Gwneud cwyn am Aelod o'r Senedd 'ddim werth yr ymdrech'

  • Cyhoeddwyd
Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2022 fe ostyngodd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwyn am ymddygiad Aelod o'r Senedd o 12 mis i chwech

Mae cyn-aelod o staff sy'n honni iddyn nhw gael eu bwlio gan Aelod o'r Senedd wedi dweud wrth y BBC na wnaethon nhw gyflwyno cwyn ffurfiol, gan nad oedd o "werth yr ymdrech".

Mae pleidiau gwleidyddol ac undebau wedi mynegi pryder sylweddol am y system gwynion ar gyfer aflonyddu a bwlio yn y Senedd.

Dywedodd Unite, undeb sy'n cynrychioli rhai o staff y Senedd, nad yw'r broses bresennol "yn addas i'r diben", ac mae yna alwadau nawr am broses gwbl annibynnol ar gyfer delio â chwynion o fwlio ac aflonyddu rhywiol, yn debyg i'r un sydd wedi'i gyflwyno yn San Steffan.

Mae'r pwyllgor safonau bellach wedi cyhoeddi eu bod yn dechrau ymchwiliad fydd yn edrych ar bob agwedd o'r polisi urddas a pharch yn ogystal â'r prosesau cwyno.

Dywedodd y cyn-aelod o staff fod yr AS oedd yn eu cyflogi wedi "siarad â staff fel baw ci" a'u trin fel petai nhw'n "weision bach".

Fe gafodd cwyn anffurfiol ei gwneud i'r blaid ond "doedd ganddyn nhw ddim diddordeb", ac yn y pendraw fe wnaethon nhw adael eu swydd gan ddweud "os nad ydych chi'n hapus gyda'ch aelod, rydych naill ai'n ei dderbyn neu'n mynd".

Fe benderfynon nhw beidio â gwneud cwyn ffurfiol i'r comisiynydd safonau gan "nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai'n ddienw".

'Ro'n i'n bryderus am fy nyfodol'

Roedden nhw'n poeni y bydden nhw'n "cael eu gweld fel y broblem" pe bai nhw'n cwyno ac y gallai hynny effeithio ar eu gobeithion i gael swyddi mewn gwleidyddiaeth yn y dyfodol.

"Roeddwn yn bryderus am fy nyfodol. A fyddai'r profiad yma yn fy nal i'n ôl oherwydd i mi gwyno am aelod?"

Yn ôl arolwg mewnol gan y Senedd, dim ond 61.7% o staff cymorth Aelodau o'r Senedd fyddai'n teimlo'n gyfforddus i godi pryderon gan ddefnyddio'r broses bresennol.

Mae hyn yn "arwydd o broblem sylweddol", yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o staff cymorth ASau yn poeni y byddai gwneud cwyn yn "peryglu eu swydd a'u gyrfa"

Wrth ymateb i'r ymgynghoriad ar bolisi urddas a pharch y Senedd, dywedodd Unite mai'r "teimlad pennaf gan ein haelodau yw na fydden nhw yn gyfforddus nac yn hyderus i wneud cwyn am Aelod o'r Senedd neu rywun sy'n gweithio ar ystâd y Senedd" .

Mynegodd eu haelodau bryderon hefyd nad oedd cwynion yn cael eu hateb gyda'r "lefel cywir o ddifrifoldeb" a bod yna ddiffyg ymddiriedaeth y byddai yna "atebolrwydd digonol am ymddygiad amhriodol".

Dywedodd mwyafrif o aelodau Plaid Cymru PCS hefyd na fydden nhw'n teimlo'n hyderus i wneud cwyn oherwydd pryderon y byddai'n "peryglu eu swydd a'u gyrfa" ac ofnau o gael eu "cywilyddio".

Ar hyn o bryd, gellir gwneud cwyn yn erbyn Aelod o'r Senedd i'r comisiynydd safonau, a fydd wedyn yn penderfynu a ddylid ymchwilio.

Mae'r comisiynydd yn berson annibynnol sy'n cael eu penodi gan y Senedd i ddiogelu safonau, cynnal enw da a mynd i'r afael â phryderon y cyhoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Vikki Howells, yr Aelod o'r Senedd dros Gwm Cynon, yw Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Yn eu hymateb fe wnaeth Plaid Cymru gwestiynu a oedd yn "briodol i unigolyn ysgwyddo'r holl gyfrifoldeb fel Comisiynydd, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau'n ymwneud â sgiliau, arbenigedd a phrofiadau un unigolyn".

Fel ymatebwyr eraill maen nhw'n galw am broses gwyno benodol ar gyfer aflonyddu rhywiol sy'n defnyddio "arbenigwyr annibynnol wrth ymchwilio i honiadau a chynnig cymorth arbenigol i achwynwyr".

Nid yw'r sefyllfa bresennol, lle gall rhai cwynion gymryd blwyddyn neu fwy, "yn deg" ar achwynwyr neu'r rhai sy'n destun cwynion, yn ôl Llafur, sy'n nodi hefyd y gall oedi o'r fath arwain at "drallod sylweddol" i'r rhai dan sylw "a gall ddwyn anfri ar y broses gyfan".

Yn 2022, gostyngodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad y terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwyn am ymddygiad Aelod o'r Senedd o 12 mis i chwech.

Dywedodd y rhan fwyaf o ymatebwyr y dylid gwyrdroi'r penderfyniad hwn hefyd.

Dywedodd Vikki Howells AS, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, fod y pwyllgor wedi cytuno i ddechrau "ymchwiliad cynhwysfawr i sicrhau bod y Senedd yn weithle cynhwysol, yn rhydd o aflonyddu a bygythiadau".

"Byddwn yn edrych ar bob agwedd o'n polisïau a gweithdrefnau fel eu bod yn gyfredol ac yn addas i'r diben.

"Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ymateb i'n hymgynghoriad gan fynegi eu barn yn glir.

"Byddwn yn parhau i wrando ar farn pobl wrth i ni weithio i gael ein systemau'n iawn ar gyfer y dyfodol."

Annog pobl i siarad

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd: "Mae'n hanfodol i ni fod pawb yn y Senedd yn teimlo eu bod nhw'n cael eu parchu.

"Rydyn ni wastad yn annog unrhywun sy'n teimlo eu bod nhw'n cael eu bwlio i siarad am hynny ac yn teimlo y gallan nhw wneud hynny.

"Rydyn ni'n dal i geisio codi ymwybyddiaeth staff o'r prosesau Urddas a Pharch - gan gynnwys cynnig hyfforddiant - ac rydyn ni wedi penodi naw swyddog urddas a pharch, sy'n gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i staff."