Cadeirydd S4C, Rhodri Williams, i adael y swydd fis Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae Cadeirydd S4C wedi anfon llythyr at Lywodraeth y DU yn gofyn iddyn nhw beidio ei ystyried ar gyfer ail dymor yn y swydd.
Mae wedi bod yn flwyddyn gythryblus i'r darlledwr, gydag ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlio gan aelodau o dîm rheoli S4C a diswyddo dau uwch swyddog blaenllaw, sydd wedi codi cwestiynau'n gyhoeddus am y modd mae'r bwrdd a'r cadeirydd wedi ymateb i'r sefyllfa.
Yn ei gyfweliad cyntaf ers i'r ymchwiliad i'r honiadau ddechrau ym mis Mai, mae'r cadeirydd Rhodri Williams yn wfftio awgrymiadau y dylai ymddiswyddo.
Daw wrth i'r gweinidog yn Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb dros ddarlledu ddweud ei bod yn "gwbl glir bod gwersi i'w dysgu" gan fwrdd S4C.
'Ansefydlogi mawr wedi digwydd'
Dywedodd Mr Williams wrth Newyddion S4C mai'r "flwyddyn ddiwethaf oedd yr anoddaf yn holl hanes y sianel".
"Yn amlwg mae 'na ansefydlogi mawr wedi digwydd yn ystod y misoedd diwetha' ac eto, ddim o'n herwydd i, ddim oherwydd y bwrdd.
"Mae'r ansefydlogi wedi digwydd yn fy marn i, oherwydd y baw sydd wedi cael ei daflu yn y wasg yn erbyn y broses, yn erbyn y bwrdd, yn fy erbyn i ac yn erbyn yr Adran Ddiwylliant a Chwaraeon yn San Steffan hefyd."
Ychwanegodd Mr Williams: "Dwi ddim yn disgwyl byddai yn y rôl ar ôl diwedd mis Mawrth. A ma' hynny'n iawn.
"Mater i'r Ysgrifennydd Gwladol yw gwneud apwyntiadau o'r math yma ac os yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn dod i'r casgliad hynny, ma' hynny yn iawn."
Yr wythnos ddiwethaf, fe ymddangosodd Mr Williams o flaen pwyllgorau yn San Steffan a'r Senedd ym Mae Caerdydd.
Yn dilyn hynny, fe ysgrifennodd gwleidyddion o'r pwyllgorau hynny at Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS), yn galw am benodi cadeirydd newydd.
Fe wnaeth Mr Williams hefyd fanylu ar ei benderfyniad i ddiswyddo cyn-swyddog cynnwys y sianel, Llinos Griffin-Williams heb drafod gyda gweddill y bwrdd, ar ôl honiadau iddi ymosod yn eiriol ar gyn-chwaraewr rygbi Cymru, Mike Phillips a bygwth rhoi llai o waith i gwmni cynhyrchu teledu.
Dywedodd Mr Williams bod "hanes yr hyn ddigwyddodd yn Nantes yn gyhoeddus iawn".
"Dydw i ddim wedi dod ar draws enghraifft o uwch-swyddog darlledwr yng Nghymru yn ymddwyn yn y fath fodd yn fy ngyrfa gyfan. Roedd rhaid gweithredu ar unwaith, a dyna'r hyn wnes i."
Wrth gael ei holi pam benderfynodd ddiswyddo Ms Griffin-Williams heb drafod gyda gweddill y bwrdd, dywedodd: "Roedd e'n flaenoriaeth i gymryd y cyngor ac i gymryd y penderfyniad ac i weithredu'r penderfyniad.
"Bydde fe'n hawdd iawn i fi ddweud alle fe wedi bod yn haws i fi pe bawn i wedi gwneud hynny... fy ffocws i oedd diogelu enw da S4C."
Mae Ms Griffin-Williams yn gwadu'r honiadau yn ei herbyn ac yn cymryd camau cyfreithiol.
