Dynes wedi marw ar ôl tân mewn eiddo yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wedi marw yn dilyn tân yn Llandudno fore Gwener.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r eiddo ar Ffordd y Brenin tua 11:00 wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad o dân.
Nid yw achos y tân wedi'i gadarnhau eto, ac mae ymchwiliad ar y cyd wedi ei lansio gan y gwasanaeth tân a Heddlu'r Gogledd.
Dywedodd Paul Jenkinson o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod eu "cydymdeimladau dwysaf yn cael eu hestyn i'r teulu a'r ffrindiau ar yr adeg anodd hon".