Cefnogwyr yn cofio cyn-seren Cymru JPR Williams

  • Cyhoeddwyd
teyrngedau
Disgrifiad o’r llun,

Teyrngedau i JPR Williams ar Faes y Bragdy cyn y gêm rhwng Pen-y-bont a Phontypridd

Roedd yna deyrnged gofiadwy i JPR Williams, cyn-gefnwr Pen-y-bont, Cymru a'r Llewod ar Faes y Bragdy ddydd Sadwrn.

Y gêm yn erbyn Pontypridd yn Uwchgynghrair Cymru oedd y gyntaf i gael ei chynnal yng nghartref Pen-y-bont ers i JPR farw yn 74 oed ar 8 Ionawr.

Doedd neb yn gwisgo'r crys rhif 15 o dîm Pen-y-bont ar gyfer y gêm, ac fel rhan o'r deyrnged cyn y chwiban gyntaf fe osododd ei fab, Peter hi ar y cae.

Cyflwynodd wyrion Williams y bêl i'r chwaraewyr cyn y gic gyntaf hefyd.

Roedd yna eiliad o dawelwch a chymeradwyaeth cyn dechrau'r gêm.

Disgrifiad o’r llun,

Wyneb cyfarwydd JPR Williams ar flaen y rhaglen deyrnged i gofio amdano

Fe ddaeth nifer o gyn-chwaraewyr Pen-y-bont i'r cae i arwain y cofio hefyd - yn eu plith Meredydd James, Glen Webbe, Rob Howley a rhai a fu'n chwarae gyda JPR i Gymru, Gerald Davies a Gareth Davies.

Fel rhan o'r cofio roedd llun o JPR ar flaen rhaglen swyddogol y gêm a theyrnged arbennig gan un a chwaraeodd i'r Llewod gyda JPR - Syr Ian McGeechan.

Yn y deyrnged mae'n disgrifio Williams fel un o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed.

Bu Williams yn gapten ar Ben-y-bont ar Ogwr a Chymru. Fe enillodd 55 cap dros ei wlad ac roedd yn un o gewri'r gamp yn ystod oes aur rygbi Cymru a'r Llewod yn y 1970au.

Yn ystod teithiau hanesyddol buddugoliaethus y Llewod i Seland Newydd ym 1971 a 1974 yn Ne Affrica, fe wnaeth JPR wyth ymddangosiad i'r tîm.