'Canoli gemau rygbi Cymru ar S4C sydd orau i'r iaith' - Huw Llywelyn Davies

  • Cyhoeddwyd
Huw Llewelyn DaviesFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

"Dyw'r gêm ar lawr gwlad ddim yn ffynnu" meddai cyn-sylwebydd rygbi'r BBC Huw Llywelyn Davies

Byddai'n well o ran yr iaith Gymraeg pe bai holl gemau rygbi rhyngwladol Cymru yn cael eu canoli ar S4C, meddai cyn-sylwebydd rygbi'r BBC Huw Llywelyn Davies.

Ond cyfaddefodd wrth bwyllgor diwylliant Senedd Cymru ei fod mewn "cyfyng gyngor" wrth bwyso a mesur ystyriaethau ariannol ar y naill law a'r "effaith andwyol y byddai'n cael os nad yw'r gemau ar gael i bawb".

Ddydd Mercher fe wnaeth Senedd Cymru bleidleisio o blaid galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys gemau Chwe Gwlad Cymru yn y categori di-dâl.

Llywodraeth y DU sydd â'r pwer i benderfynu - maen nhw yn diweddar wedi gwrthod galwad debyg gan Aelodau Seneddol Cymreig.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gemau Cymru yng Nghyfres yr Hydref wedi bod ar sianel y mae'n rhaid talu amdani, gyda sylwebaeth yn Gymraeg ar y botwm coch ac uchafbwyntiau ar S4C.

Dywedodd Huw Llywelyn Davies, "o safbwynt y Gymraeg, byddai'n well cael y gemau wedi eu canoli ar S4C unwaith eto, fel sy'n digwydd gyda phêl-droed".

"Byddai mwy o bobl yn gwylio felly yn y Gymraeg."

Ond fel llywydd Clwb Rygbi Pentyrch, ar gyrion Caerdydd, dywedodd bod mwy yn gwylio gemau yn y clwb pan maent ar sianeli y mae'n rhaid talu amdanynt.

'Cyfyng gyngor'

Mynegodd bryderon am gyflwr y gêm yng Nghymru ar lawr gwlad.

"Os edrychwch chi ar benwythnos yng Nghymru, mae tua 20 gêm yn cael eu gohirio pob penwythnos achos bod timoedd yn methu a chael digon o chwaraewyr.

"Felly dyw'r gêm ar lawr gwlad ddim yn ffynnu. Felly ai arian neu exposure sydd angen?

"Dwi mewn cyfyng gyngor, yr un math a phawb arall ar hyn, o bwyso a mesur ar y naill law yr effaith andwyol y byddai'n cael os nad yw'r gemau ar gael i bawb ond ar y llaw arall yr ochr ariannol sy'n cael ei bwysleisio gan Nigel Walker a'r prif weithredwr."

Yn gynharach yn yr un pwyllgor, dywedodd Nigel Walker, cyfarwyddwr rygbi Undeb Rygbi Cymru, "cyn belled ag y mae'r Chwe Gwlad yn y cwestiwn, mae S4C wedi bod yn bartner, ond mewn trafodaethau eraill lle nad yw S4C wedi bod yn bartner rydym wedi llwyddo i sicrhau hawliau iaith Gymraeg ar y botwm coch.

"Hoffwn sicrhau'r pwyllgor o'n hymrwymiad i'r Gymraeg."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Hefyd yn y pwyllgor, rhybuddiodd Undeb Rygbi Cymru y byddai'n "brwydro i oroesi" pe bai gemau byw y Chwe Gwlad yn ymuno â rhestr o ddigwyddiadau teledu rhad ac am ddim sydd wedi'u diogelu.

Dywedodd penaethiaid URC y byddai ceisiadau am hawliau teledu yn is heb y posibilrwydd o gemau yn mynd y tu ôl i wal dâl.

Daw cytundeb presennol y Chwe Gwlad rhwng y BBC ac ITV i ben y flwyddyn nesaf.

'Dinistriol'

Ymddangosodd prif weithredwr URC Abi Tierney gerbron y pwyllgor ar ôl dweud wrth yr ASau mewn llythyr y gallai symud y Chwe Gwlad i'r rhestr warchodedig gael effaith ddinistriol ar rygbi yng Nghymru.

Wrth egluro ei rhybudd, dywedodd fod tua £20m allan o gyfanswm refeniw Undeb Rygbi Cymru o tua £90m y flwyddyn yn dod o hawliau'r cyfryngau.

"Nid ychydig o'n refeniw" yw hynny, meddai, a gyda llai ohono "byddem yn ei chael hi'n anodd goroesi - felly dyna pam ei fod yn ddinistriol."

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Abi Tierney yn brif weithredwr benywaidd cyntaf URC fis diwethaf

Dywedodd cyfarwyddwr yr undeb Nigel Walker nad oedd URC yn dadlau'r achos dros roi'r Chwe Gwlad y tu ôl i wal dâl.

Roedd penderfyniadau ar hawliau cyfryngau yn "gydbwysedd" rhwng y refeniw uwch y gellid ei ennill gan gwmnïau teledu talu, meddai, a'r "cyrhaeddiad" is, o ran y gynulleidfa lai ar gyfer gemau a fyddai'n deillio o hynny.

Ond ychwanegodd, "os ydych chi'n tynnu hynny oddi ar y bwrdd, rydych chi'n cymryd y tensiwn a'r gystadleuaeth yn y farchnad".

"Byddai hynny'n ei gwneud hi'n anodd iawn, oherwydd wedyn byddai'r darlledwyr rhad ac am ddim yn gwybod y gallen nhw gynnig ar lefel y bydden ni'n cael ein gorfodi i'w chymryd heb y gystadleuaeth," meddai.