Cocsyn newydd Pwllheli yn dilyn ôl troed ei dad

  • Cyhoeddwyd
Clive a Tomos MooreFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Clive a Tomos Moore yng ngorsaf y bad achub ym Mhwllheli

Mae dyn o Ben Llŷn yn dilyn ôl traed ei dad wrth gymryd drosodd fel cocsyn bad achub y dref.

Ymunodd Tomos Moore â bad achub Pwllheli yn 17 oed, gan dreulio dros 11 mlynedd yn gwirfoddoli ar y môr.

Ond wedi cwblhau misoedd o hyfforddiant yng nghanolfan yr RNLI, mae penderfyniad ei dad i sefyll lawr wedi agor y drws i Tomos, sy'n 29 oed.

Gan barhau â'r traddodiad teuluol, Tomos sydd bellach yn gyfrifol am waith dydd i ddydd yr orsaf ym Mhwllheli.

Ffynhonnell y llun, RNLI/Elizabeth Perry
Disgrifiad o’r llun,

Tomos Moore ar fwrdd cwch achub Shannon yr RNLI

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener dywedodd ei dad, Clive, sydd wedi treulio 35 mlynedd gyda bad achub y dref: "Dwi'n ofnadwy o falch just i feddwl be' mae o wedi'i gyflawni mewn cyfnod weddol fyr, a'r ffaith fod o wedi cyfiawnhau'r ffydd mae'r RNLI wedi'i ddangos drwy gynnig y swydd iddo fo.

"Mae Tomos yn d'eud fod yr hyfforddi 'di bod yn galed, ond mae'r fraint o fynd a cwch £2.5m allan, a gyda chriw o bump, mae o yn dipyn o gyfrifoldeb i rywun mor ifanc â Tomos.

"Dwi 'di goro' sefyll lawr fel cocsyn, dio'm yn rywbeth sydd 'di bod yn hawdd iawn i mi wneud, ond mae'n help i w'bod fod Tomos yna i gario'r cyfrifoldeb."

'Rhan mawr o fy mywyd'

Wedi treulio amser yn gweithio fel technegydd theatr yng nghanolfan Pontio ym Mangor, mae Tomos yn cydnabod ei fod rŵan yn wynebu newid byd.

"Oddwn i'n gwirfoddoli gyda'r RNLI am oddeutu 11 mlynedd, yn trefeillio nôl a mlaen o Bwllheli i Fangor, ond mi ddoth y swydd i fyny a nes i feddwl 'sw ni'n ymgeisio amdani," dywedodd.

"Mae o wastad 'di bod yn rhan mawr o fy mywyd i weld dad yn mynd allan yn yr haf ac yn y gaeaf, hwyr yn y nos, ond mae o'n chwarae rhan mawr yn mywyd gweddill y criw hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Cartref Bad Achub Pwllheli, agorwyd ar ei newydd wedd yn 2020

Ers cael ei benodi y llynedd, roedd yn rhaid i Tomos dderbyn hyfforddiant yng nghanolfan yr RNLI yn Poole, cyn gallu cymryd drosodd yn swyddogol.

Ond pwysleisodd Tomos y pwysigrwydd o gael digon o wirfoddolwyr, gyda'r orsaf ym Mhwllheli yn cynnal sesiwn recriwtio ddydd Sadwrn.

"Mi gafon ni haf prysur flwyddyn dwytha' ac yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i helpu allan ar y lan ac i alluogi ni i hel arian.

"Heb y criw ar y lan fysan ni ddim yn gallu lansio, drwy yrru tractors, marshallio ac yn y blaen, [hebddyn nhw] 'sa ni ddim yn gallu mynd i'r môr.

"Mae nhw 'run mor hanfodol a chriw y môr."

Pynciau cysylltiedig