Ddiwedd Tachwedd, fe gafodd cyn-Brif Weithredwr S4C, Sian Doyle, ei diswyddo ar ôl i gwmni cyfreithiol Capital Law gyflwyno adroddiad i fwrdd S4C.
Fe gafodd crynodeb o'r adroddiad ei gyhoeddi, gan ddisgrifio "diwylliant o ofn" o fewn y sianel. Mae Ms Doyle wedi dweud nad ydy hi'n derbyn cynnwys yr adroddiad.
Yn ôl Mr Williams: "Cytunwyd ar y broses gyda Capital Law a phenderfyniad y bwrdd oedd, mai dim ond yr ysgrifennydd a'r cadeirydd ddyle weld y fersiwn a ddaeth o'r tîm oedd yn casglu ffeithiau."
Wrth gael ei holi pam nad oes gan Ms Doyle na Ms Griffin-Williams hawl i apelio, dywedodd Mr Williams: "Barn y bwrdd oedd nad oedd e'n bosibl - yn sgîl yr hyn ddarllenwyd yn adroddiad Capital Law - iddi hi [Sian Doyle] barhau i fod yn arwain S4C.
"Dwi ddim yn gweld unrhyw fudd i fod wedi gweithredu yn wahanol i'r hyn sydd o fewn y cytundebau cyflogaeth ac sydd yn briodol i gorff cyhoeddus gymryd pan mae e'n dod yn ymwybodol o'r math o ymddygiad yn glir iawn, yn ddirdynnol iawn yn adroddiad Capital Law."
'Anghywir i godi llais'
Cafodd cwyn ei chyflwyno yn erbyn Mr Williams a bu'n rhaid iddo ymddiheuro am godi llais yn ystod un o gyfarfodydd S4C.
Yn ôl Mr Williams: "Fe gytunwyd mod i wedi bod yn anghywir i godi'n llais, er mod i'n meddwl bod gen i ddim dewis ond dirwyn trafodaeth ynghylch materion personol yn ymwneud â iechyd aelod o'r staff oedd ddim yno.
"Anwybyddwyd hynny ac o'n i ddim yn teimlo bod gen i ddewis ond i godi'n llais i ddirwyn y drafodaeth i ben. A dyna beth wnes i."
Mewn llythyr a gafodd ei anfon at fwrdd S4C nos Fawrth, dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Lucy Frazer, bod S4C wedi cael "cyfnod heriol".
"Mae'n gwbl glir bod gwersi i'w dysgu, ac mae'n hanfodol bod hynny'n rhan o'ch cynlluniau wrth symud ymlaen.
"Rydw i felly yn annog y bwrdd ac uwch dîm S4C i symud mor gyflym â phosib er mwyn cytuno ar gynllun sy'n rhoi pwyslais ar ddiwylliant, rheolaeth a pholisïau sydd eu hangen yn y gweithle.
"O ystyried maint yr her, rydw i hefyd yn eich gwahodd i ystyried gofyn am gyngor allanol er mwyn gweld sut i fynd ati i gryfhau diwylliant ac arferion o fewn S4C."
Wrth gadarnhau ei bod wedi derbyn llythyr gan Mr Williams yn gofyn iddyn nhw beidio ei ystyried ar gyfer ail dymor yn y swydd, mae Ms Frazer yn dweud y "bydda i felly'n dechrau'r broses er mwyn penodi cadeirydd newydd ar gyfer S4C".
Ymateb Bwrdd S4C
Wrth ymateb i lythyr Ms Frazer, dywedodd Bwrdd S4C mewn datganiad: "Rydym wedi derbyn a nodi sylwadau yr Ysgrifenydd Gwladol yn ei llythyr yn dilyn penderfyniad y cadeirydd i beidio â chynnig ei enw ar gyfer ail dymor.
"Rydym wrthi yn gweithio ar gynllun i sicrhau dyfodol llwyddiannus i S4C a'r sector, gan weithio'n agos gyda chydweithwyr a phartneriaid allweddol, er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf i'n cynulleidfaoedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Ionawr