Pryder am ddyfodol canolfan ymwelwyr Coed y Brenin
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Iau yn sgil pryder am ddyfodol canolfan ymwelwyr safle beicio mynydd Coed y Brenin ger Dolgellau.
Mae'r ganolfan ymhlith tair canolfan ymwelwyr yn y gogledd a'r canolbarth sy'n cael eu hadolygu gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar hyn o bryd.
Yn ôl ymgyrchwyr lleol, byddai colli canolfan ymwelwyr y safle yn "ergyd enfawr".
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mai ceisio arbed arian yw nod yr adolygiad.
Fe agorodd canolfan ymwelwyr Coed y Brenin - rhwng pentref Ganllwyd a Thrawsfynydd - ym 1996.
Mae'r dros 50 milltir o lwybrau beicio mynydd, llwybrau cerdded a'r caffi yn denu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Yn ogystal â'r ganolfan yng Nghoed y Brenin, mae gan CNC ganolfannau ym Mwlch Nant yr Arian ger Ponterwyd yng Ngheredigion, ac yn Ynyslas, sy'n warchodfa natur ar aber Afon Dyfi.
"'Da ni yn dibynnu ar lefydd fel Coed y Brenin," meddai Llinos Rowlands, perchennog busnes yn Nolgellau.
"Dydi'r safle nid yn unig yn dda i iechyd pobl leol ond o ran ni fel busnes, mae pobl yn dod i'r ardal yma oherwydd atyniadau fel 'na," meddai.
"Hoffwn weld y llwybrau'n ymestyn nid cau lawr. Mae cael y ganolfan yna yn denu teuluoedd, nid yn unig rheini sydd â phrofiad yn beicio, felly mae'n holl bwysig i ni fel busnes."
Gyferbyn a busnes Ms Rowlands mae becws Ceri Jones - sydd hefyd yn pryderu am effaith colli'r ganolfan.
"Mae'n dod a lot o dwristiaeth i'r dre. Da' ni'n cael nhw'n dod am bicnics ac am frecwast cyn mynd i feicio.
"Byddai colli'r ganolfan yn amharu llawer ar y dre 'ma."
Ychwanegodd: "A hefyd fel mam, mae fy mhlant i'n mynd i Goed y Brenin ar benwythnosau felly mae'n siom o ran hynny hefyd."
Mae Steve Beech byw yn lleol ac yn defnyddio'r ganolfan yn aml.
"Mi fyddai hi'n ofnadwy os yw'r ganolfan yn cau," meddai.
"Mae'n rhan hanfodol o'r hyn sydd ar gael yna. Mae'n sicrhau bod yna rhywbeth i bawb yng Nghoed y Brenin."
'Byddai'n ergyd anferth'
Mae Rhys Llywelyn yn byw gyferbyn a'r ganolfan: "Mae Coed y Brenin yn le arbennig iawn. Dwi'n trio dod dwywaith neu teirgwaith yr wythnos gan fy mod i'n byw mor agos.
"Mi fyddai'n ergyd anferth i golli'r ganolfan ymwelwyr. Mae'r ganolfan wedi bod yn ganolbwynt i ymwelwyr i ddod i'r ardal ynghyd a defnydd eang gan bobl leol."
Mae'r ymateb i'r adolygiad yn lleol wedi arwain at drefnu cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol y ganolfan.
Mae Coed y Brenin yn rhan o ward y cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths, sy'n dweud bod y cyfarfod yn Neuadd y Pentref, Ganllwyd nos Iau yn gyfle i bobl leisio'u barn.
"Mae'r newyddion bod Cyfoeth Naturiol Cymru'n adolygu dyfodol y canolfan yma wedi ysgwyd y gymuned hon. Mae cael adnodd, fel Coed y Brenin, ar agor gydol y flwyddyn, yn cynnig gwasanaeth hollbwysig i'r ardal hon," meddai.
Mewn ymateb dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mai diffyg arian yw'r rheswm am yr adolygiad, a'u bod yn ceisio penderfynu pa wasanaethau y bydd modd eu darparu yn y dyfodol.
Mae'r gwaith ymchwil yn cynnwys edrych ar ddyfodol eu canolfannau ymwelwyr fel yr un yng Nghoed y Brenin, ond mae'r corff yn pwysleisio nad yw eu gwarchodfeydd natur a'u coedwigoedd dan fygythiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2016