Undebau'n 'barod i frwydro' cynllun dur Tata
- Cyhoeddwyd
Ym Mhort Talbot mae undebau wedi bod yn cwrdd am y tro cyntaf ers i gwmni dur Tata gadarnhau cynlluniau i gau'r ffwrneisi chwyth yn y dref.
Daeth tua 50 o gynrychiolwyr undebau ynghyd mewn gwesty yn y dref ddydd Llun.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb Community, Roy Rickhuss, y byddai undebau yn "rhwygo" cynlluniau Tata i ddarnau.
Mae cyhoeddiad Tata i gau'r ffwrneisi erbyn diwedd 2024 yn golygu y bydd tua 2,800 o swyddi yn cael eu colli, gyda 2,500 o'r rheiny o fewn y 18 mis nesaf.
Un fu'n annerch y cyfarfod oedd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Wedi'r cyfarfod, dywedodd: "Y teimlad mwyaf yw herfeiddiwch. Mae yma siomedigaeth ac mae yma ddicter."
Ychwanegodd y bydd y DU yn "ddibynnol ar fewnforion" os fydd Tata yn bwrw 'mlaen gyda'u cynlluniau i orffen creu dur o'r cychwyn, ac ymrwymo i ffwrnais arc trydan fydd yn toddi metel sgrap.
Nid yw Tata wedi cyflwyno'r cynllun i'r undebau yn ffurfiol, a dyna pryd y bydd cyfnod ymgynghorol o 45 diwrnod yn dechrau.
Dywedodd y cwmni eu bod yn colli tua £1m y dydd yn y DU, ac nad oedd yn ymarferol i barhau gyda chynhyrchu ffwrneisi chwyth tan y bydd y ffwrnais arc trydan wedi cael ei adeiladu ym Mhorth Talbot.
Ychwanegodd bod pryderon iechyd yn golygu y byddai'n rhy beryglus i adeiladu'r ffwrnais newydd tra bod y gwaith presennol yn parhau, ac nad oedd cyfnod o drawsnewid yn ymarferol.
Wrth ddisgwyl i weld y cynllun ffurfiol, dywedodd Roy Rickhuss: "Fe wnawn ni ei rwygo'n ddarnau. O'r manylion yr ydym wedi gweld hyd yma, dyw'r cynllun ddim yn dal dŵr, ac yn gwneud dim synnwyr."
Ychwanegodd fod gweithredu diwydiannol yn ddewis olaf, ond na ddylai cwmni Tata fod "ag unrhyw amheuaeth am ein penderfyniad i frwydro'r cynllun, i ymladd dros ddyfodol y diwydiant dur ac am ddyfodol cynhyrchu dur yn y DU".
'Deialog agored'
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran cwmni Tata: "Rydym yn deall pa mor anodd yw'r penderfyniad yma i'n gweithwyr ac i'n cymunedau dur.
"Er mwyn dod â cholledion o £1m y dydd i ben a sicrhau dyfodol gwyrdd i greu dur ym Mhort Talbot, rydym yn buddsoddi £1.25bn mewn technoleg ffwrnais arc trydan newydd - fel y mae cynhyrchwyr dur ar draws Ewrop yn ei wneud.
"Rydym wedi bod yn rhan o drafodaethau helaeth gydag undebau a'u cynghorwyr ar y cynlluniau, ac fe fyddwn yn fuan yn mynd i mewn i'r broses ymgynghori ffurfiol.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddeialog agored ac adeiladol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2024