Heddlu Gwent yn ymddiheuro i'r gymuned LHDTC+
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi ymddiheuro i'r gymuned LHDTC+ am eu rhan mewn achosion o "anghyfiawnder" yn y gorffennol.
Dywedodd eu prif gwnstabl ei bod yn ddrwg ganddi fod rhai wedi colli hyder yn yr heddlu o ganlyniad i sut y cafodd rhai cyfreithiau a phrosesau eu gweithredu.
Dyma'r 10fed llu yn y Deyrnas Unedig a'r cyntaf yng Nghymru i ymddiheuro mewn llythyr i'r ymgyrchydd Peter Tatchell.
Fe lansiodd Mr Tatchell ymgyrch y llynedd yn galw ar heddluoedd y DU i ymddiheuro am "ddegawdau o erledigaeth" o'r gymuned LHDT+.
Dywedodd y bydd yr ymddiheuriad gan Heddlu Gwent yn help wrth adfer hyder yn y llu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Pam Kelly fod Heddlu Gwent yn cydnabod bod eu cymunedau LHDTC+ wedi eu heffeithio'n "anghymesur" yn y gorffennol.
"Rydym yn deall y bydd yr anghyfiawnderau a'r anghydraddoldeb hyn yn y gorffennol wedi cael effaith barhaus ar ymddiriedaeth aelodau'r cymunedau hyn yn ein gwasanaeth," meddai.
"Fel Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, mae'n ddrwg gen i y gallai aelodau o'n cymunedau LHDTC+ fod wedi cael profiadau wnaeth niweidio eu hyder yn yr heddlu."
Mae sawl llu arall yn Lloegr wedi ymddiheuro i'r sefydliad, gan gynnwys Heddlu'r Met fis Mehefin y llynedd.
Fe wnaeth Mr Tatchell ddiolch i Pam Kelly a Heddlu Gwent am eu llythyr.
"Mae hyn yn gam mawr i sicrhau perthynas fwy adeiladol, cydweithredol rhwng Heddlu Gwent a phobl LHDT+, gan feithrin ymddiriedaeth a chydweithrediad pellach," meddai.
"Mae'n barhad clodwiw o'r gwaith gwych y mae'r heddlu wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf.
"Rwy'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli mwy o'r gymdeithas LHDT+ i adrodd am droseddau casineb, cam-drin domestig ac ymosodiadau rhyw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023