Pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Swyddog Tân dros dro

  • Cyhoeddwyd
Stuart MillingtonFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub y De
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Stuart Millington ei ddewis yn Brif Swyddog Tân dros dro

Mae aelodau undeb y Frigâd Dân wedi pasio cynnig o ddiffyg hyder yn y dyn sydd wedi cael y swydd o arwain y newid yn niwylliant Gwasanaeth Tân y De.

Cafodd Stuart Millington ei benodi'n Brif Swyddog Tân dros dro wedi i Lywodraeth Cymru gymryd rheolaeth uniongyrchol o'r gwasanaeth a hynny ar ôl i ddiwylliant o wahaniaethu ar sail rhyw, bwlio ac aflonyddu ddod i'r amlwg.

Roedd 'na bryderon ymhlith yr undeb fod Mr Millington ei hun yn wynebu honiadau o fwlio ac aflonyddu.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y De a Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.

Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Ionawr, fe gyhoeddodd prif swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway, ei fod yn ymddeol yn dilyn adolygiad damniol

Fe wnaeth yr honiadau o wahaniaethu ar sail rhyw ac ymddygiad difrïol tuag at staff arwain at ymchwiliad annibynnol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Fe ddaeth hynny i'r amlwg gyntaf mewn adroddiad gan ITV Cymru yn 2022 a oedd yn honni bod diffoddwyr tân wedi cadw eu swyddi er bod yna honiadau eu bod wedi aflonyddu'n rhywiol ac wedi cam-drin merched o fewn y gwasanaeth.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad "bod diwylliant o wahaniaethu ar sail rhyw a misogynistig yn bodoli mewn sawl adran yn y gwasanaeth".

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr honiadau o wahaniaethu ar sail rhyw ac ymddygiad difrïol tuag at staff arwain at ymchwiliad annibynnol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Mae'r Prif Swyddog Tân, Huw Jakeway, wedi ymddiheuro ac wedi ymddiswyddo, gan adael Mr Millington gyda'r dasg o newid y diwylliant.

Ar 16 Chwefror fe basiodd aelodau pwyllgor de Cymru o undeb y Frigâd Dân gynnig o ddiffyg hyder yn y penodiad gan ddweud fod pryderon am ymddygiad Mr Millington wedi'u hanwybyddu.

Dywedodd yr undeb fod yr aelodau'n teimlo eu bod wedi'u "siomi" gan y penodiad a bod yr hyn sydd wedi digwydd "yn lleihau ffydd y cyhoedd ac yn bychanu ymrwymiad diffoddwyr i sicrhau newid diwylliant cynaliadawy".

Maen nhw'n dymuno i benodiad Mr Millington gael ei adolygu.

Dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol yr undeb, Duncan Stewart-Ball, fod "mwyafrif llethol y bleidlais yn dangos pa mor gryf yw teimladau'r aelodau".

"Mae'r adolygiad i'r diwylliant yn dangos nad oedd y gweithwyr yn cael gwrandawiad a dyma yn union sy'n digwydd nawr," meddai.

"Mae'r diffyg atebolrwydd a thryloywder yn wirioneddol siomedig."

Wrth ymateb i'r pryderon ynglŷn â phenodiad Stuart Millington yn bennaeth dros dro, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r comisiynwyr yn gwneud gwaith pwysig a gwerthfawr i weithredu'r newidiadau sydd eu hangen yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

"Mae ganddyn nhw bwerau llawn i ailstrwythuro a diwygio rheolaeth y gwasanaeth a chyflwyno diwylliant cadarnhaol, sydd ddim yn gwahaniaethu.

"Fe fydden nhw'n parhau yn eu swyddi hyd nes bod y gwasanaeth yn amlwg yn weithle cynhwysol a chroesawgar i bawb.

"Mae Prif Swyddog Tân dros dro wedi'i benodi gan y comisiynwyr, ac fe fydd swydd barhaol yn cael ei hysbysebu a'i benodi cyn gynted ag y bo modd."