Achub pum dolffin aeth yn sownd ar draeth ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae pum dolffin wedi cael eu hachub a'u dychwelyd i'r môr ar ôl iddyn nhw fynd yn sownd ar draeth ar Ynys Môn.
Cafodd y dolffiniaid eu canfod fore Mercher ar draeth ger Y Fali ger Caergybi, ac fe lwyddodd achubwyr i'w rhoi yn ôl yn y dŵr wrth i'r llanw ddod i mewn.
Dywedodd corff y British Divers Marine Life Rescue (BDMLR) bod gwirfoddolwyr wedi llwyddo i gyfeirio mwyafrif yr haid yn ôl i'r môr.
Ond fe gafodd corff un dolffin ei ganfod yn farw ar y lan y bore canlynol.
Mae dolffiniaid yn medru goroesi allan o'r dŵr am tua 12 awr, ond mae pwysau eu cyrff ar y tir yn golygu bod pwysedd yn gallu atal ocsigen rhag cyrraedd eu horganau, a gall hynny fod yn angheuol.
Fe wnaeth y BDLMR yrru tîm o wirfoddolwyr sy'n arbenigwyr ar famaliaid morol er mwyn rhoi cymorth cyntaf i'r dolffiniaid.
Gyda help gan wirfoddolwyr eraill ac o ganolfan yr Awyrlu yn Y Fali, fe wylion nhw'r pedwar dolffin cyntaf yn ceisio nofio yn ôl i'r môr ar y llanw.
Ond wrth i'r môr gilio roedd y tîm yn bryderus y gallen nhw fynd yn sownd eto.
Aeth aelodau meddygol y criw i'r môr i gynorthwyo, gan gyfeirio'r dolffiniaid tuag at ddŵr agored, ac fe lwyddodd yr anifeiliaid i gyrraedd yno yn y diwedd.
Ychwanegodd y BDLMR fod un o ddau ddolffin a ddiflannodd wrth i'r llanw godi wedi cael ei ganfod yn farw, ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal gan arbenigwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd29 Awst 2019