Sut mae ennill Cân i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Arfon WynFfynhonnell y llun, Arfon Wyn

Oes 'na fformiwla i ennill Cân i Gymru? Mae'r gystadleuaeth am y gân orau yn cael ei darlledu ar S4C, dolen allanol nos Sadwrn, 29 Chwefror, ond ar ôl ennill bedair gwaith mae Arfon Wyn wedi penderfynu rhoi'r gorau i gystadlu.

"Roedd gen i gân eleni ro'n i'n meddwl fysa'n gwneud ond nes i benderfynu peidio ei gyrru hi achos amser i bobl ifanc ydi hi rŵan," meddai wrth Cymru Fyw.

Enillodd y gystadleuaeth fel cyfansoddwr gyda Ni Welaf yr Haf gyda'i fand Pererin yn 1979; Cae o Ŷd yn 2000; Harbwr Diogel ar y cyd â Richard Synnott yn 2002 ac yn fwyaf diweddar, Y Lleuad a'r Sêr ar y cyd ag Elin Angharad yn 2015.

Felly beth yw'r gyfrinach? Dyma gyngor Arfon Wyn am yr elfennau sy'n bwysig i gân fuddugol yn ei farn o:

Alaw dda sy'n bachu yn gyflym

"I ddechrau, mae'n rhaid i chdi gael melodi dda," meddai.

Ond peidiwch ei gadael rhy hir cyn i'r bachyn gicio i fewn: "Dwi'n gwybod ei fod yn air cawslyd ond rhaid bod y gân yn catchy yn sydyn."

Cân anthemig

"Mae'n help os oes 'na rywbeth anthemig yn y gân - 'fath â Cae o Ŷd ddaru Martin Beattie ei chanu i mi.

"'Ac mae sŵn y gynnau'n tanio, dal i'w glywed yn y nos' - fedri 'di ganu honna efo lighter yn dy law mewn festival!"

Cytgan sy'n gafael

"Mae'r gytgan yn bwysig. Mae geiriau penillion Harbwr Diogel yn rhai reit ddifrifol a thrist ond am bod y gytgan mor catchy toedd ddim ots gan bobl am eiriau'r penillion - y gytgan aeth â hi efo honna.

"A rhaid i'r gytgan fod yn afaelgar yn sydyn."

Elin Fflur yn canu Harbwr Diogel yn Cân i Gymru 2002Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Harbwr Diogel yn 2002 wnaeth lawnsio gyrfa Elin Fflur fel artist unigol

Geiriau da

"I mi, mae'r geiriau yn bwysig. Dydyn nhw ddim wedi bod yn hollbwysig bob amser yn y gystadleuaeth ond mae'r caneuon sydd wedi dal eu tir - fel Y Cwm, Nwy yn y Nen, Nid Llwynog Oedd yr Haul - yn rhai lle mae'r geiriau yn bwysig iawn.

"Mae'r geiriau yn gorfod dod o'r galon. Myrddin ap Dafydd wnaeth y rhai gorau [awdur Golau Tan Gwmwl, 1980 a Nid Llwynog Oedd yr Haul, 1982].

"Mae'r ystyr yn bwysig - roedd y gân am Hedd Wyn [enillodd yn 2018] yn apelio i'r gynulleidfa ar y pryd."

Cân sy'n eich codi

"Roedd Harbwr Diogel yn gân ddistaw pan wnes i ei gyrru hi i mewn ond roedd y trefniant roedd Cân i Gymru wedi ei gwneud wedi ei chyflymu hi ac oedd hynny yn beth da, achos mi ddaeth y gân yn fwy poblogaidd oherwydd hynny.

"Ar y cyfan, mae'n well iddi fod yn gân reit hapus - doedd Harbwr Diogel ddim yn gân hapus yn mynd i mewn ond ar ôl cael ei chyflymu daeth yn rhywbeth roedd plant yn ei ganu mewn ysgolion cynradd."

Derbyn y wobr yn 2015Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Cyd gyfansoddodd Arfon Wyn Y Lleuad a'r Sêr gydag Elin Angharad, oedd yn ei chanu ar y noson yn 2015

Gwerin neu bop?

