Person yn parhau ar goll yn dilyn tân Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n dweud fod person yn parhau ar goll yn dilyn tân yn Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn adeilad dau lawr ym mhentref Meidrim yn oriau man ddydd Gwener, 9 Chwefror.
Mae'r tân wedi ei ddiffodd, ond mae'r adeilad yn parhau'n anniogel, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd y gwasanaeth tân bod nifer o griwiau wedi eu galw i'r digwyddiad, ac nad oes modd mynd i'r adeilad yn sgil "difrod sylweddol".
Bydd y ffordd ym Meidrim yn aros ar gau wrth i'r heddlu weithio gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub i sefydlu achos y digwyddiad.