Y byd yn gwylio Wrecsam... yn Gymraeg!
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn gêm gyffrous yn erbyn Coventry, mae Wrecsam wedi cyrraedd pedwaredd rownd Cwpan yr FA am y tro cyntaf ers 2000... ac roedd y cyfan i'w weld drwy gyfrwng y Gymraeg ar S4C.
Mae rhaglen Sgorio wedi bod yn darlledu gemau byw ers blynyddoedd ac yn denu gwylwyr o bob man, a nhw oedd â'r hawliau i ddangos y gêm gyffrous yma lle enillodd Wrecsam o 4 gôl i 3 yn erbyn Coventry City, tîm o'r Bencampwriaeth.
Mi'r oedd ambell i berson enwog yn gwylio'r gêm drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac yn annog i eraill wneud yr un fath!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Y ffan yn y fan
Does dim dwywaith amdani bod poblogrwydd Wrecsam wedi cynyddu ar hyd a lled y byd ers i'r actorion enwog Ryan Reynolds a Rob McElhenney ddod yn berchnogion ar y clwb. Er hynny, mae 'na nifer o bobl wedi aros yn driw i'r crysau cochion ers blynyddoedd, ac mae Gary Pritchard yn un o'r rheiny.
Fodd bynnag, roedd ei olygfa o'r gêm hon yn wahanol iawn i'r hyn y mae ffan arferol yn ei weld ar y teras.
Roedd Gary yn gweithio fel Cydlynydd VT ar dîm cynhyrchu rhaglen Sgorio ac mae'n sylweddoli yn dilyn y gêm ei fod wedi bod yn gweithio ar rywbeth arbennig.
"Ar y pryd, ti ddim yn meddwl amdano fo. Ti'n eistedd yn ôl wedyn ac yn gweld bod Ryan Reynolds 'di bod yn gwylio'r gêm, a pan ti'n gwybod dy fod di wedi bod yn rhan o'r darllediad mae pobl fel fo neu bobl o America wedi bod yn ei wylio, ti'n meddwl... o ia!
"Mae mynd adra'r noson honno a gweld ei bod hi wedi cael ei dewis fel y gêm gyntaf ar Match of the Day, a dy fod di wedi bod yn rhan o'r cynhyrchiad, yn deimlad reit swreal."
Mae Gary wedi bod yn gweithio gyda'r rhaglen ers blynyddoedd ac wedi cael ambell i foment gofiadwy.
"'Da ni 'di bod yn lwcus ar Sgorio, 'da ni 'di bod yn gwneud gemau cwpan FA ers blynyddoedd. Naethon ni wneud gêm Wrecsam yn erbyn Brighton ychydig o flynyddoedd yn ôl. O'n i'n ddigon lwcus i fod yn sefyll yn gwneud darnau i gamera hefo cefnogwyr Wrecsam yn y gêm yn Brighton. Mi naeth honno orffen yn gyfartal, felly mi ges i fod yn rhan o'r tim cynhyrchu wedyn yn y gêm ail chwarae yn ôl ar y Cae Ras."
Er hyn, nid yn aml y mae rhywun yn cael gweithio ar gêm mor gyffrous.
"Dwi ddim yn meddwl bod 'na unrhyw un o'r gemau clybiau byw dwi 'di gweithio arnyn nhw ar Sgorio wedi bod mor gyffrous â'r gem yna dydd Sadwrn, ac wedi ennyn gymaint o ymateb.
"Dwi'n meddwl bod 'na lot o bobl y tu allan i Gymru wedi sylweddoli ei bod ar S4C ar ôl gweld y sgôr a meddwl - dwi angen gwylio hwn!"
Dim yn cymharu â sefyll ar y teras
Ond, fel ffan, roedd hi'n anodd i Gary glywed yr hyn oedd yn digwydd y tu mewn i'r cae tra'n eistedd y tu allan.
"Ti'n eistedd mewn maes parcio mewn tryc yn clywed dy fêts di i gyd tu mewn yn y stadiwm yn joio'i hunain, ac yn gweld yr holl ddathlu. Ti yn colli bod yn y dorf yng nghanol y canu a'r gorfoleddu."
Y bore hwnnw, doedd o ddim yn disgwyl unrhyw beth ond colled i Wrecsam. Roedd hi'n dipyn o sioc iddo, felly: "Mi oedd o'n hollol annisgwyl i fi. Bore'r gêm o'n i'n meddwl y basa' nhw 'di bod yn rhy dda i ni, y basa' ni'n gwneud sioe dda ohoni ond yn colli. Hyd yn oed pan sgorion ni'r gol gynta' o'n i'n meddwl - 'da ni di procio'r llew.
"Pan aethon ni mewn ar yr egwyl wedi sgorio'r trydydd er bo nhw 'di cael un yn ôl, oni'n meddwl... mae 'na jans yn fan hyn!"
Er i'r tîm gryfhau'n sylweddol dros y blynyddoedd, ac er iddyn nhw berfformio'n wych yn ystod y gêm, mae'n cyfaddef bod 'na elfen o 'hudoliaeth Cwpan yr FA' y tu ôl i'r fuddugoliaeth.
