'Dylai neb orfod cuddio gwahaniaeth corfforol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Cyn belled a bod o'n hapus ma' bopeth yn iawn"

"Mae normaleiddio gwahaniaeth corfforol mor bwysig, fel bod neb yn teimlo fel bod rhaid iddyn nhw guddio."

Bum mis yn ôl croesawodd Elliw Williams ac Ilan Roberts, 25, eu mab, Arthur, i'r byd. 

Cafodd Arthur o Fodffordd, Ynys Môn ei eni heb ei law chwith, ac mae'r teulu'n galw am fwy o gefnogaeth i blant sydd wedi eu geni gyda rhan o'r corff sy'n wahanol. 

Wedi eu profiad maen nhw hefyd yn gobeithio cynnal digwyddiad i ddod â phobl sydd gyda gwahaniaeth corfforol at ei gilydd er mwyn rhannu profiadau a dathlu'r cyflwr.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwrthod cais y BBC am ymateb.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elliw ac Ilan gadarnhad nad oedd braich chwith Arthur wedi tyfu'n llawn yn ystod eu sgan 20 wythnos

Yn ystod eu sgan 20 wythnos, cafodd Elliw ac Ilan gadarnhad nad oedd braich chwith Arthur wedi tyfu'n llawn. 

"Mae'n reit unig yn y dechrau i ffeindio allan rhywbeth fel 'na a ddim nabod unrhyw un sydd wedi bod trwy rywbeth tebyg," meddai Elliw. 

Ychwanegodd Ilan: "Roedd o'n anodd i ddechrau. Ond o'r cychwyn cyntaf wnaethon ni ddweud cyn belled â bod o'n iach ac yn hapus ma' bopeth yn iawn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dydy rhieni Arthur ddim yn gwybod a ydy hyn yn debygol o ddigwydd eto pe bai nhw'n cael mwy o blant

Er yn falch bod Arthur yn iach mae'r cwpl yn dweud eu bod nhw wedi profi diffyg cefnogaeth. 

Dywedodd Ilan: "Wnaethon ni ddim hyd yn oed cael leaflet. Hyd heddiw 'dan ni ddim wedi cael ateb am pam bod hyn wedi digwydd, neu be' sydd wedi achosi fo.

"'Dan ni ddim yn siŵr os ydy o'n mynd i ddigwydd eto os 'dan ni'n cael mwy o blant."

Ychwanegodd Elliw: "Does dim digon o gefnogaeth. Wnaethon nhw ddim rhoi enw ar y cyflwr neu unrhyw beth.

"Ac am fod gennym ni ddim enw iawn iddo fo doeddwn ni ddim yn gwybod sut i ddod o hyd i bobl eraill. Roedd hynny'n anodd."

Ffynhonnell y llun, BBC/Studio Lamberty/Paul Chappells
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elliw ac Ilan wedi canmol pobl fel Mollie Pearce o'r gyfres deledu The Traitors sydd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o wahaniaethau corfforol

Mae gwahaniaeth corfforol yn bwnc sydd wedi cael ei drafod yn gyhoeddus yn ddiweddar, gyda Mollie Pearce o raglen The Traitors yn sôn am ei phrofiad hi o fyw gyda'r cyflwr. 

"Mae'n neis bod pobl fel Mollie yn codi ymwybyddiaeth am y peth. Mae'n bwysig. Ac ers i ni gael Arthur ni wedi sylwi bod yna bobl gyda'r un peth ag Arthur ym mhobman," meddai Elliw.

'Falle gall o wneud ffrind bach sy'n debyg iddo fo'

Mae'r ddau bellach yn bwriadu cynnal cyfarfod i geisio dod â phobl o ar draws gogledd Cymru sydd â gwahaniaeth corfforol at ei gilydd.

"Prif obaith ni efo trefnu hyn ydy i ni allu trafod hefo rhieni plant sydd falle'n hŷn nag Arthur ac sydd hefo'r un cyflwr, a helpu normaleiddio hwn iddo fo," meddai Ilan.

"Falle bod yna rhywun allan yna sydd ddim yn bell o oed Arthur a falle gall o wneud ffrind bach sy'n debyg iddo fo."

Ychwanegodd Elliw: "Mae 'na bethau'n mynd i ddod fyny falle bydd o'n stryglo mwy efo a byddan nhw falle wedi bod trwyddo fo'n barod.

"A hefyd bod ni'n cael dod i nabod plant bach eraill fel bod fo'n gallu tyfu fyny yn gwybod nid fo ydy'r unig un."

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwrthod cais am ymateb.

⁠Yn ôl Pennaeth Bydwreigiaeth Ysbyty Merched Lerpwl, mae eu tîm arbenigol nhw wastad yn ceisio cefnogi teuluoedd yn ystod profion diagnostig, ac y dylid gwneud cais am unrhyw gefnogaeth yn dilyn diagnosis drwy brif ddarparwr gofal yr unigolyn.