Angharad Mair: S4C wedi 'colli cyfeiriad' a gormod o Saesneg
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi "colli cyfeiriad" mewn blynyddoedd diweddar, ac mae gormod o Saesneg mewn rhaglenni ar hyn o bryd, meddai un o gyflwynwyr amlycaf y sianel.
Dywedodd Angharad Mair, sydd hefyd yn gadeirydd ar gwmni cynhyrchu Tinopolis, ei bod hi "ddim yn deall pam bod rhaid i ni fod yn fwy Seisnig rywsut er mwyn apelio i gynulleidfa newydd".
Yn siarad ar raglen Hawl i Holi BBC Radio Cymru, fe wnaeth hi hefyd gwestiynu strategaeth "ryngwladol" y sianel, a chostau cynnal digwyddiadau tramor.
Doedd S4C ddim eisiau gwneud sylw.
Roedd Angharad Mair yn ymateb i gwestiwn oedd yn holi am raglenni dwyieithog ar S4C.
Atebodd: "Dwi yn meddwl bod S4C yn ystod y cwpl o flynyddoedd diwethaf wedi colli cyfeiriad.
"Sefydlwyd S4C i wasanaethu siaradwyr Cymraeg, dyna oedd ei phwrpas hi a dyna dwi'n meddwl dylse ei phwrpas hi fod heddi - yn enwedig nawr bod cannoedd o sianeli eraill yn cynnig gwasanaeth gwahanol i bobl Cymru."
Ychwanegodd mai "nid dim ond dwyieithrwydd" sy'n ei phryderu, "ond hefyd geiriau fel 'rhyngwladol' a bod yn rhan o fyd 'global'".
"Pam gynhaliwyd parti pen-blwydd S4C yn 40 oed yn Efrog Newydd gyda'r holl gostau i fynd fan'na?
"Pam yn ystod y cythrwfl 'na yn Nantes, ni gyd yn gwybod amdano nawr, oedd S4C mewn parti Clwb Ifor Bach yn 40 oed? Un o'r sefydliadau Cymraeg gorau sydd gyda ni yn y brifddinas.
"Pam bod cynifer o raglenni yn cael eu ffilmio y tu fas i Gymru?"
Wrth alw am arweiniad newydd o fewn y sianel, dywedodd bod angen "hyder" mewn cynnwys Cymraeg.
"Mae'n wych wrth gwrs pan chi'n gweld drama Gymraeg ar rywbeth fel Netflix, ond yr eironi yw ei bod hi'n 30 mlynedd ers oedd ffilm Hedd Wyn yn yr Oscars - y ffilm fwyaf Cymraeg a Chymreig alle' chi gael yn cyrraedd yr uchelfannau.
"Dwi ddim yn deall pam bod rhaid i ni fod yn fwy Seisnig rywsut er mwyn apelio i gynulleidfa newydd.
"Dyle ni fod â hyder yn ein hiaith ein hunain, ma' 'na raglenni gwych ar S4C, a ma' 'na is-deitlau ar bob rhaglen hefyd felly maen nhw'n hygyrch i bawb."
Pan ofynnwyd a oes gormod o Saesneg ar y sianel, atebodd: "Oes fi'n credu bod ar hyn o bryd."
Adlewyrchu Cymraeg 'realistig'
Hefyd ar y panel oedd cyn-aelod o Awdurdod S4C - y darlledwr a'r sylwebydd gwleidyddol, Guto Harri.
Dywedodd ei bod yn "bwysig bod 'na raglenni sydd yn gwbl Gymraeg" ar y sianel, ond ei fod yn gweld gwerth mewn adlewyrchu'r Gymraeg sy'n cael ei siarad bob dydd.
"Mae cwmni Angharad [Tinopolis] yn gwneud ymdrech aruthrol ac yn llwyddo yn ysgubol o ddydd i ddydd i ffeindio Cymry Cymraeg ym mhob cwr o'r byd... ac yng nghanol pethau diddorol.
"Ond dwi hefyd, wedi mwynhau yn arw yn ddiweddar y ddrama mewn carchar - Bariau - lle o'n nhw'n dangos y math o Gymraeg, a'r defnydd o Gymraeg sy'n realistig i lot o bobl y dyddiau hyn.
"Bo' nhw'n siarad Cymraeg gyda rhai pobl yn eu bywyd nhw, ond Saesneg gydag eraill. Ac efallai bod hynny'n ffordd o ddenu cynulleidfa newydd i fewn i'r sianel sydd yn dda."
Cyfeiriodd hefyd at helyntion diweddar y sianel, gan ddweud ei bod yn "drueni bod yr hwch 'di mynd trwy'r siop o ran llywodraethiant S4C".
"Ma'r sianel yma'n un o'r pethau mwyaf gwerthfawr ni wedi llwyddo i'w hennill fel Cymry Cymraeg," meddai.
"Mae'n drysor cenedlaethol, ac mae cyfrifoldeb arnom ni gyd i ofalu amdani ac i'r rheiny sy'n cael y fraint i fod ar y bwrdd... mae hyd yn oed mwy o gyfrifoldeb arnyn nhw.
"Mae'n rhaid i'r bobl hynny rhoi lles y sianel uwch law beth bynnag yw eu problemau personol nhw gydag aelodau eraill o'r tîm cynhyrchu, neu'r tîm rheoli neu'r tîm llywodraethu ac yn y blaen."
Galwodd am waed newydd er mwyn "cael gafael" ar y sefyllfa.
"Nid rhywun dros dro i gadw pethau am ddwy, dair blynedd a sefydlogi, mae angen rhywun i ddod mewn a gweud 'ni'n mynd i ddewis prif weithredwr ifanc o genhedlaeth arall sy'n gweld lle mae'r sianel yn mynd i fynd mewn 20 mlynedd'."
Ychwanegodd nad oedd ef yn ystyried ymgymryd â swydd y cadeirydd ei hun.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 Ionawr
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2023