Cwpan yr FA: 5 ‘sioc’ fwyaf timau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Seb Palmer-HouldenFfynhonnell y llun, Getty

Ddydd Sul fe fydd Casnewydd yn wynebu un o gewri'r byd pêl-droed, Manchester United, ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA.

Tybed a fydd 'na fuddugoliaeth gofiadwy i'r Alltudion? Wedi'r cyfan mae gan glybiau Cymru hanes o achosi ambell i sioc.

Wrecsam 2-1 Arsenal (1992)

O bosibl y canlyniad mwyaf annisgwyl yn hanes y gystadleuaeth. Arsenal oedd pencampwyr Lloegr ar ôl iddyn nhw ennill yr hen Adran Gyntaf y tymor blaenorol, tra fod Wrecsam yn agos at waelod y Bedwaredd Adran.

Fel y disgwyl Arsenal ddechreuodd y gêm orau ac fe aethon nhw ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i gôl Alan Smith. Ond gyda 10 munud o'r gêm yn weddill dyma Mickey Thomas yn dod â Wrecsam yn gyfartal cyn i Steve Watkin sgorio'r gôl fuddugol. Achlysur bythgofiadwy i Wrecsam.

Disgrifiad,

Wrecsam 2-1 Arsenal (1992)

Casnewydd 2-1 Caerlŷr (2019)

Mae Casnewydd o'r Ail Adran wedi achosi ambell i sioc yn y Cwpan dros y 10 mlynedd ddiwethaf, ac mae hynny'n sicr yn rhoi gobaith iddyn nhw cyn y gêm yn erbyn Manchester United.

Roedd dyddiau Michael Flynn wrth y llyw yn rhai llewyrchus iawn i'r Alltudion yn y gystadleuaeth hon. Mi oedd 'na fuddugoliaethau yn erbyn Leeds United a Middlesbrough o'r Bencampwriaeth, ond fe ddaeth y canlyniad mwyaf cofiadwy yn erbyn Caerlŷr o Uwch Gynghrair Lloegr.

Disgrifiad,

Casnewydd 2-1 Caerlŷr (2019)

Caerdydd 2-1 Leeds United (2002)

Roedd Leeds United ar frig Uwch Gynghrair Lloegr ar y pryd, ac mi oedd eu carfan yn llawn sêr fel Rio Ferdinand, Robbie Fowler a Mark Viduka. Roedd Caerdydd ar y llaw arall yn chwarae dwy gynghrair yn is na nhw yn yr Adran Gyntaf.

Er i Viduka roi Leeds ar y blaen, mi oedd Yr Adar Gleision yn gyfartal ar yr egwyl diolch i gic rydd wych Graham Kavanagh. Ac ar ôl i Alan Smith gael ei hel o'r cae i Leeds yn yr ail hanner, roedd 'na achos dathlu go iawn i gefnogwyr Caerdydd ar ôl i Scott Young rwydo gyda phedwar munud o'r gêm yn weddill.

Disgrifiad,

Caerdydd 2-1 Leeds United (2002)

Abertawe 1-0 West Ham (1999)

Roedd Abertawe'n chwarae yn yr hen Drydedd Adran ar y pryd - tair adran yn is na West Ham oedd yn Uwch Gynghrair Lloegr. Gêm ail-chwarae oedd hon ar ôl iddi orffen yn gyfartal 1-1 yn Upton Park. Er bod Rio Ferdinand, Neil Ruddock, Frank Lampard, Trevor Sinclair a John Hartson i gyd yn nhîm West Ham y noson honno, Martin Thomas sgoriodd unig gôl y gêm i'r Elyrch ar y Vetch.

Disgrifiad,

Abertawe 1-0 West Ham (1999)

Rhediad Caernarfon (1986/87)

Cyn dyddiau Cynghrair Cymru roedd Caernarfon yn chwarae yng Nghynghreiriau Lloegr. Yn nhymor 1986/87 roedden nhw yn y Northern Premier League gyda Bangor a Rhyl.

O dan arweinyddiaeth John King fe lwyddon nhw i guro Stockport County yn y rownd gyntaf a Chaerefrog yn yr ail rownd - dau glwb oedd yn llawer uwch 'na nhw ym mhyramid pêl-droed Lloegr, cyn colli yn erbyn Barnsley. Mae'r rhediad yma i'r drydedd rownd dal yn rhywbeth mae'r Cofis yn ei drafod ar yr Oval hyd heddiw.

Disgrifiad,

Rhediad Caernarfon (1986/87)

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig