Apêl ar ôl canfod corff llamhidydd heb ben ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae lluniau isod o lamhidydd gyda'i ben wedi'i dorri i ffwrdd.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i gorff llamhidydd (porpoise) gael ei ganfod gyda'i ben wedi'i dorri i ffwrdd ar Ynys Môn.
Cafodd yr anifail - sy'n debyg i ddolffin - ei ganfod ar draeth Aberffraw fore Sul gan gwpl oedd yn mynd â'u cŵn am dro.
Dywedodd y cwpl eu bod hefyd wedi dod o hyd i lif gwaedlyd mewn bin sbwriel gyferbyn â'r traeth.
Mae llamhidyddion wedi eu hamddiffyn dan y gyfraith, ac mae lladd neu symud y mamaliaid yn drosedd.
Dywedodd Lowri Mair Jones, a ddaeth o hyd i'r anifail, fod yr heddlu wedi dweud wrthi fod penglogau llamhidyddion yn gwerthu am "bres mawr ar y we".
Dywedodd Lowri, o ardal Llangefni, ei bod yn cerdded ei chŵn yn Aberffraw yn aml.
"Welodd fy mhartner lif gwaedlyd amheus mewn un o'r biniau gyferbyn a'r traeth just cyn 09:00 ar fore dydd Sul so wnaethon ni alw'r heddlu yn syth," meddai.
"Wnaethon ni gario mlaen trwy'r twyni tuag at y traeth a dyna lle welon ni'r porpoise hefo'i ben wedi'i lifio ffwrdd.
"Ar ôl gweld y llif gwaedlyd yn y bin yn gynharach, roedd o'n eitha' amlwg i fi fod rhywun wedi gwneud hyn yn bwrpasol.
"Ond os fyswn i heb weld y llif, fyswn i'n meddwl tebyg mai just ryw greadur 'di marw ar y traeth oedd o - er bod y pen wedi'i dorri."
Ychwanegodd Lowri ei bod wedi sôn wrth yr heddlu am y canfyddiad, a'u bod wedi dweud bod y mamaliaid yn cael eu lladd er mwyn gwerthu penglogau.
"Wnaethon ni ffonio'r heddlu eto ar ôl gweld y porpoise ar y traeth," meddai.
"Hwyrach ymlaen nos Sul cawson ni alwad yn ôl ganddynt yn dweud eu bod yn ymchwilio fewn i'r peth gyda thîm arbenigol a Chyfoeth Naturiol Cymru gan fod o'n protected species.
"Dywedon nhw fod y creadur yn debygol wedi'i ladd yn bwrpasol am resymau proffidiol a bod penglogau porpoises yn gwerthu am bres mawr ar y we."
Dywedodd Frankie Hobro, perchennog a chyfarwyddwr y ganolfan adnoddau morol Sw Môr Môn, ei bod yn bosib fod y llamhidydd dal yn fyw pan gafodd ei ben ei dorri ffwrdd.
"Mae'n gallu bod yn anodd ar adegau dweud os mae anifeiliaid morol fel hyn wedi marw neu ddim pan maen nhw'n mynd yn sownd ar draeth," meddai.
"Bosib oedd y llamhidydd wedi marw yn fuan cyn mynd yn sownd ar y traeth, ond mae'n bosib hefyd ei fod dal yn fyw pan gafodd ei ben ei dorri ffwrdd, sy'n amlwg yn ddychrynllyd i ystyried.
"Y broblem ydi fod o'n anodd profi un ffordd neu'r llall.
"Fel arfer os mae rhywun wedi mynd allan i dargedu anifail am ran o'i gorff - fel mae pobl yn gwneud gydag esgyll siarcod - maen nhw'n tueddu i daflyd gweddill yr anifail yn ôl i'r môr.
"Os mai dyna fysa'r achos tro 'ma, fysa'r llamhidydd wedi dadelfennu dipyn mwy erbyn iddo droi fyny ar y traeth."
Ychwanegodd Frankie y dylai unrhyw berson sy'n canfod anifail morol ar draeth - yn fyw neu wedi marw'n ddiweddar - alw'r Marine Strandings Network, a all ail arnofio a rhyddhau anifeiliaid yn ôl i'r môr neu gasglu'r carcas ar gyfer dibenion ymchwil.
'Digwyddiad trallodus'
Mae Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru yn apelio i'r cyhoedd am fwy o wybodaeth ar ôl i'r corff cael ei ganfod heb ben ar fore Sul.
Dywedodd PC Amy Bennet o'r llu: "Mae hwn yn ddigwyddiad trallodus ac yn drosedd o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
"Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth, neu unrhyw un a welodd y digwyddiad, gysylltu â ni."
Ychwanegodd y llu eu bod wedi darganfod eitem maen nhw'n amau a gafodd ei ddefnyddio yn y digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2016