Llywydd Anrhydeddus: 'Angen cadw pobl yng nghefn gwlad'
- Cyhoeddwyd
"Mae'n bwysicach nag erioed cadw pobl yng nghefn gwlad," medd Gwilym Griffith, un o lywyddion anrhydeddus Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywed Gwilym Plas, fel y mae'n fwyaf adnabyddus, ei fod ef wedi bod yn hynod o ffodus i dreulio ei holl fywyd ym mhentref Llwyndyrys yn Llŷn.
"Mae'n ofid calon i mi bellach fod yna dynfa i lefydd fel Caerdydd ac yn fwy na dim fod rhai pobl ifanc methu prynu tŷ yn eu bro genedigol," meddai.
"Dwi mor ffodus fy mod i wedi cael cyfle i aros yn y fro ar hyd fy oes, gan elwa o'i chyfoeth a chael y cyfle gyda fy ngwraig Jean i gyfrannu rywfaint hefyd."
Daw ei sylwadau wrth i sesiwn gael ei chynnal yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn ar Gwmni Drama Llwyndyrys - cwmni hynod o lwyddiannus sydd wedi perfformio bron yn ddi-dor ers dros 60 mlynedd.
Ers y blynyddoedd cynnar mae Gwilym Griffith wedi bod yn arwain y cwmni, ond ag yntau bellach yn 85 mae wedi trosglwyddo'r gwaith i Richard Parry Hughes - Dic Penfras.
"Ma'r cwmni drama wedi tynnu pawb yn yr ardal at ei gilydd ar hyd y blynyddoedd," meddai Mr Griffith.
"Mae cael gweithgaredd bro fel hyn mor bwysig yn tydi? Yn bwysig i bob oed gyda phawb yn elwa o'r cymdeithasu.
"Ond hefyd mae'n beth da i bawb berfformio ar lwyfan. Mae hefyd yn dod â phobl allan o'u cartrefi - does dim rhaid bod yn unig mewn ardal fel hon.
"Ma' gweithgaredd o'r fath yn codi calon. 'Dan ni wedi cael cymaint o hwyl ar hyd y blynyddoedd. Mae 'na gyfle i bawb gymryd rhan.
"Mae 'na gymaint o werth mewn bywyd cymunedol, yn does? Dwi ddim am i'r genhedlaeth ifanc golli hynny - mae'n bwysig cadw nhw yn eu cymunedau neu'n sicr eu denu'n ôl os ydynt wedi gadael am gyfnod."
Mae'r mathau o ddramâu mae'r cwmni wedi eu perfformio ar hyd y blynyddoedd yn amrywio o'r llon i'r lleddf.
"Dan ni wedi perfformio drama fel Y Trydydd Dydd - drama afaelgar sy'n sôn am yr hyn a ddigwyddodd ar ôl y croeshoeliad wedi i Barabas gael ei ryddhau," meddai Mr Griffith.
"Ond rhaid dweud mai comedi sy'n apelio at bobl fwyaf."
Gan gyfeirio at lwyddiant y cwmni yn ennill y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol chwe gwaith yn olynol, dywed Mr Griffith fod y dramodydd John Gwilym Jones wedi codi'r cwmni i "lefel hollol newydd".
"Fe ddysgodd o ni i sut i eirio'n iawn a phryd i oedi a dal nôl."
Ychwanegodd bod y cwmni wedi bod yn ffodus o waith dramodwyr da - pobl fel John Gwilym Jones, William Owen, Borth-y-gest, Harri Parri a Wil Sam.
"Roedd dramâu William Owen ymhlith y mwyaf poblogaidd," meddai Mr Griffith.
"Cawsom flas anhygoel ar berfformio Tewach Dŵr yn Eisteddfod Llanbed yn 1984 - drama gref am ferch oedd wedi cael ei mabwysiadu.
"Ond hefyd mae rhywun yn cofio am weithiau arwrol Harri Parri - Cannwyll yn olau - sef pasiant ar hanes bywyd Puleston Jones, y gweinidog dall a'r Etholedig Arglwyddes.
"Fe berfformiodd y cwmni bron bob un o ddramâu byrion Wil Sam ac roedd yntau fel arfer yn y gynulleidfa - yn siglo fel pe bai'n clywed y llinellau am y tro cyntaf!"
'Cyfnod ardderchog'
"Dan ni wedi teithio llawer hefyd," meddai, "i Batagonia hyd yn oed.
"Roedd hwnnw yn uchafbwynt go iawn - er y tristwch o golli aelod blaenllaw o'r cast ar ddechrau'r daith.
"Mae wedi bod yn gyfnod ardderchog ar hyd y blynyddoedd - wrth gwrs, mae'n anodd weithiau trio cael pobl i ymarfer pan mae'n gynhaeaf gwair, ac mae'n rhaid cael pawb yno neu does dim posib ymarfer yn iawn.
"Dwi ddim eisiau i'n pobl ifanc heddiw golli profiadau gwych o'r fath."
Nid eleni yw'r tro cyntaf i Gwilym Plas gael ei anrhydeddu gan yr Eisteddfod Genedlaethol - yn 2005 iddo ef y dyfarnwyd Medal Syr T H Parry Williams am ei gyfraniad i'w gymuned.
Yn ogystal ag arwain Cwmni Drama Llwyndyrys bu'n arweinydd ar y côr lleol.
Mae hefyd wedi arwain cyngherddau, cymanfaoedd canu a nosweithiau llawen ac yn weithgar yng nghapel Llwyndyrys.
"Roedd cael bod yn llywydd eleni yn sioc. Dwi wedi mwynhau y gwaith dwi wedi'i wneud ar hyd y blynyddoedd ac wedi bod mor ffodus o elwa ar waith eraill o'm blaen i yn yr ardal yma," meddai.
"Bum yn ffodus iawn o gael addysg dda yn Ysgol Fron-deg - yr ysgol uwchradd. Y brif wers yn fanno oedd dysgu byw a bod yn rhan o'r gymuned."
Dywed ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at y sesiwn ddydd Sadwrn yng nghwmni aelodau Cwmni Drama Llwyndyrys.
Yn ystod yr wythnos fe fydd ei ddwy ferch, Medwen a Nia, â rhan flaenllaw yng ngweithgareddau'r Brifwyl.
"Dwi a Jean wedi bod yn ffodus iawn i gadw'r tri plentyn a'u teuluoedd yma'n lleol," ychwanegodd Mr Griffith.
"Dwi'n gobeithio y bydd eu plant hwythau a phlant eraill yr ardal ac ardaloedd tebyg yn cael yr hawl i fyw yng nghefn gwlad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018