"Mae 'na ryw fath o schizophrenia yn y gystadleuaeth achos mae'r gân fuddugol i fod i fynd i'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon, sy'n ŵyl werin. Ond yng Nghymru cân bop, gyfoes, maen nhw'n chwilio amdani.

"Mae 'na ganeuon gwerinol gan Plethyn wedi ennill yn y gorffennol - does 'na'm byd o'i le efo'i wneud yn y dull cân werin gyfoes. Ond dwi 'di ffeindio mai cân boblogaidd - pop - sy'n mynd â hi ran amlaf.

"Ond ro'n i'n licio cân Elidir Glyn yn 2019. Roedd ganddi bob dim - melodig, geiriau da ac yn apelio'n syth. Cân werin yn y dull gwerin cyfoes oedd yn enghraifft wych o'r elfennau i gyd: roedd hi jyst yn extra bonus bod hi'n werinol."

Ond nid rhy abrofol...

"Roedd 'na un gân oedd ychydig yn RnB yn cael ei chanu gan Elin Parisa Fouladi ryw ddwy flynedd yn ôl o'n i'n meddwl oedd yn gân wych - o'n i'n ei licio hi'n arw ond am ryw reswm dim dyna'r math o gân sy'n mynd â hi.

"Ers talwm roedd y canu arborofol i fod yn yr underground - dyna oeddan ni'n ei alw fo. Frank Zappa a phobl felly oedd yn gwneud pethau diddorol, arbrofol. Ac yma yng Nghymru mae hwnna wedi cymryd drosodd dwi'n meddwl ar raglenni Radio Cymru - mae'r arbrofol wedi cymryd drosodd oddi wrth y melodig a dwi ddim yn meddwl bod hynny'n beth da.

"Mae Cymry yn licio geiriau da, alaw dda, a gorau oll os ydi hi'n anthemig."

Dim ots os nad ydi hi'n ennill

"Dwi 'di cael lot o ail a thrydydd yn y gystadleuaeth hefyd.

"Beth sydd isho ei ddweud am Cân i Gymru fwy na dim ydy ei bod yn rhoi cyfle i gyfansoddwyr wneud eu marc.

"Doedd gen i ddim ffynhonnell arall i wneud hynny. Yng Nghymru, yn enwedig yn y gorffennol, os oedd Radio Cymru ddim yn chwarae dy stwff di doedd gen ti ddim gobaith, felly roedd Cân i Gymru yn rhoi cyfle i ti wneud dy farc fel cyfansoddwr. Os oedd gen i gân fyddai'n gwneud pan oedd y dedlein yn dod, ro'n i'n ei gyrru hi mewn.

"Weithiau nid yr enillydd ydi'r gân sy'n goresgyn - 'run fath ag Yma Wyf Finnau i Fod, sy'n chwip o gân. Aeth hi ddim trwadd i'r rownd olaf hyd yn oed.

"Dim ots os ti'n ennill, achos os 'di'r gân yn gafael mi wneith hi oroesi."

Geraint Lovgreen ac Arfon Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Arfon Wyn gyda Geraint Løvgreen a gyfansoddodd Nid Llwynog Oedd yr Haul gyda Myrddin ap Dafydd ac Yma Wyf Finnau i Fod gyda Meirion MacIntyre Huws

Cyfle i feirniadu?

"Y dyddiau yma, dwi 'di penderfynu peidio trio a gadael i'r rhai newydd gael cyfle," meddai Arfon Wyn.

"Fel yr Eisteddfod - os wyt ti wedi ennill y Gadair neu'r Goron dair gwaith fedri di ddim cystadlu eto. Ro'n i'n meddwl y bysai hynny yn beth da efo Cân i Gymru hefyd!"

"Ond fyswn i'n licio gwahoddiad i fod yn feirniad - dwi'n disgwyl am hwnna ers blynyddoedd ond 'di hynny ddim 'di digwydd - mae hynny'n siomedig."

Ond, nos Sadwrn fe fydd yn feirniad answyddogol yn gwylio gartref ar y teledu!

Hefyd o ddiddordeb: