Brwydro rhwystrau er mwyn cael artist anabl i frig y siartiau
- Cyhoeddwyd
Mae'r artist o Aberdâr, Rightkeysonly, yn gerddor llwyddiannus. Mae hi hefyd yn anabl ac yn niwrowahanol.
Ond anaml welwch chi artist anabl ar frig y siartau - rhywbeth mae hi'n benderfynol o'i newid, drwy wthio'r ffiniau ac addysgu eraill er mwyn gwneud y diwydiant cerddoriaeth yn un mwy croesawgar i artistiaid ag anableddau.
'Ddim yn gerddor go iawn...'
Er mai dim ond ers blwyddyn mae Rightkeysonly wedi bod yn gweithio fel cerddor llawn amser, mae 'Keys' wedi taflu ei hun i mewn i'r maes gydag arddeliad, a hynny yn dilyn sylw annifyr amdani yn ystod noson meic agored, eglurai:
"Dwi'n cofio'r cyflwynydd yn dweud 'mae gyda ni gerddorion anhygoel yma heno, a chanwr... ond ni gyd yn gwybod fod cantorion ddim yn gerddorion go iawn...'. Amdana i o'dd e'n siarad, jest cyn i mi fynd ar y llwyfan.
"Mae fy mraich chwith wedi ei lled-barlysu ers i mi gael fy ngeni, oherwydd fod gen i Barlys Erb ochr chwith (Left Erb's Palsy), felly dydw i ddim wastad wedi bod â'r gallu i ddysgu offeryn.
"Roedd clywed rhywbeth fel yna yn fy ngwthio i 'mlaen: 'Iawn, rhaid i mi ddysgu sut i bîtbocsio - i ddangos y galli di wneud cerddoriaeth gyda dim ond dy geg - i gynhyrchu...' 'Nes i dreulio pob dydd yn e-bostio, ffonio, mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio, unrhyw sefydliad o'n i'n gallu dod o hyd iddo yn holi 'beth allwch chi ei gynnig i mi? Beth alla i ei ddysgu? Beth alla i ei wneud?'"
Mae hi bellach yn astudio cwrs Meistr mewn ysgrifennu caneuon a chynhyrchu cerddoriaeth, ochr-yn-ochr â gigio a pherfformio'n fyw, er mwyn hogi ei chrefft.
Diwydiant anhygyrch
A hithau yng nghanol y diwydiant cerddoriaeth, yn gerddor anabl, niwrowahanol, sydd hefyd yn gweithio ar brosiectau i geisio gwella'r ddarpariaeth i gerddorion anabl, mae hi'n gallu gweld pa mor anhygyrch yw'r diwydiant, meddai:
"Mae 'na lot o bwysau ar gerddorion - yn gweithio oriau hir, nosweithiau hwyr, o flaen torfeydd ofnadwy, dim tâl, weithiau ddim hyd yn oed yn cael diod o'r bar. Ychwanegwch anabledd at hynny, ac mae'n anghredadwy.
"Dwi wedi gorfod chwarae pedair set mewn un dydd, heb amser rhydd yn y canol. 'Nes i berfformio deuddydd yn Greenman pan oedd hi'n chwilboeth, ac o'n i mor sychedig a dehydrated ar un adeg, do'n i methu cael y geiriau mas i ofyn am wydraid o ddŵr. Roedd e'n arwydd bod gormod yn mynd 'mlaen.
"A fi sydd yn gorfod delio gyda hynny wedyn. Does yna ddim ystyriaeth ynglŷn â beth sy'n dod nesa'. Ydi, mae hi'n iawn i weithio artistiaid anabl yn galed iawn, ond mae'n rhaid bod yna iddyn nhw wedyn - dyddiau i ffwrdd, cefnogaeth emosiynol..."
Problem agwedd yn ei hanfod yw sail problemau hygyrchedd y diwydiant, meddai, ac mae hi wedi bod yn dyst i nifer o sylwadau sefydliadau a trefnwyr digwyddiadau sydd ddim eisiau gorfod 'delio ag anabledd'.
"Er fod fy mraich wedi ei pharlysu ac ychydig yn fyrrach na'r llall, dydi hi ddim wastad yn amlwg, felly dwi'n meddwl fod pobl yn anghofio eu bod nhw'n siarad â pherson anabl, pan 'dyn ni'n trafod anabledd. Ac mae hynny'n anodd iawn.
"Dwi wedi bod mewn cyfarfodydd gyda phobl yn dweud ''dyn ni ddim am gael dehonglydd, achos mae'n rhy ddrud', neu ''dyn ni ddim am ddewis y person yna ar gyfer yr ŵyl oherwydd mae'r ochr hygyrchedd am gymryd rhy hir i'w sortio'. A dwi'n gorfod mynd adre, wedi clywed rhywun yn dweud eu bod nhw ddim eisiau rhywun fel fi, oherwydd y ffordd ges i fy ngeni, drwy'r dydd. Mae'n afiach o deimlad."
Brwydro nôl
Ddim yn un i sefyll nôl a gwneud dim byd, arweiniodd y sylwadau a glywodd yn y noson meic agored iddi sefydlu'r noson meic agored hygyrch cyntaf yn Rhondda Cynon Taf, eglurodd:
"Pan 'nes i ddechrau trefnu hwn, 'nes i ddweud bod yna rai tyllau am fod yn fy ngwybodaeth, a dyna'r ffordd cynta' roedd e'n hygyrch; gyda fi'n bod yn onest, yn dweud 'dwi ddim yn gwybod popeth, plîs cywirwch fi pan dwi'n anghywir'. Dydi llawer o bobl ddim yn gwneud hynny.
"'Naethon ni'n siŵr fod y gofod perfformio ar y llawr gwaelod, felly ddefnyddion ni ddim y llwyfan o gwbl. Roedd hyn i bawb dim jest i bobl oedd mewn cadair olwyn - roedd pawb yn yr un sefyllfa. 'Nes i hefyd ddod â llawer o deganau synhwyraidd, a doedd 'na ddim rhaid i chi fod yn anabl neu'n niwrowahanol i'w defnyddio. Roedd pawb yn gallu ffidlan, achos mae'n helpu gyda gorbryder perfformio.
"Hefyd, creu awyrgylch gefnogol. Roedd ganddon ni wirfoddolwyr ar y noson, ond 'nes i'n siŵr mai fi oedd y person cynta i gyfarch pawb, achos roedden nhw wedi gweld fy wyneb i yn yr holl negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. I rywun sydd yn cael trafferth gyda mynd yn over-stimulated, ro'n i'n rhywbeth cyfarwydd i anelu ato.
"Pan mae pobl yn gwneud camgymeriadau wrth berfformio, fi fel arfer yw'r cyntaf i weiddi 'ie, caria mlaen!' ond doedd 'na ddim rhaid i mi, achos roedd yr holl stafell yn deall ac yn deall y teimlad o fod yn orbryderus ac allan o dy ddyfnder.
"Roedd pobl, oedd ddim yn aml yn gadael y tŷ, yn gwneud ffrindiau gyda dieithriaid. Llawer o'r amser, mae jest am greu awyrgylch groesawgar lle ti'n gwybod y galli di fod yn wahanol."
Creadigrwydd yn magu hygyrchedd
Mae Keys yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau sy'n cydweithio â sefydliadau i wella hygyrchedd y diwydiant cerddoriaeth, ac mae hi'n teimlo mai yn aml beth sydd ei angen ydi edrych ar bethau o ongl wahanol:
"Llawer o be' dwi'n ei weld pan dwi'n siarad â sefydliadau yw eu bod nhw ofn ei fod yn dasg rhy fawr a'i fod rhy ddrud..
"Ond pan dwi'n eistedd i lawr â phobl eraill i drafod syniad, 'dyn ni'n dweud 'pe bai gennyn ni'n holl arian yn y byd, beth fydden ni'n ei 'neud...?'. Yna, camu nôl a'i symleiddio... 'gyda dim arian, beth fydden ni'n ei 'neud...?'
"O'n i'n siarad ag artist awtistig am y syniad o gynnal rave niwrowahanol, ac roedden ni'n trafod, beth os yw rhywun yn fud, sut fydden ni'n gwybod hynny heb iddyn nhw wisgo bathodyn mawr amlwg? A daeth y syniad o freichled glowstick, gyda lliwiau gwahanol yn golygu gwahanol bethau. Maen nhw'n rhywbeth sydd mewn rave, ond mae'n rhoi gwybodaeth i ni mewn ffordd hwyl, yn lle rhywbeth mawr allai wneud i rywun deimlo'n anghyfforddus.
"Yn aml, mae 'na ateb hawdd i'r broblem - mae'n jest rhaid bod yn greadigol."
Cynrychiolaeth
Mae hi hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw cynrychiolaeth, a pha mor arwyddocaol fyddai o wedi bod iddi hi, fel merch ifanc, i weld rhywun oedd â'r un anabledd â hi, yn ffynnu. A dim jest yr anableddau 'derbyniol i edrych arnyn nhw', meddai, ond herio anghyfforddusrwydd bod yn wahanol.
"'Nes i weithio gyda chynllun datblygu artistiaid oedd yn dweud 'dyn ni ddim eisiau dewis yr un hawdd, 'dyn ni eisiau gweithio gyda rhywun falle fydd yn dechrau sgrechian neu daflu pethau neu droi'n fud am y diwrnod.'
"Mae cynrychiolaeth amrywiol mor bwysig - rhaid bod yn realistig i beth sydd mas 'na.
"Ti'n dysgu drwy brofiad a gweld pethau. Mae gweld cynrychiolaeth anabl mor bwysig, achos mae'n dod yn beth normal; ti ddim ofn dweud y peth anghywir a ti'n teimlo'n fwy agored i ofyn cwestiynau,
"'Nes i bantomeim unwaith, a dwi'n cofio'r holl blant yn dod lan ata i ar y diwedd, a doedden nhw ddim yn meindio fod fy mraich yn wahanol neu mod i wedi defnyddio un law yr holl adeg.
"Dwi'n ei 'neud e ac yn dangos ei fod yn bosib."
Edrych ymhellach
Felly beth nesa' i'r cerddor a'r eiriolwr?
"Dwi'n edrych mlaen at ryddhau cerddoriaeth flwyddyn nesa'. Dwi wedi bod yn cydweithio gyda nifer o artistiaid gwahanol, gyda'r bwriad o greu dim ond stwff am bethau pwysig; mae gen i waith am dyfu lan ar stad cyngor, pethau am y system cyfiawnder troseddol...
"Yn y dyfodol, dwi eisiau sefydlu cynllun datblygu artistiaid ar gyfer cerddorion anabl, ac edrych sut allwn ni gysylltu hynny gyda cherddoriaeth mainstream.
"Achos mae cynlluniau i bobl anabl yn aml am 'fynd â chi i'r gymuned' ond pam na allai artist anabl fynd ymhellach, a mynd i'r siartiau?
"Mae 'na bobl anabl yn y siartiau, ond mae'n aml yn guddiedig. Mae gan Lewis Capaldi a Billie Ellish Syndrom Tourette, mae gan Lady Gaga Fibromyalgia, ac Elton John Epilepsi, ond dyw'r rhan fwyaf o bobl ond yn gwybod am Stevie Wonder, sy'n ddall neu ddrymiwr Def Leppard, a gollodd ei fraich mewn damwain.
"Dyna dwi eisiau canolbwyntio arno. Dwi'n barod."