Undebau i gynnal pleidlais dros streic bosib yn Tata
- Cyhoeddwyd
Bydd staff Tata Steel yn cael cyfle i bleidleisio dros streicio posib yn dilyn penderfyniad y cwmni i ailstrwythuro.
Yn dilyn cyfarfod ddydd Gwener oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r DU, mae uwch swyddogion yr undeb fwyaf gweithwyr dur, Community, wedi cael mandad i gynnal pleidlais ymhlith aelodau ar y posibilrwydd o weithredu'n ddiwydiannol.
Mae undeb arall - Unite - yn dweud eu bod yn bwriadu agor eu pleidlais nhw ar 1 Mawrth.
Mae'r cynlluniau ailstrwythuro'n golygu y bydd 2,800 o swyddi'n cael eu colli yn y DU, a bron i hanner y swyddi ym Mhort Talbot dan fygythiad wrth i ffwrneisi chwyth gael eu trydaneiddio
Dyw Tata ddim wedi ymateb i'r datblygiad diweddaraf, ond maen nhw'n mynnu mai eu cynllun nhw yw'r ffordd orau ymlaen a bod "dyfodol cyffrous iawn" i safle Port Talbot.
Ychwanegodd llefarydd fod y cwmni wedi gwneud colledion o £1.7m y dydd yn y chwarter diwethaf.
Streicio yn 'ddewis olaf'
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Community, Roy Rickhuss: "Mae gweithredu diwydiannol bob amser yn ddewis olaf ond mae penderfyniad Tata yn golygu bod rhaid i ni nawr baratoi ar gyfer y posibilrwydd hwnnw.
"Dyw datganiadau diweddar arweinwyr Tata Steel ddim yn gadael fawr o amheuaeth bod y cwmni'n benderfynol o orfodi ei gynigion dinistriol doed a ddelo, gan wneud testun sbort o'r broses ymgynghori sy'n mynd rhagddo.
"Mae yna amser o hyd i Tata newid hynny, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd rydym yn anelu at anghydfod diwydiannol sylweddol.
"Mae uwch swyddogion Community wedi cymeradwyo'n unfrydol i gynnal pleidlais ar ein haelodaeth ar gyfer gweithredu diwydiannol, ac rydym yn paratoi i'r bleidlais honno gael ei chynnal cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl.
"Dylai Tata gymryd sylw - rydym yn barod i ymladd dros ein diwydiant a'n cymunedau. Ni fyddwn yn cerdded yn dawel i'r tywyllwch."
Brwydr am ddyfodol Port Talbot
Cytunodd Alun Davies, swyddog cenedlaethol dur Community bod neb ymhlith y gweithiwr wir eisiau mynd ar streic, "ond rydym yn cael ein gwthio'n agosach at yr opsiwn hwnnw".
Dywedodd: "Mae angen i Tata wybod ein bod o ddifri' ynghylch brwydro dros ddyfodol Port Talbot a safleoedd eraill - dyfodol y byddai'r cynlluniau maen nhw'n eu cynnig yn niweidio'n ddiwrthdro.
"Cynllun Tata oedd yr opsiwn rhataf ar y bwrdd ac mae'n ddrwg i swyddi, i'r economi, i'r amgylchedd ac i ddiogelwch gwladol. Wnawn ni mo'i dderbyn.
"Wnawn ni ddim camu'n ôl a chaniatáu i'n bywoliaeth, ein cymunedau a gallu cynhyrchu dur y DU gael eu taflu ar y domen sgrap."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
- Cyhoeddwyd20 Ionawr