Cwpan yr FA: Herio Manchester United yn 'gwireddu breuddwyd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn ôl is-hyfforddwr Casnewydd Dafydd Williams mae 'na "gynnwrf" mawr yn y ddinas ac ymysg y garfan

Yr adeg yma llynedd roedd Nathan Wood yn chwarae yn erbyn timau fel Aberystwyth, Caernarfon a Gresffordd.

Ond ddydd Sul fe allai cyn-ymosodwr Penybont fod yn camu i'r cae dros Gasnewydd i herio Manchester United yng Nghwpan FA Lloegr - rhywbeth mae'n ei ddisgrifio fel "breuddwyd yn dod yn wir".

Cymaint mae'r galw wedi bod am docynnau ar gyfer yr ornest nes bod y swyddfa wedi gorfod cau am gyfnod, oherwydd rhwystredigaeth ymhlith y rheiny oedd ddim yn llwyddiannus.

Ac er bod y clwb wedi codi dau eisteddle dros dro er mwyn cynyddu nifer y seddi, roedd rhai o chwaraewyr y clwb ymhlith y rhai wnaeth fethu â chael tocynnau ychwanegol.

Ffynhonnell y llun, S4C/Sgorio/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nathan Wood yn efelychu dathliad Marcus Rashford ar ôl sgorio i Benybont

Er mai ym mhedwaredd haen cynghreiriau Lloegr mae Casnewydd yn chwarae, maen nhw wedi croesawu sawl tîm o'r Uwch Gynghrair yn y gwpan yn ddiweddar.

Mae timau fel Spurs, Man City a Brighton wedi ymweld â Rodney Parade yn y chwe blynedd ddiwethaf, ac yn 2019 fe lwyddodd yr Alltudion i guro Caerlŷr.

Ond er yr holl enwau mawr yma, roedd Deborah Henderson, sy'n gweithio yn swyddfa docynnau'r clwb, mewn sioc pan welodd hi enw'r ymwelwyr nesaf yn dod allan o'r het.

"Pan ddywedodd rhywun mai Manchester United oedd yn dod, ro'n i'n meddwl mai jôc oedd y peth," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Deborah Henderson fod yr awyrgylch wedi bod yn grêt yn ystod yr wythnos yn arwain at y gêm fawr

Mae hi a'i chydweithwyr wedi bod yn gwerthu llawer mwy o docynnau na'r arfer yn y bythefnos ddiwethaf, wedi i'r ddau eisteddle dros dro gynyddu capasiti'r stadiwm i tua 9,500.

Fe werthwyd pob tocyn ar gyfer y fuddugoliaeth dros Wrecsam yn y gynghrair y penwythnos diwethaf, ac o fewn dim roedd rhai Manchester United hefyd wedi mynd.

"Y diwrnod aeth y tocynnau ar werth nes i ddod mewn i'r swyddfa, gweld y ciw hanner ffordd lawr yr hewl, a meddwl 'waw, co ni de'," meddai Deborah.

"Mae wedi bod yn wythnos mor brysur ond mae'r awyrgylch wedi bod yn grêt."

Disgrifiad o’r llun,

Er ei fod yn edrych 'mlaen yn arw, mae Nathan Wood yn mynnu bod gan y chwaraewyr "swydd i'w wneud"

Fel bachgen lleol roedd Nathan Wood, 26, wedi gobeithio cael tocynnau ychwanegol i'w deulu a'i ffrindiau.

"Es i edrych ar y ciw fore dydd Llun ac roedd 'na 14,000 o bobl o' mlaen i, felly doedd dim gobaith!" meddai.

Nid Wood yw'r unig un o garfan Casnewydd sydd wedi gwneud y siwrne o Uwch Gynghrair Cymru yn ddiweddar.

Yn 2022 fe symudodd Will Evans, sy'n fab i deulu fferm o Sir Drefaldwyn, o'r Bala i Gasnewydd ac mae bellach yn brif sgoriwr y clwb.

Mae'r cyfle i wneud argraff yn erbyn un o "ddau neu dri chlwb mwyaf y byd" felly, yn ôl Wood, yn un maen nhw'n benderfynol o fanteisio arno.

"I rannu cae gyda rhai o chwaraewyr gorau'r byd, dyna 'dych chi'n breuddwydio amdano pan 'dych chi'n blentyn, dyna yw'r peth nesa' i chwarae iddyn nhw," meddai.

"Ond mae gyda ni swydd i'w wneud hefyd, felly gobeithio gwnawn ni fwynhau e a dangos beth allwn ni wneud, i'r ddinas ac i'r cefnogwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r eisteddleoedd dros dro wedi cynyddu capasiti Rodney Parade i tua 9,500

Ers i Gasnewydd drechu Eastleigh o'r chweched haen yn y rownd ddiwethaf, dydy ffôn swyddog cyfryngau'r clwb, Louis Cartwright-Walls "heb stopio canu".

"Nhw yw'r clwb mwyaf yn y byd, felly o ran y cyfryngau mae cynnal hon yn dasg enfawr," meddai.

"Ond yn fwy na hynny, mae'r ochr gymunedol, y cyffro. Mae'n rhoi Casnewydd ar y map a 'dych chi'n teimlo hynny."

Gyda'r gêm yn fyw ar BBC One, yn ogystal â'r seddi ychwanegol, mae amcangyfrif y gallai'r ornest fod werth tua £400,000 i'r clwb.

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Evans yw ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Casnewydd

Mae'n swm sylweddol o ystyried trafferthion ariannol y clwb yn y gorffennol, a hwythau nawr newydd gael eu cymryd drosodd gan gyn-gadeirydd Abertawe, Huw Jenkins.

"I glwb fel Casnewydd mae'n achubiaeth i gael swm fel 'na o arian amser yma yn y tymor," meddai'r ysgrifennydd Gareth Evans.

"Mae rhywbeth am y lle 'ma - ni wrth ein bodd gyda rhediad yn y gwpan, a ni'n denu'r timau mawr.

"A phob parch i'r timau eraill o'r Uwch Gynghrair sydd 'di bod 'ma, 'dyn ni'n sôn am Manchester United fan hyn, gyda'u statws nhw.

"Dydyn ni erioed wedi chwarae nhw chwaith, felly bydd hanes yn cael ei greu fan hyn."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n mynd i fod yn ddiwrnod anhygoel", yn ôl Andrew Gallivan

Er nad oedd Andrew Gallivan, 54, yn llwyddiannus wrth geisio cael tocyn, mae'n edrych ymlaen at yr awyrgylch yn y ddinas beth bynnag.

"Gobeithio gallwn ni fachu canlyniad a'u hanfon nhw gartref gyda'u cynffonau rhwng eu coesau," meddai.

"Os chi'n meddwl am yr arian teledu, 10,000 o gefnogwyr yn gweiddi dros Gasnewydd - mae'n mynd i fod yn ddiwrnod anhygoel."

Bydd y gic gyntaf am 16:30 bnawn Sul gyda'r gêm yn fyw ar BBC One.