Cau'r ffenestr drosglwyddo: I ble aeth y Cymry?
- Cyhoeddwyd
Yn gyffredinol mae hi wedi bod yn fis Ionawr gymharol dawel o ran trosglwyddiadau, ond mi oedd yna brysurdeb funud olaf wrth i glybiau Cymru gwblhau eu paratoadau ar gyfer ail hanner y tymor.
Fe gaeodd y ffenestr drosglwyddo yn hwyr nos Iau - gyda Chaerdydd, Abertawe a Wrecsam i gyd yn arwyddo chwaraewyr newydd yn y 24 awr olaf.
Bydd rheolwr Cymru yn falch o weld fod sawl aelod o'i garfan wedi symud yn ystod yr wythnosau diwethaf - gyda'r gobaith o gael rhagor o funudau ar y cae cyn gemau ail-gyfle Euro 2024 fis nesa'.
Dyma olwg ar rai o brif straeon y ffenestr drosglwyddo o safbwynt clybiau Cymru a charfan Rob Page.
Cymry'r Uwch Gynghrair yn symud i'r Bencampwriaeth
Nôl ym mis Tachwedd fe ddywedodd Rob Page y byddai'n annog rhai o aelodau carfan Cymru i ystyried symud ym mis Ionawr er mwyn iddyn nhw gael chwarae yn fwy rheolaidd.
Gyda Chymru'n herio'r Ffindir yn rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle Euro 2024 ar 21 Mawrth, roedd Page yn poeni ynglŷn â'r ffaith nad oedd sawl aelod o'i garfan yn chwarae yn gyson i'w clybiau.
Pwy a ŵyr a gafodd rheolwr Cymru ddylanwad neu beidio, ond mi fydd o'n falch o weld bod sawl Cymro wedi symud yn ystod y cyfnod trosglwyddo.
Mae David Brooks wedi symud ar fenthyg i Southampton yn y Bencampwriaeth ar ôl chwarae 13 o weithiau i Bournemouth yn ystod hanner cynta'r tymor.
Dywedodd ei fod yn "ysu i gael chwarae yn rheolaidd" a bod y cyfle i ymuno â'r Saints yn "un rhy dda i'w golli".
Mae'r ymosodwr Kieffer Moore hefyd wedi symud ar fenthyg i'w gyn-glwb Ipswich tan ddiwedd y tymor, er gwaethaf ymdrechion yr Adar Gleision i'w ddenu yn ôl i Gaerdydd.
Dyma fydd ei ail gyfnod gyda'r Tractor Boys - sy'n anelu am ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair wedi dechrau ardderchog i'r tymor.
Mae amddiffynnwr Cymru, Connor Roberts, hefyd wedi symud ar fenthyg i'r Bencampwriaeth tan ddiwedd y tymor o Burnley.
Mi fydd Roberts yn ymuno â'i gyd-Gymry Ethan Ampadu, Daniel James a Joe Rodon yn Leeds United.
Ymosodwr arall a wnaeth sicrhau trosglwyddiad funud olaf yw Aaron Collins - a symudodd o Bristol Rovers i Bolton Wanderers yn Adran Un.
Mae'r Cymry ifanc Owen Beck a Luke Harris hefyd wedi symud ar fenthyg i Dundee a Chaerwysg.
Diweddglo prysur i'r Adar Gleision
Wedi wythnosau o ddiffyg gweithgarwch o ran trosglwyddiadau i Gaerdydd - rhywbeth a wnaeth i'r rheolwr Erol Bulut gwestiynu a ddylai barhau yn ei swydd - fe wnaeth yr Adar Gleision lwyddo i ychwanegu pump o chwaraewr newydd cyn i'r ffenestr gau.
Fe ymunodd yr amddiffynwr canol Nat Phillips ar fenthyg o Lerpwl, yr ymosodwr Famara Diedhiou ar fenthyg o Granada a Josh Wilson-Esbrand o Manchester City.
Fe ymunodd y chwaraewr canol cae, DavidTurnbull o Celtic, tra bod golwr yr Unol Daleithiau Ethan Horvath wedi arwyddo cytundeb tan 2027 ar ôl gadael Nottingham Forest.
