Datganoli a'r Gymraeg: 'Rhethreg ond dim trawsnewid sylfaenol'

  • Cyhoeddwyd
Parc Cathays 2Ffynhonnell y llun, ANDREW MOLYNEUX
Disgrifiad o’r llun,

Mae is-adran y Gymraeg yn uned fechan a chymharol isel ei statws o fewn Llywodraeth Cymru, medd Huw Lewis ac Elin Royles

Mewn cyfrol newydd gan Wasg Prifysgol Cymru, mae arbenigwyr yn eu meysydd yn dadansoddi dau ddegawd o ddatganoli, gan ystyried a ydy polisïau ym meysydd iechyd, addysg a phobl ifanc, yr economi, yr amgylchedd, cydraddoldeb, y Gymraeg a pholisi tramor yn arddangos "democratiaeth gymdeithasol gyda streipen Gymreig".

Alun Jones, newyddiadurwr gyda'r BBC a chyn-was sifil yn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, sy'n bwrw golwg dros The Impact of Devolution in Wales, gol. Jane Williams ac Aled Eirug.

"Nid yw rhethreg strategaethau swyddogol wedi arwain at drawsnewid sylfaenol yn ffawd y Gymraeg eto."

Dyna un o gasgliadau Huw Lewis ac Elin Royles ar ôl astudio strategaethau Llywodraeth Cymru, sef Iaith Pawb, Iaith fyw: Iaith byw, dolen allanol a Cymraeg 2050, dolen allanol.

Dywed y ddau bod tueddiadau sydd wedi bod yn amlwg ers y 1970au "wedi aros yn gymharol gyson ar ôl datganoli".

Nid yw hynny yn "dystiolaeth glir o fethiant polisi", meddir, ond yn hytrach mae'n "ein hatgoffa bod ceisio atal a gwrthdroi symudiad cymdeithasol iaith yn dasg arbennig o gymhleth". Tueddiadau megis:

  • gostyngiad yn y niferoedd sy'n honni eu bod yn siarad yr iaith yn ddyddiol a chynnydd yn y niferoedd sy'n ei siarad yn achlysurol;

  • cynnydd trawiadol yn y niferoedd sy'n arddel gallu sylfaenol yn yr iaith, ochr yn ochr â gostyngiad yn y niferoedd sy'n arddel rhuglder.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim trawsnewid wedi bod o ran iechyd, yr economi na'r Gymraeg ers datganoli medd yr arbenigwyr yn y gyfrol.

Mae dylanwad ymgyrchwyr a lobïwyr yn gallu bod yn annelwig, ond fe all Cymdeithas yr Iaith ymfalchïo wrth weld adrodd mai eu hymgyrch nhw arweiniodd yn uniongyrchol at yr addewid ym maniffesto etholiadol y blaid Lafur i gael miliwn o bobl yn siaradwyr Cymraeg - "datblygiad cwbl annisgwyl" medd y ddau academydd - sydd bellach yn gonglfaen polisi Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Mae'r ddau awdur hefyd yn cydnabod bod "gallu Plaid Cymru i ddylanwadu wedi bod, ar adegau penodol, yn ffactor allweddol sydd wedi ysgogi datblygiadau polisi sylweddol o ran y Gymraeg".

Cyfweliadau

Un o gryfderau'r llyfr yw bod ynddo ffrwyth llafur y diweddar Athro Michael Sullivan yn recordio cyfweliadau yn 2018 gyda phobl allweddol yn hanes datganoli, gyda'r bwriad o ysgrifennu llyfr (ei weddw Jane Williams, yw un o'r golygyddion).

Mae'n bosibl iawn fod yr Athro Sullivan yn medru cael mwy allan o bobl mewn sgyrsiau o'r fath nag y bydden nhw'n fodlon dweud mewn cyfweliad ffurfiol gyda chyflwynydd mewn stiwdio.

Er enghraifft, dywed Adam Price bod y "traddodiad Llafur yng Nghymru bellach mewn rhyw fath o fowld cenedlaetholgar meddal... Yn y bôn fe wnaethon nhw ddwyn tiriogaeth ddeallusol Plaid Cymru. Roedd Cymru'n Un [y glymblaid yn 2007] yn caniatáu iddynt barhau i lawr y ffordd honno ac nid yw'r Blaid wedi gallu adennill, ail-leoli ei hun ers hynny."

Iechyd da?

A fyddai pobl Cymru wedi bod mewn iechyd gwell neu waeth pe bai polisïau sy'n ymwneud ag iechyd a gofal iechyd yng Nghymru wedi eu cydweddu yn agosach â'r rhai a ddilynwyd gan lywodraethau olynol y DU? Cwestiwn mawr gan Ceri J. Phillips ond "mae'n amhosib dod i gasgliad pendant" meddai.

