'Dim gwaed ifanc' i barhau â Gŵyl Ddrama Corwen
- Cyhoeddwyd
Bydd Gŵyl Ddrama Corwen a'r cylch yn dod i ben wedi iddyn nhw fethu â denu "gwaed newydd ifanc" i'r pwyllgor.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd yr ysgrifennydd Nia Jones bod sawl rheswm dros y penderfyniad ond bod oedran aelodau'r pwyllgor yn rhan fawr o hynny, a hefyd "dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal".
Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn 1981 fel rhan o Eisteddfod Powys ac am flynyddoedd bu'n hynod o lwyddiannus gan gynnal ar un adeg wythnos o ddramâu.
Yn ôl Siôn Pennant, sy'n gyfrifol am gwmnïau drama Licyris Olsorts a Doli Micstiyrs, mae drama amatur yng Nghymru yn wynebu "cyfnod du iawn" ac mae colli Gŵyl Ddrama Corwen yn "hoelen arall yn yr arch".
"Mae pump o'r saith aelod yn 70 oed a hŷn," medd Nia Jones, "sy'n golygu bod dringo ysgol i newid set neu newid golau a symud celfi llwyfan, yn mynd yn fwy o ymdrech.
"Pan ddechreuodd yr ŵyl yn 1981 roedd yna fri mawr ar y cystadlu - fe fyddai yna wythnos lawn o ddramâu yn y blynyddoedd cynnar gyda thair drama bob noson, ond yn y blynyddoedd diwethaf 'dan ni wedi mynd lawr i dair noson.
"Yn anffodus 'dan ni wedi methu cael aelodau newydd ar y pwyllgor er mwyn sicrhau parhad yr ŵyl i'r dyfodol.
"Rydym wedi colli sawl un o gefnogwyr pybyr yr ŵyl ers cyfnod y pandemig a dwi'n ofni bod natur cymdeithas wedi newid, heb sôn am y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg eu hiaith yn yr ardal.
"Hefyd yn y blynyddoedd diwethaf does dim cymaint o gwmnïau wedi dod i Gorwen i gystadlu - tybed a yw'r elfen gystadleuol yn llai deniadol i'r cwmnïau erbyn hyn?"
Problem arall i'r pwyllgor oedd nad oedd modd cynnal yr ŵyl y llynedd nac eleni yn ei chartref arferol yn Neuadd Edeyrnion oherwydd bod dŵr yn gollwng trwy'r nenfwd.
Effaith ar y Genedlaethol?
"Fe all colli gŵyl fel hon effeithio'n fawr ar gystadlaethau drama yr Eisteddfod Genedlaethol," medd Siôn Pennant o Bont-goch ger Aberystwyth.
"Mae gwyliau cystadleuol fel y rhain yn gwbl allweddol i ddyfodol y ddrama yng Nghymru.
"Fe fyddai perfformio yng Nghorwen yn ymarfer arbennig o dda ar gyfer y Genedlaethol ac yn aml fe fyddai beirniaid yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Gorwen i weld cwmnïau yn perfformio o flaen cynulleidfa.
"I mi mae cael cystadleuaeth yn codi safon perfformio. Mae gen i bob parch i wyliau dramâu lleol wrth gwrs, ond mae cael cystadleuaeth yn golygu bod rhywun yn gorfod cael y sglein ychwanegol 'na.
"Erbyn y Genedlaethol fe fydden nhw'n ceisio gwella'r perfformiad eto ar ôl gweld eraill wrthi."
Dywedodd Mr Pennant bod ganddo atgofion da iawn o fynychu a chystadlu yng Ngŵyl Ddrama Corwen a bod gwyliau'r fath yn rhoi hyder i berfformwyr - yn enwedig rhai ifanc.
"Mae'n drueni bod elfen arall o'n diwylliant ni fel cenedl yn dod i ben, ond mae'n bwysig hefyd cofio i'r ŵyl roi nosweithiau o ddiddanwch i lawer iawn o drigolion Edeirnion dros y blynyddoedd, a chyfleoedd gwych i'r rheiny fu'n troedio'r llwyfan, yn cyfarwyddo, yn dylunio setiau ac yn ysgrifennu dramâu."
'Dim pwynt cael cwmni heb ŵyl'
Un arall sy'n siomedig yw bod yr ŵyl yn dod i ben yw Menna Medi Jones, sy'n gysylltiedig â dau gwmni drama yn Y Groeslon ger Caernarfon.
"Roeddwn i wrth fy modd yn mynd i weld y dramâu a chystadlu yng Nghorwen. Heb gŵyl ddrama does dim pwynt cael cwmni nag oes?" meddai.
"Ond wedi dweud hynna mae gŵyl ddrama Y Groeslon a rhai mewn ardaloedd eraill yn ddigon llwyddiannus - ond dyw pob gŵyl ddrama ddim yn gystadleuol a'r duedd wedyn yw perfformio'n lleol yn unig.
"Dwi'n rhan o gwmnïau Bryn-rhos a Plant Afradlon - 'dan ni'n cael andros o lot o hwyl a 'dan ni'n mwynhau.
"Does dim rhaid bod yn gystadleuol - mwynhau sy'n bwysig - ond wrth gystadlu mae rhywun yn gorfod rhoi mwy o sglein ar bethau. Fe fydd hi'n chwith sobor heb Gŵyl Ddrama Corwen."
"Ydi, mae'n drist bod y llen yn dod i lawr ar yr ŵyl ond doedd yna ddim dewis arall," ychwanegodd Nia Jones, yr ysgrifennydd.
"Dwi am ddiolch i'r criw bach o stiwardiaid fu'n cynorthwyo ar nosweithiau'r ŵyl dros y blynyddoedd, gan gario'r celfi i fyny a lawr y grisiau serth!
"Diolch hefyd i'r cwmnïau drama, beirniaid, dramodwyr, y rhai fu'n paratoi lluniaeth, a chynulleidfa.
"Pwy a ŵyr, efallai y daw to ifanc eto fydd â diddordeb yn y ddrama ac a fydd yn fodlon gwneud y gwaith?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd5 Awst 2023
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2015