Mae sawl un wedi gadael y clwb yn ystod y cyfnod trosglwyddo hefyd - mae cyfnodau Jonathan Panzo, Ike Ugbo ac Rúnar Alex Rúnarsson ar fenthyg wedi dod i ben, mae'r chwaraewyr canol cae Ebou Adams ac Andy Rinomhota wedi mynd allan ar fenthyg i Derby County a Rotherham, tra bod Vontae Daley-Campbell wedi cytuno i adael y clwb.
Abertawe'n 'gweithio mewn ffordd wahanol' i'w gwrthwynebwyr
Mae hi'n deg dweud fod Abertawe yn canolbwyntio fwy ar benodi rheolwr newydd ar ddechrau mis Ionawr yn hytrach na chwilio am chwaraewyr newydd.
Ond ar ôl penodi Luke Williams, mae'r Elyrch wedi ceisio cryfhau'r garfan - gyda'r Cadeirydd Andy Coleman yn dweud eu bod bellach yn "dadansoddi data o bedwar ban byd er mwyn dod o hyd i dalent", a'u bod yn ceisio "gweithio mewn ffordd wahanol i'w gwrthwynebwyr".
Daeth y sylwadau hynny ar ôl i Abertawe arwyddo'r asgellwr 22 oed o Frasil, Ronald, am ffi sydd heb gael ei gyhoeddi o Estrela da Amadora.
Yn ogystal, fe lwyddodd Abertawe i arwyddo'r asgellwr o Wlad Pwyl, Przemyslaw Placheta ar fenthyg o Norwich a'r ymosodwr Charles Sagoe Jr ar fenthyg o Arsenal tan ddiwedd y tymor.
Does dim llawer i'w nodi o ran ymadawiadau - mae'r Cymro Brandon Cooper wedi symud i Leyton Orient, mae cytundeb Yanick Bolasie gyda'r clwb wedi dod i ben, ac mae'r chwaraewyr ifanc Nathanael Ogbeta a Nathan Tjoe-A-On wedi gadael ar fenthyg.
Hwb hwyr i Wrecsam
Roedd hi wedi bod yn fis Ionawr tawel iawn i Wrecsam oddi ar y cae tan ddiwrnod ola'r cyfnod trosglwyddo, pan gyhoeddodd y clwb eu bod wedi arwyddo amddiffynnwr ac ymosodwr newydd.
Mae Jack Marriot, cyn-ymosodwr Ipswich, Luton, Peterborough a Derby County wedi arwyddo o Fleetwood Town yn Adran Un.
Mae o eisoes wedi sgorio pum gôl mewn 24 gêm i Fleetwood y tymor hwn.
Mae Luke Bolton yn 24 oed ac yn gallu chwarae fel amddiffynnwr dde neu fel asgellwr, ac yn ôl rheolwr y Dreigiau, Phil Parkinson, bydd yn ychwanegu "cyflymder a chrefft i'r garfan".
Dechreuodd ei yrfa gyda Manchester City, cyn symud i Salford yn Adran Dau yn 2021.
Newidiadau Casnewydd yn digwydd oddi ar y cae
O holl glybiau Cymru, Casnewydd sydd wedi bod yn hawlio'r penawdau dros yr wythnosau diwethaf diolch i'w llwyddiant yng Nghwpan FA Lloegr.
Mae Huw Jenkins hefyd wedi cwblhau'r broses o brynu'r Alltudion, a fo sydd bellach yn berchennog ac yn gadeirydd ar y clwb.
Dim ond un chwaraewr y mae Casnewyddwedi ei arwyddo yn ystod y ffenestr drosglwyddo, sef yr ymosodwr o Aberystwyth, Luke Jephcott.
Fe sgoriodd Jephcott, 24 oed, 33 o goliau mewn 103 o gemau i Plymouth Argyle cyn symud i St Johnstone yn yr haf.
Mae'r amddiffynwr Harrison Bright hefyd wedi dychwelyd i'r clwb yn dilyn cyfnod ar fenthyg gyda'r Barri yn y Cymru Premier tra bod yr ymosodwr Nathan Wood wedi ymuno â Cork City ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
- Cyhoeddwyd27 Ionawr