Cau gorsaf bad achub Pwllheli wedi ffrae 'ddifrifol'

  • Cyhoeddwyd
RNLI PWllheliFfynhonnell y llun, Don Jackson-Wyatt

Nid yw bad achub Pwllheli yn medru gweithredu ar hyn o bryd oherwydd "methiant difrifol" yn y berthynas rhwng aelodau o'r criw yno, medd yr RNLI.

Dywedodd y corff sy'n rhedeg badau achub bod nifer o aelodau allweddol o staff yr orsaf wedi ymddiswyddo, a'u bod wedi gwneud y "penderfyniad anodd" i ailosod trefniadau gweithredol Gorsaf Bad Achub Pwllheli.

Yn ddiweddar fe gynhaliodd yr elusen ymchwiliad trylwyr i bryderon a godwyd yn yr orsaf, ac fe ddywedon nhw eu bod "yn hyderus bod ein prosesau wedi eu dilyn yn deg".

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd yr RNLI: "Mae'r RNLI yn cydnabod bod llawer o'r gwirfoddolwyr ym Mhwllheli wedi ymrwymo i achub bywydau ar y môr, ond nid yw'n bosibl rhedeg gwasanaeth bad achub gweithredol gyda diffyg ymddiriedaeth ac anghytgord.

"O ganlyniad, mae'n chwith gan yr RNLI orfod diweddu trefniadau gwirfoddoli gyda'r holl staff gweithredol."

Ychwanegodd yr elusen mai "nid ar chwarae bach" a wnaed y penderfyniad, ond ei fod yn "hanfodol" er mwyn symud ymlaen yn "gynhwysol a chynaliadwy ym Mhwllheli am flynyddoedd lawer i ddod".

"Mae'r môr yn amgylchedd heriol ac mae angen lefel ddofn o ymddiriedaeth rhwng aelodau'r criw i achub bywydau yno. Rydym yn ddiolchgar dros ben i'n gwirfoddolwyr am eu gwasanaeth a'u hymrwymiad, ond rydym wedi gorfod delio gyda sefyllfa gymhleth tu hwnt.

"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal i'n staff a'n gwirfoddolwyr a'r rhai sy'n cael eu hachub er mwyn creu amgylchedd ddiogel lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel a'u parchu."

'Anghydweld llwyr'

Dywedodd Ryan Jennings, Rheolwr Rhanbarthol RNLI dros Gymru wrth BBC Cymru: "Roedd yna anghydweld llwyr ymhlith y criw, roedd ymchwiliadau wedi eu dilyn trwy broses a gweithdrefn yr RNLI, ac roedd anghydweld llwyr o hyd, a felly dyma'r penderfyniad mae'r sefydliad wedi'i wneud i sicrhau ein bod yn gallu gwneud yr orsaf hon yn lle diogel i bawb.

"Mae diogelwch yn hollbwysig i'r RNLI, ac mae gwneud yn siŵr bod ein criwiau'n ddiogel yn bwysig iawn i ni. Felly hyd nes bod gennym ni nifer diogel o griw a strwythur rheoli diogel yn ei le i gefnogi'r orsaf, ni allwn fynd yn ôl i wasanaethu."

Disgrifiad o’r llun,

Cartref Bad Achub Pwllheli, agorwyd ar ei newydd wedd yn 2020

Aeth y corff ymlaen i ddweud eu bod wedi ymrwymo i orsaf Pwllheli a'u bod yn canolbwyntio ar gydweithio gyda'r gwirfoddolwyr sy'n fodlon ymrwymo i ailadeilau'r tîm.

Maen nhw wedi gwahodd y rhai sydd am fod yn rhan o ddyfodol gorsaf Pwllheli i fynegi hynny, ac i drafod y posibilrwydd o ailsefydlu'r berthynas wirfoddol.

Yn y cyfamser, bydd nifer o orsafoedd RNLI cyfagos yn gwneud y gwaith a fyddai'n arfer cael ei wneud gan orsaf Pwllheli.

Bydd badau achub bob tywydd Porthdinllaen a'r Bermo yn rhan o hynny, gyda chefnogaeth gan fadau achub Atlantic 85 o Abersoch a Chricieth, sef y badau achub cyflymaf sydd gan yr RNLI.

Pynciau cysylltiedig