'Dyw system gwynion Senedd Cymru ddim yn ddigon da'

  • Cyhoeddwyd
Nerys Evans

Mae angen edrych ar frys ar system cwynion y Senedd ynghylch aflonyddu rhywiol, yn ôl y cyn-AC Plaid Cymru Nerys Evans.

Dyw'r system bresennol "ddim yn ddigon da", ym marn Ms Evans - awdur adroddiad damniol o ddaeth i'r casgliad bod yna ddiwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth o fewn Plaid Cymru.

Mae'r Senedd yn dweud bod eu prosesau'n cael eu hadolygu'n gyson i sicrhau eu bod "yn gyfredol, ac yn addas i'r diben, ac rydym yn croesawu adborth".

Daw sylwadau Ms Evans wedi i gyn aelod staff Plaid Cymru yn y Senedd honni ei fod wedi cael ei aflonyddu ar ôl rhoi tystiolaeth i Gomisiynydd Safonau'r Senedd.

Dywedodd Nerys Evans wrth raglen BBC Politics Wales bod prosesau'r Comisiynydd Safonau "yr un fath os y'ch chi'n camddefnyddio adnoddau swyddfa neu'n aflonyddu'n rhywiol aelod o'r cyhoedd neu aelod staff gwleidyddol".

"Dyw e just ddim yn ddigon da."

Awgrymodd bod Senedd San Steffan "wedi mynd yn bellach na ni" trwy greu proses i edrych i honiadau o aflonyddu rhywiol, bwlio a chamymddygiad "sy'n annibynnol a dan arweiniad arbenigwyr aflonyddu rhywiol".

Mae hi'n dweud y dylid sefydlu system debyg ym Mae Caerdydd.

'Chwerthinllyd'

Ar hyn o bryd mae'n bosib cyflwyno unrhyw gŵyn yn erbyn Aelod o'r Senedd i'r Comisiynydd Safonau, sy'n penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad.

Person annibynnol a benodwyd gan Senedd Cymru yw'r Comisiynydd Safonau gyda'r nod o gynnal safonau ac ymateb i bryderon gan y cyhoedd.

Mae'r Comisiynydd yn anfon adroddiad at Bwyllgor Safonau'r Senedd sy'n penderfynu ar unrhyw gosb.

Disgrifiad o’r llun,

Douglas Bain yw Comisiynydd Safonau'r Senedd ers Ebrill 2021

Mae'n "chwerthinllyd", medd Ms Evans, nad yw natur cwyn yn erbyn AS yn cael ei gyhoeddi tra bo'n ymchwiliad yn mynd rhagddo.

"Dydyn ni ddim hyd yn oed yn cael gwybod os yw Aelod dan ymchwiliad am aflonyddu rhywiol," dywedodd.

"Yn San Steffan pan fod honiad o gamymddygiad difrifol yn erbyn gwleidydd, dydyn nhw ddim yn cael bod ar ystâd San Steffan, er enghraifft."

Mae'r Bil Diwygio'r Senedd sy'n mynd trwy'r Senedd ar hyn o bryd yn golygu bod "y drws ar agor" i wella systemau presennol, mae hi'n dadlau.

"Dydyn ni ddim yn cael galw gwleidyddion yn ôl ac mae'n anodd iawn i ni gael gwared ar wleidyddion. Mae angen edrych ar hynny ar frys."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Nerys Evans yn siarad â'r rhaglen am y tro cyntaf ers i'w hadroddiad i'w diwylliant o fewn Plaid Cymru gael ei gyhoeddi ym mis Mai.

Dywedodd bod "dim amheuaeth bod Plaid yn ei gymryd o ddifri" ac yn mynd ati i weithredu'r 82 o argymhellion yn yr adroddiad, ond mae'n cydnabod bod newid "ddim yn digwydd dros nos".

"Mae camymddygiad yn digwydd. Bydd aflonyddu rhywiol yn parhau i ddigwydd. Rwy'n hollol hyderus bod Plaid yn gweithio trwy'r [argymhellion] rheiny."

'Beth yw'r pwynt cwyno'?

Pan ofynnwyd am gasgliadau ei hadroddiad, dywedodd Ms Evans ei bod wedi edrych ar bolisïau a phrosesau yn hytrach nag achosion unigol.

Roedd yna "ddiffyg ffydd", meddai, gan fod "y broses gwynion wedi siomi gormod o bobl ac yn y pen draw, daeth pobl i'r casgliad 'beth yw'r pwynt cwyno?'"

Ond fe ychwanegodd bod "hynny'n wir am bob plaid wleidyddol felly mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i Plaid am wynebu'r materion yma a bod yn agored a gonest wrth gyhoeddi argymhellion llawn fy adroddiad".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd eisoes wedi galw am edrych eto ar y drefn gwynion, medd ei gadeirydd, Vikki Howells

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd: "Er mwyn sicrhau bod y Senedd yn weithle cynhwysol, sy'n rhydd aflonyddu a bygythion, rydym eisiau i bawb deimlo eu bod yn gallu herio ymddygiadau heb ofn nag anfantais.

"Mae prosesau yn eu lle i gyflwyno cwynion. Rydym yn adolygu ein polisïau yn gyson i sicrhau eu bod yn gyfredol, ac yn addas i'w diben ac rydym yn croesawu adborth."

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd, Vikki Howells AS: "Mae gwaith diweddar y Pwyllgor wedi tanlinellu'r angen am adolygiad o'r camau sy'n agored i staff cefnogaeth Aelodau i wneud cwynion.

"Mae'r Pwyllgor yn croesawu safbwyntiau ar y mater ac mae eisoes yn paratoi i ymchwilio ymhellach."