Trwy gydol datganoli, meddai, mae'r "perfformiad yn erbyn targedau... wedi parhau i gael ei feincnodi yn erbyn yr hyn oedd yn digwydd yn Lloegr, ac wedi arwain at wanhau'r dŵr coch groyw" - chwedl Rhodri Morgan a Mark Drakeford - oedd i fod i wahaniaethu rhwng polisïau'r ddwy wlad.

Ffynhonnell y llun, TAFLEN YMGYRCH
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi disgrifio Rhodri Morgan fel ei fentor, ac mae dylanwad mawr y ddau ar ddatganoli yn cael ei adrodd yn y gyfrol

Dywed fod "iechyd poblogaeth Cymru yn ôl pob tebyg yn gyfartal â'r hyn ydoedd pan ddechreuodd datganoli" ac mae'n nodi nad yw "adolygiadau arbenigol o berfformiad y systemau iechyd ym mhob un o bedair gwlad y DU wedi canfod unrhyw wahaniaeth rhyngddynt."

'Cymysg'

Ynglŷn ag un o'r meysydd polisi mawr eraill a ddatganolwyd i Gymru ym 1999, sef addysg, dywed David Egan "er bod llawer o lwyddiannau wedi bod dros y cyfnod hwn, mae'r rhwystrau sylweddol a wynebwyd a'r beiddgarwch annigonol wrth fynd i'r afael â'r rhain wedi arwain at record gymysg."

Mae'n dweud bod angen "gweledigaeth drawsnewidiol ar gyfer addysg" ar Lywodraeth Cymru gyda "sylw dwys a brys" i wella addysg ysgol.

Mae'n awgrymu bod gor-lywodraethu yn broblem, gan gwestiynu a oes angen 22 awdurdod lleol, pedwar consortiwm addysg rhanbarthol, arolygiaeth ysgolion, corff cymwysterau, corff rheoleiddio'r gweithlu ac academi arweinyddiaeth.

'Methiannau'

Ym mhennod Gareth Davies ar ddatblygu economaidd, mae llawer o enghreifftiau o gyfyngiadau ar Lywodraeth Cymru a goruchafiaeth Llywodraeth y DU, a "methiannau i ddatrys yr her hirsefydlog o ariannu prosiectau seilwaith mawr hirdymor yng Nghymru".

Mae'n dod i'r casgliad nad yw Llywodraeth Cymru yng nghyfnod datganoli "wedi gallu gwrthdroi ffawd economaidd y genedl ac mae'n ymddangos na fu budd economaidd o ddatganoli".

Disgrifiad,

"Gobaith, anobaith ac yna gorfoledd." Adroddiad newyddion am ganlyniadau'r refferendwm datganoli ym 1997

Mae pennod Terry Marsden yn dangos sut mae datblygu cynaliadwy wedi bod yn ddyletswydd arweiniol mewn llywodraethu datganoledig, tra bod Jane Williams yn adrodd sut mae hawliau plant wedi dod i amlygrwydd yn y cyfnod datganoledig yng Nghymru.

Mae Elin Royles a Paul Charney yn dangos sut mae rôl ganolog "cymdeithas sifil", "cydraddoldeb" a "chynhwysiant" wedi llywio datblygiad polisi a darpariaeth gwasanaethau.

Mae dawn dweud yn nodweddu'r gyfrol ar ei hyd, gan yr awduron a'r bobl a ddyfynnir.

Meddai Geraint Talfan Davies, er enghraifft, "roedd refferendwm 2016 yn rhagarweiniad i noson dywyll yr enaid i sefydliadau diwylliannol Cymreig" o ystyried y cydweithio a chysylltiadau oedd wedi'u meithrin ym "marchnad sengl esblygol y meddwl". Dywed bod strategaeth ryngwladol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn "fwy canolog i'n dyfodol nag erioed".

Troad y rhod

Mae gwrthwynebiad Rhodri Morgan i Forglawdd Bae Caerdydd yn hysbys iawn, ond roedd yn newyddion i mi fod cynghorwyr ifanc o'r enw Mark Drakeford a Jane Hutt wedi cael eu gwahardd dros dro gan arweinyddiaeth Llafur Cyngor Caerdydd am eu gwrthwynebiad hwythau. Ni wnaeth unrhyw niwed i'w gyrfaoedd, gyda'u swyddfeydd gweinidogol ar bumed llawr Tŷ Hywel nawr â golygfeydd braf o'r bae.

Roedd llawer eisoes wedi'i ysgrifennu am ddatblygiad cyfansoddiadol rhyfeddol datganoli Cymreig ers ei ddechreuad bregus yn 1999, ond mae'r llyfr hwn yn llenwi bwlch wrth ddadansoddi effaith polisïau ar bobl Cymru.

Yn y pen draw, dyna hanfod datganoli.

Dylai'r darlun cymysg a ddaw i'r amlwg fod yn destun dadlau gwleidyddol iach.