Tom Lockyer: 'Teulu'n dod gyntaf' cyn dychwelyd i chwarae
- Cyhoeddwyd
Mae pêl-droediwr Cymru Tom Lockyer yn dweud y bydd yn ystyried ei deulu gyntaf cyn unrhyw benderfyniad i ddychwelyd i chwarae yn dilyn ataliad ar y galon.
Fe ddisgynnodd amddiffynnwr Luton Town, 29, ar y cae mewn gêm Uwch Gynghrair yn erbyn Bournemouth ym mis Rhagfyr.
Roedd "yn dechnegol wedi marw" am ddau funud a 40 eiliad cyn i staff meddygol ei adfer.
Mae nawr yn annog mwy o bobl i wneud hyfforddiant CPR, gan ddweud nad pawb fydd mewn sefyllfa mor ffodus ag yr oedd ef.
'Dwi eisiau i fwy o bobl ddechrau dysgu CPR'
"Fi'n lwcus iawn achos tase fe heb ddigwydd ar gae pêl-droed, mae pob posibilrwydd fydden i ddim yma," meddai mewn cyfweliad gyda BBC Breakfast.
"Mae meddwl am hynny, fy nghariad [sy'n feichiog] yn magu plentyn ar ei phen ei hun, yn dorcalonnus.
"Dyna pam mae'r darlun mawr yn bwysig - dwi eisiau i fwy o bobl ddechrau dysgu CPR."
Dyma'r eildro i Lockyer gael problem ar ei galon, wedi iddo hefyd ddisgyn ar y cae yn rownd derfynol y gemau ail gyfle fis Mai diwethaf pan gafodd Luton ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.
Ar ôl llawdriniaeth fe ddychwelodd i chwarae, cyn ei ataliad ar y galon ar 16 Rhagfyr yn Bournemouth.
Bydd "yn ddiolchgar am byth", meddai, i'r staff meddygol a'i achubodd ar y diwrnod hwnnw.
"Heb y bobl yna oedd yn wych dan bwysau, fydden i ddim yma heddiw ac yn ddigon lwcus i fod yn paratoi i groesawu merch fach i'r byd," meddai.
Mae doctoriaid nawr wedi gosod teclyn ICD (implantable cardioverter-defibrillator) yn ei frest, sydd i fod i ailddechrau'r galon yn syth os oes digwyddiad tebyg yn y dyfodol.
Ond mae Lockyer, sydd wedi ennill 16 cap dros Gymru ac oedd yn rhan o'r garfan yn Euro 2021 a Chwpan y Byd 2022, yn dweud ei bod hi'n "rhy gynnar" i wybod a fydd yn chwarae eto.
"Ar un llaw fi mor ddiolchgar, os oes rhaid i fi ymddeol, mod i wedi bod yn ddigon lwcus i chwarae yn yr Uwch Gynghrair, sgorio yn yr Uwch Gynghrair, cynrychioli fy ngwlad, yr holl bethau gwych yna," meddai'r gŵr o Gaerdydd.
"Ac ar y llaw arall fi'n teimlo bydden i wrth fy modd gyda thipyn bach mwy.
"Fydden i ddim yn mynd yn erbyn unrhyw gyngor meddygol... ac mae pethau mwy ar y gorwel nawr gyda'r babi.
"Byddai'n rhaid i fi siarad gyda'r teulu cyn ystyried dod yn ôl - fi'n canolbwyntio ar y babi nawr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2023