Carcharu DJ wnaeth basio dŵr ar glaf canser a rhannu fideo

  • Cyhoeddwyd
Leigh BrookfieldFfynhonnell y llun, WNS
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Leigh Brookfield ddedfryd o garchar am 14 wythnos

Mae dyn a wnaeth basio dŵr ar glaf canser mewn clwb chwaraeon wedi cael ei ddedfrydu i garchar am 14 wythnos.

Roedd Leigh Brookfield, DJ 40 oed o Lanelli, wedi pledio'n euog i ymosod yn dilyn y digwyddiad yng Nghlwb Tenis a Sboncen Llanelli ar ddydd San Steffan.

Roedd Brookfield hefyd wedi postio fideo o'r digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol.

Yn y fideo ar wefan Snapchat, fe welir Brookfield yn sefyll wrth ymyl Peter Barton yn nhai bach y clwb.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Rhannodd Brookfield y fideo ar gyfryngau cymdeithasol

Soniodd Mr Barton wrtho am ei broblemau iechyd difrifol, gan ysgogi Brookfield i ddweud, "Ddrwg gen i glywed hynny" wrth basio dŵr arno.

Nid oedd Mr Barton yn ymwybodol o hynny ar y pryd, ond fe gafodd datganiad effaith ar ddioddefwr ei ddarllen ar ei ran yn y llys ddydd Iau.

Crïo wrth weld fideo

Ynddo, fe ddywed Mr Barton fod yr ymosodiad wedi ei "chwalu".

Dywedodd yr erlynydd Kelly Rivers wrth y llys: "Cafodd Mr Barton sioc pan ddaeth allan o'r toiledau a chlywed Mr Brookfield yn gofyn iddo a oedd am gael llun arall.

"Doedd gan Mr Barton ddim syniad am beth yr oedd yn sôn.

"Ond y diwrnod canlynol fe wnaeth aelodau o'r clwb tenis gnocio ar ei ddrws i ofyn a oedd yn iawn. Doedd yn gwybod dim, ac fe gafodd ei syfrdanu o weld y fideo."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leigh Bookfield wedi pledio'n euog i ymosod yn dilyn y digwyddiad yng Nghlwb Tenis a Sboncen Llanelli

Yn ei ddatganiad dywedodd Mr Barton iddo grïo pan welodd y fideo.

"Doeddwn i ddim yn gallu credu sut y gallai unrhyw un wneud hyn i rywun arall," meddai.

"Es i i'r dre i brynu bara ac fe glywais i rywun yn dweud 'Edrychwch - dyna'r dyn o Facebook'."

Clywodd y llys fod gan Brookfield dair euogfarn flaenorol am yfed a gyrru.

'Problem yfed'

Wrth siarad ar ran Brookfield, dywedodd Robert Thomas fod ei gleient "â chywilydd mawr ac wedi'i ffieiddio gan ei weithred," a'i fod yn dymuno ymddiheuro i'r dioddefwr.

Aeth ymlaen i ddweud fod gan Brookfield "broblem yfed ers tro a bu'n ddefnyddiwr cyffuriau".

"Mae wedi rhoi'r gorau i yfed a chyffuriau ers y digwyddiad," ychwanegodd.

Wrth ei ddedfrydu i garchar am 14 wythnos, dywedodd y barnwr Mark Layton: "Fe wnaeth person arall sgwrsio'n gwrtais gyda chi, gan ddweud ei fod yn dioddef o ganser.

"Byddai'r mwyafrif wedi ymateb gyda geiriau caredig, ond fe wnaethoch chi basio dŵr arno."

Bydd rhaid i Brookfield dreulio hanner ei ddedfryd dan glo, ac fe gafodd orchymyn i dalu £500 o iawndal, costau o £85 a thaliad ychwanegol o £155.

Ymddygiad 'cwbl erchyll'

Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu Dyfed-Powys, Phil Rowe fod y fath ymddygiad yn "ofnadwy" a'i fod yn "deall pam ei fod wedi peri gofid o fewn y gymuned".

"I ymddwyn yn y modd yma tuag at rywun oedd yn ceisio cael sgwrs digon cwrtais - ac yna ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol - mae hynny yn gwbl erchyll.

"Ry'n ni'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn gwneud i'r dioddefwr deimlo fel bod cyfiawnder wedi ei weinyddu, a'i fod o nawr yn gallu symud ymlaen.

"Yn ogystal, ry'n ni'n gobeithio bod y ddedfryd yn dangos yn glir na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei dderbyn."

Pynciau cysylltiedig