Casnewydd yn colli mewn gêm gofiadwy yn erbyn Man Utd
- Cyhoeddwyd
Mae Casnewydd allan o gwpan FA Lloegr ar ôl cael eu curo gan Manchester United yn y bedwaredd rownd.
Colli fu hanes Casnewydd o 2-4 yn eu gêm fawr yn Rodney Parade yn erbyn Manchester United.
Gyda thorf fawr yn eu cefnogi, camodd y tîm cartref i'r cae yn llawn hyder.
Ond o fewn chwarter awr, roedd yr ymwelwyr wedi sgorio dwy gôl - y gyntaf yn ergyd o du allan i'r cwrt cosbi gan Bruno Fernandes a'r ail o droed Kobbie Mainoo, ei gôl gyntaf i'r clwb.
Er bod yr ymwelwyr yn llwyr reoli'r gêm, tarodd Casnewydd yn ôl wedi 36 munud, gyda gôl o bellter gan Bryn Morris.
Gyda'r sgôr yn 1-2 ar yr egwyl, roedd gobaith Casnewydd o greu sioc yn erbyn un o fawrion y byd pêl-droed yn fyw iawn.
Dair munud wedi'r hanner, daeth Casnewydd yn gyfartal wrth i Will Evans sgorio.
Fe sgoriodd Antony i Man Utd gydag ugain munud o'r gêm yn weddill, ei gôl gyntaf y tymor hwn.
Er i Gasnewydd frwydro hyd y diwedd, roedd profiad y tîm o'r Uwch Gynghrair yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr gyda Hojlund yn sgorio eu pedwaredd gôl yn y munudau olaf.
Roedd Suzanne Harris a'i mab Macsen, sy'n byw yng Nghasnewydd, yn lwcus i gael tocyn i weld y gêm.
Dywedodd Suzanne, a gafodd ei geni a'i magu yng Nghasnewydd, fod pawb yn "llawn cyffro."
"Am brofiad bod Man Utd wedi dod lawr i Gasnewydd ac am brofiad i'r plant i gyd gallu dod i wylio'r gêm," meddai.
"Ma' gymaint o buzz o gwmpas y dre'."
Dywedodd Abby Cripps oedd yno i wylio'r gêm ei fod yn brofiad "hollol gyffrous".
"Mae'n fraint i dîm mor fawr ddod lawr i Gasnewydd, mae'n hollol anhygoel i'r ardal leol hefyd," meddai.
Dywedodd fod y ddinas wedi bod yn "brysur iawn" gyda "chymaint o bobl wedi bod mas yn cefnogi".
"Mae'n hollol anhygoel i weld cymaint o bobl yn y ddinas."
Dywedodd Ben ei fod yn gobeithio bod y gêm yma yn "sbarduno rhywbeth newydd yn y gymdeithas".
Aeth ymlaen i sôn am effaith y gêm a'i phwysigrwydd i'r ardal.
"Os mae'n dod â rhywbeth i'r gymdeithas, a'n dod â'r gymuned at ei gilydd, does dim ots beth yw'r sefyllfa."
Roedd Gail Levi a'i mab Adam, o Gasnewydd, yn eu crysau melyn yn barod i'r gêm.
Dywedodd y ddau fod prysurdeb wedi bod yn y ddinas a bod y bariau a'r bwytai wedi bod dan eu sang yr wythnos hon.
Fe fydd Manchester United yn teithio i Bristol City neu Nottingham Forest yn y rownd nesaf.
Bydd Wrecsam yn herio Blackburn Rovers oddi cartref yn y bedwaredd rownd nos Lun, a chroesawu Newcastle i'r Cae Ras fydd eu gwobr os ydyn nhw'n cyrraedd y pumed rownd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2024