian ei roi yn ôl yn ddiweddarach yn dilyn beirniadaeth o sawl cyfeiriad.
Mae Tristan Tate yn dweud ei fod yn "hynod siomedig".
'Condemnio gan sawl mudiad'
Mewn datganiad dywedodd FC United of Wrexham, sy'n rhedeg timau pêl-droed a futsal i grwpiau o bob oed, eu bod yn aml yn gofyn i unigolion sydd â dilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu negeseuon er mwyn eu helpu i godi arian.
"Ddydd Sadwrn fe gawson ni swm sylweddol o £5,000 gan Mr Tate. Fe ysgogodd hynny un o'n noddwyr i dynnu cefnogaeth yn ôl," meddai'r clwb.
"Cafodd y clwb ei gondemnio gan sawl mudiad lleol a daeth galwadau ar y clwb i anfon yr arian yn ôl.
"Nawr ar ôl cymryd cyngor pellach mae'r clwb wedi penderfynu dychwelyd y rhodd."
Maen nhw yn pwysleisio bod rhodd o £5,000 yn swm sylweddol i glwb nid-er-elw.
Ar hyn o bryd mae Tristan Tate a'i frawd Andrew yn wynebu achos llys yn Rwmania mewn cysylltiad â honiadau o smyglo pobl.
Mae'r ddau frawd yn gwadu'r cyhuddiadau. Mae Andrew Tate hefyd yn gwadu cyhuddiad ychwanegol o dreisio.
Mewn podlediad dywedodd Tristan Tate ei fod wedi cael nifer o negeseuon gan y clwb yn esbonio eu sefyllfa ariannol ac yn "gofyn am nawdd ariannol".
Dywedodd ei fod wedi penderfynu rhoi £5,000.
Ond ar ôl iddo dderbyn yr arian yn ôl mae Tristan Tate wedi cyhuddo cynrychiolwyr y clwb o blygu i alwadau'r cyhoedd.
Yn eu datganiad dywedodd FC United of Wrexham: "Rydyn ni yn ymddiheuro i bawb sydd wedi eu heffeithio ac wedi eu tramgwyddo, ymddiheuriadau hefyd i Tristan am wastraffu ei amser."
Ychwanegodd y clwb eu bod nawr yn awyddus i symud ymlaen a rhoi'r bennod yma tu ôl iddyn nhw.