Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2024

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Trystan Ellis-Morris ac Elin FlfurFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur fydd yn cyflwyno y noson

Mae'r wyth cân sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Cân i Gymru 2024 wedi cael eu cyhoeddi, gyda chyn-enillydd a sawl wyneb cyfarwydd ymhlith y cyfansoddwyr a'r perfformwyr.

Am y tro cyntaf bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu yn fyw o Arena Abertawe, a bydd y noson yn cynnwys perfformiadau ychwanegol gan artistiaid amlwg o fewn y sin gerddorol yng Nghymru.

Fe fydd y tlws ei hun yn newydd eleni, tra bod newidiadau i'r gwobrwyon ariannol hefyd - bydd yr enillydd yn dal i dderbyn £5,000, ond mae'r ail safle bellach yn derbyn £3,000, a bydd £2,000 i'r trydydd safle.

Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur fydd yn cyflwyno'r noson a bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C ar ddydd Gŵyl Dewi, nos Wener 1 Mawrth.

Y beirniaid eleni yw Bronwen Lewis, Dom James, Mared Williams a Carwyn Ellis - gydag Osian Huw Williams, prif leisydd Candelas, yn cadeirio'r panel.

Wyth cân fydd yn rhan o'r gystadleuaeth derfynol eleni, a phob un yn cael ei pherfformio gyda band byw.

Fe fydd perfformiadau gan "sawl artist adnabyddus" yn ogystal â pherfformiad arbennig o un o ganeuon enwocaf hanes Cân i Gymru.

Dywedodd Arena Abertawe wrth Cymru Fyw ddydd Mercher fod bron i 900 o'r 1136 o docynnau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad wedi mynd.

Rhestr Fer Cân i Gymru 2024

1. Yr Un Fath

Ffynhonnell y llun, S4C

Cyfansoddi a pherfformio: Jacob Howells

Daw Jacob yn wreiddiol o Lanelli ac mae o wedi derbyn gradd Meistr mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerfaddon yn ddiweddar. Mae o'n cyfansoddi ers ei fod o'n 13 oed.

Dyma'r tro cyntaf iddo wneud cais, ac mae'r gân yn adlewyrchu colli hyder wrth ddefnyddio'r iaith Gymraeg a'r teimlad braf o ailafael yn y diwylliant unwaith eto.

2. Heno

Ffynhonnell y llun, S4C

Cyfansoddi: Elfed Morgan Morris a Carys Owen

Perfformio: Elin Hughes

Mae Elfed, sy'n bennaeth yn Ysgol Llandygai, eisoes wedi cyfansoddi cân fuddugol sef Gofidiau, a enillodd y gystadleuaeth yn 2009.

Mae Carys, athrawes yn Ysgol y Felinheli, hefyd wedi cael llwyddiant nôl yn 2002, gyda Rhy Gry, a gyfansoddwyd ar y cyd gydag Emyr Rhys, ddaeth yn ail, tra bod y ddau wedi cydweithio nôl yn 2022 gyda Rhyfedd o Fyd, a ddaeth yn drydydd.

Mae Heno yn cael ei ddisgrifio fel cân bop bositif sydd am wneud i bobl ddawnsio.

3. Cysgod Coed

Ffynhonnell y llun, S4C

Cyfansoddi: Gwion Phillips ac Efa Rowlands

Perfformio: Gwion Phillips

Efa yw awdur y gân Cysgod Coed, a Gwion sydd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth. Mae'n gân serch am gariad cyntaf.

Mae Efa yn 20 mlwydd oed ac yn byw yng Nghaerdydd gyda'i theulu. Mae hi wedi actio mewn sioeau Cyw ac yn y theatr, ac wedi ennill Tlws yr Ifanc yn Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd yn 2021.

Myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yw Gwion, ond yn wreiddiol o Aberystwyth. Mae cerddoriaeth yn bwysig yn ei fywyd, a'i brif offeryn yw'r drymiau. Eleni fydd y tro cyntaf iddo ganu'n gyhoeddus yn unigol.

4. Goleuni

Ffynhonnell y llun, S4C

Cyfansoddi: Steve Balsamo a Kirstie Roberts

Perfformio: Moli Edwards

Mae Steve yn ganwr ac yn gyfansoddwr o Abertawe. Mae o wedi actio mewn cynyrchiadau o Les Miserables a Jesus Christ Superstar yn y 1990au. Mae o wedi bod mewn sawl band dros y blynyddoedd ac wedi teithio gydag Elton John, Meatloaf, Slash, Jon Lord o Deep Purple ac eraill.

Fe gyd-ysgrifennodd y gân Cri a gafodd ei pherfformio gan Arwel Gruffudd yn 1995, a'r gân Rhywun yn Rhywle gafodd ei pherfformio gan Tesni Jones yn 2011.

Mae Kirstie wedi'i geni a'i magu yng Nghastell Nedd ac yn gweithio fel athrawes ganu. Yn bennaf, cefndir mewn cerddoriaeth glasurol sydd ganddi ac mae hi wedi ail-afael â'i Chymraeg trwy ei mab wyth mlwydd oed. Cân am berthynas merch ifanc a'i thad yw Goleuni.

5. Ti

Ffynhonnell y llun, S4C

Cyfansoddi a pherfformio: Sara Davies.

Cân serch gan daid Sara i'w nain yw Ti. Mi ysgrifennodd ei thaid geiriau'r gân cyn iddo farw, ac ar ôl ei golli, mi aeth Sara ati i gyfansoddi'r gerddoriaeth.

Yn wreiddiol o Hen Golwyn, mae hi bellach yn byw yn Llandysul ac yn athrawes cerddoriaeth, drama a lles yn Ysgol Uwchradd Tregaron.

Mae hi'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian ac yn aelod o'r grŵp 50 Shêds o Lleucu Llwyd.

6. Cymru yn y Cymylau

Ffynhonnell y llun, S4C

Cyfansoddi: Lowri Jones a Siôn Emlyn Parry

Perfformio: Lowri Jones

Hiraeth am Gymru yw neges y gân yma gan i'r ddau gyfansoddwr fyw tu hwnt i Gymru am sawl blwyddyn. Mae'r gân yn disgrifio'r siwrne o ddychwelyd gan bwysleisio pwysigrwydd cymuned.

Daw Lowri yn wreiddiol o Ynys Môn a bellach yn byw ger Caernarfon. Mi astudiodd Cerddoriaeth yng Nghernyw ac yn gweithio bellach fel peiriannydd sain ac i elusen Codi'r To.

Mae Siôn wedi'i eni a'i fagu yn Seion, ger Caernarfon. Mi astudiodd perfformio yng Nghaerdydd cyn symud i Los Angeles i astudio actio. Mae'n ddrymiwr i'r band Ffatri Jam ac yn chwarae'r offeryn ers oedd o'n bum mlwydd oed. Mae'n gweithio gyda Lowri yn Codi'r To, a hefyd yn diwtor drama i Glwb Drama Sbarc yn Galeri Caernarfon.

7. Pethau yn Newid

Ffynhonnell y llun, S4C

Cyfansoddi a pherfformio: Siôn Rickard

Cân am yr awydd i fywyd arafu yw hon, a'r teimlad o fywyd yn llithro o'r gafael. Mae Siôn yn wreiddiol o Fetws y Coed ac wedi ymgartrefu bellach ym Machynlleth.

Dyma'r trydydd tro iddo ddod i'r wyth olaf mewn tair mlynedd yn Cân i Gymru. Fe ganodd y gân Rhiannon yn 2022 ac Y Wennol gyda'i frawd Liam o dan enw eu band, Lo-fi Jones.

8. Mêl

Ffynhonnell y llun, S4C

Cyfansoddi a pherfformio: Owain Huw a Llewelyn Hopwood

Neges y gân hon yw i ddyfalbarhau a chydweithio mewn bywyd. Daw Owain yn wreiddiol o Abertawe a bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae o'n actor ac yn ddiweddar wedi bod yn rhan o'r gyfres Masters of the Air ar Apple TV.

Daw Llewelyn o Gaerfyrddin, a bellach yn byw yn Llundain. Mae cerddoriaeth yn rhan fawr o'u bywydau nhw, ac roeddent yn rhan o'r band Bromas gyda'i gilydd.