Dydd Mawrth Ynyd: Byd o grempogau

  • Cyhoeddwyd
crempogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fyddwch chi'n cael siwgr a sudd lemon ar eich crempog chi?

Diwrnod y crempogau (neu bancos neu ffroes...) yw dydd Mawrth Ynyd ar draws y byd gorllewinol, gyda thraddodiad o fwyta pancos ar y dydd hwn yn estyn o Rwsia i Iwerddon.

Ond fel mae ein lluosogrwydd ni o eiriau am yr hen bancos/cramoth/ffroes/crempog yma yng Nghymru yn awgrymu, mae yna fyd cyfan i'r danteithion hyn, sy'n cwmpasu llawer mwy nag un diwrnod yn unig.

Yr hanesydd bwyd, Carwyn Graves, sy'n bwrw golwg ar y traddodiad Cymreig o fwyta crempogau.

Mardi Gras

'Dydd Mawrth y Braster' fyddai'r cyfieithiad llythrennol am Mardi Gras, sef yr enw Ffrangeg ar y dydd hwn sydd wedi ei boblogeiddio ledled y byd. Gŵyl Gristnogol yw hon yn y bôn, yn nodi'r diwrnod olaf cyn dechrau'r cyfnod traddodiadol o ympryd yn ystod y Grawys, sef y 40 diwrnod cyn y Pasg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Rhoddodd hyn esgus i bobl i wledda a dathlu, ac roedd crempogau yn ffordd hawdd a blasus o baratoi bwyd brasterog cyn dechrau'r deugain diwrnod llwm i ddilyn.

Yng Nghymru, daw un o'n caneuon gwerin mwyaf adnabyddus o un o draddodiadau'r diwrnod, lle byddai plant yn mynd o ddrws i ddrws yn mynnu crempog wrth eu cymdogion.

Ffynhonnell y llun, Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,

Dawns flynyddol Dydd Mawrth Ynyd yn Nhre-wern. Ffotograff gan Geoff Charles (1940)

Modryb Elin Ennog

'Modryb Elin Ennog, os gwelwch chi'n dda ga i grempog?' yw llinell gyntaf y gân werin adnabyddus.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Os gwelwch chi'n dda ga' i grempog?

Ond sut beth fyddai'r grempogen a dderbyniai'r plant? Wel, yn dibynnu ar y cyfnod a'r ardal, roedd cryn dipyn o amrywiaeth ar gael:

  • Cramoth eira - yn draddodiadol ym mryniau Morgannwg a Sir Gaernarfon, byddai pobl yn defnyddio eira yn lle wyau i ysgafnhau'r cytew yn y crempogau!

  • Crempog laeth enwyn - ar ôl eu gwneud, trochi'r das o grempogau mewn llaeth enwyn sur, ffres.

  • Crempog facynog - fel mae'r enw'n awgrymu, crempogau yw'r rhain sy'n cynnwys darnau bach o facwn yn y cymysgedd.

  • Crempog las - fersiwn iach, yn cynnwys sibwns a phersli.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pentyrru'r pancosau

Beth bynnag bo'r union gynhwysion, yr arferiad Cymreig yn ddieithriad oedd pentyrru'r pancosau, gyda thrwch hael o fenyn rhyngddyn nhw.

Synnai'r gogyddes Seisnig Bobby Freeman at weld poblogrwydd hyn mewn ffatri yn y gorllewin yn yr 80au, lle byddai tas anferthol o bancos menynog yn cael eu paratoi ar lechfaen - nes bod y gweithwyr i gyd wedi llenwi bol!

Croeso Cymreig

Mae'r gair 'crempog' yn perthyn i'r Llydaweg 'krampouezh', a'r ddau draddodiad yn llawer ehangach nag un diwrnod yn unig. Yn Llydaw, fel gyda llawer o'u traddodiadau bwyd, llwyddwyd i fagu diwydiant a marchnad o amgylch yr hen grempogau cynhenid, a'u harferiad yno ar lawr gwlad o'u paratoi ar sawl achlysur trwy'r flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Krampouezh' yn Llydaw

Dwi'n cofio pryd y sylweddolais i bod traddodiad digon tebyg yn dal i fod yn fyw yma yn y de orllewin, wrth bicio heibio i ymweld ag aelod hŷn gyda ni yn y capel yn ochrau Caerfyrddin. Wrth fy nghroesawu, dyma hi'n dechrau paratoi pancos i ni gael gyda phaned - a dyma sylweddoli i mi gofio hyn yn digwydd gyda pherthnasau hŷn ar hyd fy mhlentyndod.

Mae'r dystiolaeth ar goedd yn glir iawn bod paratoi crempogau i ymwelwyr yn beth cwbl normal trwy lawer o Gymru hyd yn ddiweddar. Nid yn unig hynny, ond crempogau oedd yn cael eu defnyddio i ddathlu pen-blwyddi a dathliadau eraill ar draws y flwyddyn hefyd gan lawer.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwneud injera yn Ethiopia

Mae'n ddifyr nodi wrth dwrio yn yr archifau bod arfer bod gwahaniaethau dosbarth yn gysylltiedig â hyn hyd yn oed. Crempog surgeirch (neu 'bara bwff') oedd yn arfer cael ei baratoi i'r gweision, tra bod y teulu yn cael crempog gyda gwenith a burum.

Erbyn hyn, y rhai surgeirch fyddai o ddiddordeb, gan fod llai o lawer o glwten ynddyn nhw a'r grawn wedi ei eplesu. Blas sur sydd gyda nhw, yn ddigon tebyg i hyn sydd gan grempogau traddodiadol Ethiopia o'r enw injera, a rhai o Lydaw hefyd.

Hir oes felly i'r crempog, yn ei holl amrywiaeth! Ond wrth wledda, gallwn gofio cyngor yr hen Thomas Jones yn ei Almanac yn 1688; 'os digwydd neb i dorri eu boliau wrth fwyta crempogau, bydd hynny newydd ddrwg iawn!' Tybed a oedd yn siarad o brofiad?

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig