Y Brenin Charles wedi cael diagnosis canser
- Cyhoeddwyd
Mae'r Brenin Charles yn derbyn triniaeth at ganser, mae Palas Buckingham wedi cadarnhau.
Fe fydd yn parhau i gyflawni dyletswyddau gwladol ond yn camu'n ôl o ddyletswyddau cyhoeddus yn ystod ei driniaeth.
Mewn datganiad, dywedodd y Palas ei fod "yn parhau'n hollol bositif ynghylch ei driniaeth ac yn edrych ymlaen at ddychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus llawn cyn gynted â phosib".
Dydy'r llefarydd heb gadarnhau pa fath o ganser sydd ar y Brenin ond dywedodd nad yw'n ganser y prostad.
Fe gafodd y Brenin ei ryddhau o'r ysbyty wythnos diwethaf yn dilyn llawdriniaeth brostad - cyflwr a gafodd ei ddisgrifio'n un ddiniwed (benign) gan y Palas.
Profion diagnostig
Dywed y Palas bod "achos o bryder ar wahân" wedi ei nodi adeg ei driniaeth ysbyty diweddar a bod "profion diagnostig dilynol wedi nodi math o ganser".
"Mae Ei Fawrhydi heddiw wedi cychwyn ar amserlen o driniaethau rheolaidd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi cael ei gynghori gan feddygon i ohirio dyletswyddau cyhoeddus," dywed datganiad y Palas.
"Drwy gydol y cyfnod hwn, bydd Ei Fawrhydi yn parhau i ymgymryd â busnes y Wladwriaeth a gwaith papur swyddogol fel arfer.
"Mae'r Brenin yn ddiolchgar i'w dîm meddygol am eu hymyrraeth gyflym, a wnaethpwyd yn bosibl diolch i'w ymweliad diweddar â'r ysbyty."
Ychwanegodd bod y Brenin "wedi dewis rhannu ei ddiagnosis er mwyn atal dyfalu a'r gobaith yw y gallai helpu deallusrwydd y cyhoedd a phawb ledled y byd sy'n cael eu heffeithio gan ganser".
Mae trefniadau amlwg yn eu lle ers blynyddoedd lawer i ddelio â sefyllfa pan nad yw'r Brenin neu'r Frenhines yn gallu cyflawni eu dyletswyddau yn llawn.
Y disgwyl yw y bydd y Frenhines a Thywysog Cymru yn ymgymryd â rhai o ddyletswyddau'r Brenin tra'i fod yn cael triniaeth, a hynny, o bosib, nes o leiaf y Pasg.
Dywedodd yr hanesydd Dr Hefin Mathias ei fod yn ddigwyddiad "digynsail" oherwydd bod Palas Buckingham wedi rhannu'r diagnosis yn gyhoeddus.
"Yn hanesyddol, mi fydde'r teulu brenhinol yn cadw newyddion fel hyn yn gudd", meddai.
"Roedd tad y Frenhines, roedd canser arno fe, ond doedd hynny ddim yn hysbys i'r cyhoedd, ac mae hynny'n wir am bob aelod o'i theulu hi.
"Ond lle mae Siarl yn y cwestiwn mae hyn yn gydnaws a'i arddull bersonol, mae wedi penderfynu torri cwys ei hunan, a gwneud y Frenhiniaeth yn llawer mwy agored mewn oes sy'n llawer mwy agored o ran yr effaith mae'r cyfryngau torfol yn gallu cael ar y Frenhiniaeth a phob sefydliad arall."
'Gwellhad buan'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Rwy'n tristáu o glywed y newydd bod EF y Brenin Charles III yn wynebu rhagor o heriau iechyd.
"Fe fydd fy meddyliau, a meddyliau pobl ar draws Cymru, gydag e a'i deulu heno.
"Anfonaf fy nymuniadau gorau wrth iddo ddechrau ar ei driniaeth am wellhad llawn a chyflym. Gwellhad buan."
Mae arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd wedi dymuno gwellhad i'r Brenin.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth: "Mae canser yn cyffwrdd yn greulon â bywydau cymaint o deuluoedd.
"Rhaid canmol Ei Fawrhydi'r Brenin am fod yn agored wrth drafod ei ddiagnosis."
Fe fydd y penderfyniad yna i rannu'r diagnosis yn gyhoeddus, "yn codi ymwybyddiaeth ynghylch pawb sydd wedi eu heffeithio gan ganser," yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies.
Ychwanegodd bod pawb o fewn y blaid yng Nghymru yn "anfon ein meddyliau a'n gweddïau" i'r Brenin a'r teulu brenhinol.
Fe ddywedodd Archesgob Cymru, Andrew John, mewn datganiad: "Clywais am anhwylder y Brenin gyda phryder dwys, ac fe garwn ei sicrhau o'n gweddiau arbennig ar gyfer gwellhad buan a chyflawn.
"Y mae gan Ei Fawrhydi berthynas arbennig â Chymru, a gwn y bydd pobl Cymru yn ei gadw ef a'i deulu yn agos at eu calonnau yn ystod y cyfnod hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2023