"Fasa 'na neb yn trio dadlau bod y tîm sydd 'di cael eu rhoi at ei gilydd yn chwaraewyr non league. Mae 'na chwaraewyr gafodd gynnig mynd i'r adran gyntaf ond wedi penderfynu dod atom ni gan ein bod ni'n talu cyflog go lew.
"Ond, mae 'na elfen gryf o magic of the cup yna hefyd. Naw gwaith allan o 10 mi fasa' Coventry wedi ennill. Naethon nhw daro'r postyn ddwywaith, ac mi oeddan nhw'n anlwcus. Naethon nhw ddim dechrau chwarae tan oeddan ni lawr i 10 dyn."
Fel yr hen ddyddiau
I'r rhai sydd yn cofio'r hen ddyddiau, mae'r rowndiau hyn mewn cystadleuaeth fel Cwpan yr FA yn gartref naturiol i'r clwb, ond yn ystod yr ugeinfed ganrif ar hugain, dydi pethau ddim wedi bod mor hawdd i Wrecsam.
"Rhai o fy atgofion pennaf i o ddilyn Wrecsam yn fy ugeiniau a tridegau ydi eu gwylio yn chwarae'n erbyn timau fel Birmingham, West Ham a Brentford.
"Mae'r dyddiau yna o chwarae yn y drydedd rownd doed a ddelo wedi mynd. 'Da ni'n gorfod chwarae i sicrhau ein lle yn y rownd gyntaf erbyn hyn. I ffans mwy aeddfed, mae trydydd neu bedwaredd rownd y gwpan yn rywle 'da ni wedi arfer bod, ond mae hi'n amser maith ers i ni fod yna. Mae'n dod ag atgofion melys yn ôl.
"Un o'r tymhorau gorau gawson ni fel criw o gochion Ynys Môn yn dilyn Wrecsam oedd y tymor pan 'naethon ni gyrraedd rownd yr wyth olaf, ond colli yn anffodus yn erbyn Chesterfield. 'Di o'm cweit yn dod â'r atgofion yna'n ôl eto, ond gawn ni weld sut eith pethau!"
Effaith Hollywood
Er eu profiad mewn cynghreiriau uwch ac uchafbwyntiau lu mewn gemau cwpan yr FA, mae Wrecsam yn treulio eu pymthegfed tymor y tu allan i'r gynghrair bêl-droed erbyn hyn, ers disgyn o'r Ail Adran yn 2008.
Daeth tro ar fyd yn ddiweddar wrth i ddau actor enwog brynu'r clwb a buddsoddi yn yr ymdrech i ddychwelyd yn ôl i uchelfannau'r pyramid pêl-droed.
Yn sgîl y pryniant a'u cyfres boblogaidd Welcome to Wrexham, maent wedi denu cefnogwyr rhyngwladol newydd. Er yn cydnabod hyn, mae Gary'n dweud bod yna gefnogaeth selog wedi bod ers blynyddoedd.
"Mae'r gefnogaeth wedi bod yna erioed. Dwi'n cofio tymhorau lle fasa' chdi'n cael rhyw 4,000 ar y Cae Ras, ac yna ar ddiwedd y tymor os oeddan ni ar gyrion y gemau ail gyfle neu ar fin ennill dyrchafiad, roedda' chdi'n gallu sicrhau bod y Cae Ras am fod yn orlawn.
"Fasa' chdi'n sefyll ar y Kop a gweld wynebau o Sir Fôn, o Wynedd, hogiau sydd ddim yn cefnogi Wrecsam ond yn falch o'u gweld yn gneud yn dda.
"Be' mae'r arian yma wedi ei sicrhau ein bod ni'n gwneud yn dda yn gynt yn y tymor. Mae'r gefnogaeth yn dod hefo hynny.
"Mi oedd o'n wych pan o'n i'n isda yn y tryc yn gweld yr holl fysus yn cyrraedd o arfordir y gogledd i gyd. Mae'n braf i fi weld bod y gefnogaeth yna'n troi allan i wylio Wrecsam doed a ddelo rŵan."
Dyfodol disglair - ar y teras ac yn y tryc
Mae Gary'n obeithiol y bydd Wrecsam yn dathlu ar ddiwedd y tymor, ond mae'n dibynnu ar ganlyniadau un tîm arall...
"Mae Notts County a ni yn mynd benben â'n gilydd. Y gobaith ydi bod ganddon ni'r garfan i barhau tan ddiwedd y tymor gan obeithio eu bod nhw'n llithro ar y ffordd.
"Dydw i ddim isio i'r ras fynd i'r wythnosau olaf. 'Dw i'm yn meddwl all fy nerfau i gymryd hynny!"
Ac er ei fod yn falch o gyfrannu i'r darlledu, ar y teras y mae ei galon, ac yno y mae'n dymuno bod.
"'Dwi di bod yn ffodus ers blynyddoedd maith. Mi'r oeddwn i'n gweithio fel sylwebydd i Radio Cymru pan oeddwn i'n cael sylwebu ar gemau Wrecsam bron yn wythnosol. 'Dw i bellach yn gweithio ar yr ochr deledu hefo Sgorio. Mae bod yn ffan yn y gêm tra'n gweithio yn rywbeth dwi'n dod i arfer hefo fo ond 'neith o byth gymryd lle bod ar y teras hefo dy fêts yn mwynhau"
Hefyd o ddiddordeb: