'Derbyn pob tafodiaith yn allweddol i'r Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Dr Iwan ReesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Un o ddiddordebau Dr Iwan Rees yw datblygiadau tafodieithol yng Nghymraeg y Wladfa ym Mhatagonia - Porth Madryn sydd yng nghefndir y llun

Mae angen derbyn bob math o dafodieithoedd Cymraeg o fewn y system addysg er mwyn cynyddu hyder siaradwyr, yn ôl arbenigwr ieithyddol.

Dywedodd Dr Iwan Rees fod gan y tafodieithoedd Cymraeg, y rhai newydd a'r rhai mwy traddodiadol, rôl "allweddol" wrth gynyddu hyder siaradwyr yn yr iaith.

Mae angen mynd i'r afael â diffyg hyder llawer o siaradwyr yr iaith, meddai, gan gynnwys rhai sydd wedi cael blynyddoedd o addysg Gymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "llu o dafodieithoedd bendigedig yn perthyn i'r Gymraeg, ym mhob rhan o'r wlad, ac rydyn ni am eu gweld yn cael eu defnyddio a'u dathlu".

'Perygl mawr'

"Un peth sy'n gwbl amlwg i mi ydy bod yna ganfyddiad ymhlith myfyrwyr y Gymraeg fod gramadeg yn ddiflas, a bod y pwnc yn gyfystyr â chywiro treigladau yn unig," meddai Dr Rees, uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

"Dydyn nhw ddim fel rheol yn ystyried amrywio tafodieithol yn rhan o ramadeg - er enghraifft, y gwahaniaeth rhwng 'y gornel' y gogledd ac 'y cornel' y de, neu'r gwahaniaeth cywair rhwng 'yn Gaerdydd' ac 'yng Nghaerdydd' - felly mae'n dalcen caled cael myfyrwyr i fynd y tu hwnt i'r deicotomi 'cywir'/'anghywir' ar hyn o bryd oherwydd eu profiadau yn yr ysgol."

Awgrymodd fod hyn yn "symptom o broblem ehangach - un sy'n ymwneud â hyder, ond sydd hefyd yn tanlinellu'r angen i ddilysu tafodieithoedd Cymraeg o bob math o fewn y system addysg".

"Heb wneud hyn, y perygl mawr ydy y bydd y niferoedd sy'n astudio Safon Uwch Cymraeg ac yna'n mynd ymlaen i astudio'r pwnc yn y brifysgol yn parhau i ddisgyn."

Disgrifiad,

Fideo o'r archif: Tafodiaith y Cymry

Mae Dr Rees o'r farn bod angen mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau addysgol fel CBAC a Cymwysterau Cymru.

"Mae'n rhaid gofyn cwestiynau anodd, er enghraifft, a ydy'r ffordd y mae gramadeg y Gymraeg yn cael ei dysgu yn yr ysgolion yn cynyddu hyder disgyblion yn eu hiaith lafar eu hunain?" meddai.

"Os mai 'na' yw'r ateb i hynny, pa fodelau amgen sydd?"

Hefyd o ddiddordeb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y cwricwlwm yn rhoi cyfle i fyfyrwyr "ddefnyddio a dathlu eu tafodieithoedd lleol".

"Er ein bod yn gweithio'n agos gyda Cymwysterau Cymru a CBAC i sicrhau bod ein cymwysterau'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, fel y rheoleiddiwr annibynnol a'r bwrdd arholi, mae cynnwys cymwysterau yn fater iddyn nhw."

Ymatebodd CBAC trwy ddweud eu bod "wrthi ar hyn o bryd yn datblygu cyfres newydd o TGAU a chymwysterau perthynol", a fydd angen bodloni meini prawf cymeradwyo y rheoleiddwyr Cymwysterau Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymwysterau Cymru, "yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2022, gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniadau ar ystod newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru, gan gynnwys TGAU newydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg" - a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025.

Ychwanegodd: "Mae hefyd yn bwysig iawn bod ysgolion a cholegau yn ymgysylltu'n uniongyrchol â chyrff dyfarnu i amlinellu'r hyn sydd angen arnynt o gymwysterau cyfrwng Cymraeg."

'Dim amser i laesu dwylo'

Er gwaetha'i bryderon, pwysleisiodd Dr Iwan Rees fod gan y Cwricwlwm i Gymru newydd botensial i "drawsffurfio'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu ar bob lefel".

Er enghraifft, meddai, "mae pwyslais ar 'gynefin', a sôn hefyd am 'falchder yn eu hunain' - byddwn i'n dadlau bod rhaid mynd gam ymhellach ac ystyried 'balchder yn eu Cymraeg eu hunain' yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol".

Yr her i addysgwyr yw ystyried ffyrdd o wireddu hynny, meddai.

"Mewn ambell ardal, bydd perthnasedd y tafodieithoedd traddodiadol yn fwy amlwg. Ar y llaw arall, mewn ardal fel Caerdydd, byddai modd rhoi sylw i natur y cymysgu tafodieithol sy'n arwain at ffurfio tafodieithoedd newydd.

"Yn y cymoedd wedyn, byddai'n bosib rhoi sylw i'r modd y mae tafodiaith draddodiadol y Wenhwyseg yn dal i effeithio ar Saesneg yr ardaloedd hyn, sy'n cynnwys ynganiadau o enwau lleoedd fel 'Ricos', 'Pentra' a 'Gelli-gêr'.

"Mae cymaint o botensial a dweud y gwir, ond does dim amser i laesu dwylo."

Pynciau cysylltiedig

Hefyd gan y BBC