Cau dwy ganolfan Ambiwlans Awyr yn dal dan ystyriaeth

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans Awyr
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Mawrth 2023 cyhoeddodd yr elusen y byddai'r ddau safle yn parhau i fod yn weithredol tan o leiaf 2026

Mae opsiynau i gau dwy ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn y gogledd a'r canolbarth yn dal dan ystyriaeth, yn ôl adolygiad i'r gwasanaeth.

Mae'r adolygiad i wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru wedi nodi dau opsiwn ar y rhestr fer sy'n cynnwys cau canolfannau ambiwlans awyr yn Y Trallwng a Chaernarfon.

Fe fyddai hofrenyddion brys y ddwy ganolfan yn cael eu hadleoli i safle ger yr A55 yng nghanol y rhanbarth fel rhan o'r newidiadau arfaethedig.

Mae ymgyrchwyr wedi dadlau'n gryf yn y ddwy ardal dros gadw'r canolfannau ar agor.

Roedd yr elusen wedi datgan ym Mawrth 2023 y byddai'r ddau safle'n parhau ar agor tan o leiaf 2026 yn dilyn cytundeb gwerth £65m gyda phartner hedfan newydd.

Fe fydd yr opsiynau'n cael eu trafod mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yr wythnos nesaf cyn rownd derfynol o ymgysylltu â'r cyhoedd ym mis Chwefror.

Mae rhestr fer yr adolygiad yn debygol o ddigio ymgyrchwyr sy'n ofni y bydd ardaloedd gwledig ar eu colled pe bai'r ddwy ganolfan yn cau.

Mae dogfennau ar gyfer cyfarfod y pwyllgor ar 30 Ionawr yn cynnwys manylion y ddau opsiwn ar y rhestr fer, sef:

  • Uno shifftiau unigol Y Trallwng a Chaernarfon a chreu un shifft o ganolfan ger yr A55 a newid amserau'r sifft i 08:00-20:00 a 14:00-02:00.

  • Yr un manylion â'r uchod ond gan ychwanegu shifft car 2000-0800 yn Wrecsam.

Yn ystod Cam 2 yr adolygiad y llynedd roedd yr opsiynau hyn yn cael eu galw'n Opsiynau 3D a 4C. Yn ystod Cam 3 yr adolygiad byddan nhw'n cael eu cyfeirio atyn nhw fel Opsiynau A a B.

Mae ymgyrchwyr yn y canolbarth yn ffafrio Opsiwn 6 o Gam 2, a fyddai'n cadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon ar agor ac yn ychwanegu cerbyd ymateb brys i leoliad yng ngogledd Cymru.

Fe wnaeth bron i 5,000 o bobl lofnodi deiseb ar-lein yn 2022 yn gwrthwynebu cau canolfan Caernarfon.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 100 o bobl mewn cyfarfod yn Y Drenewydd y llynedd i ymgyrchu dros gadw canolfan Y Trallwng tu hwnt i 2026

Ym mis Chwefror, bydd Cam 3 o'r adolygiad yn gofyn am farn aelodau'r cyhoedd ar y ddau opsiwn A a B ar y rhestr fer, ynghyd â chwe opsiwn arall.

Mae yna wahoddiad hefyd i roi barn ar "gamau ychwanegol sydd wedi'u nodi mewn ymateb i adborth gan y cyhoedd a rhanddeiliaid o Gamau 1 a 2".

Dywed y gwasanaeth bod y pwyllgor yn adolygu'r ddarpariaeth ambiwlans awyr er mwyn "gwella ac addasu'r gwasanaeth i ateb cymaint o alw â phosib yng Nghymru".

Pynciau cysylltiedig