Ymgyrchydd a sylfaenydd Siop y Pethe, Gwilym Tudur wedi marw
- Cyhoeddwyd
Yn 83 oed bu farw'r ymgyrchydd, dyn busnes ac awdur, Gwilym Tudur.
Roedd yn un o'r rhai a fuodd yn y brotest enwog dros hawliau i'r Gymraeg ar Bont Trefechan yn Aberystwyth yn 1963, ac yn un o arweinwyr cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yn ddiweddarach sefydlodd Siop y Pethe yn Aberystwyth - y siop Gymraeg fodern gyntaf.
Roedd hefyd yn awdur a oedd wedi cofnodi ei atgofion o ddyddiau cynnar Cymdeithas yr Iaith yn 1989.
Yn 2022, wrth i S4C droi'n 40 oed, fe fuodd Gwilym, ynghyd a'i wraig Megan, yn cofio'r blynyddoedd o ymgyrchu caled am sianel Gymraeg mewn cyfweliad â'r BBC.
Cynnig gan Gwilym yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth yn 1967 a sbardunodd yr ymgyrch gyntaf am rywbeth tebyg i S4C.
Roedd yn un o ffigyrau amlycaf dyddiau cynnar y gymdeithas, ac roedd yn un o'r wyth o senedd y mudiad a gafodd eu harestio ym mis Chwefror 1971.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa sawl tro yn sgil ei waith ymgyrchu, ac roedd yn un o enwau amlycaf yr ymgyrch arwyddion ffyrdd.
Wedi magwraeth ar fferm yn Chwilog yng Ngwynedd, aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, sefydlodd Gwasg y Glêr - gan fynd ati i gyhoeddi dramâu Wil Sam a'r addasiadau cyntaf erioed o waith Tennesse Williams yn y Gymraeg.
Ym 1967 fe agorodd Siop y Pethe yn y dref - y siop gyntaf i werthu llyfrau, recordiau a phosteri poblogaidd Cymraeg.
Siop y Pethe hefyd oedd lleoliad swyddfa gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar ddechrau'r 1970au.
Bu'n rhedeg y siop am bron i hanner canrif gyda'i wraig Megan ac wrth drosglwyddo'r siop i'r perchnogion newydd, dywedodd ei fod yn "falch fy mod wedi bod yn rhan o fywyd diwylliannol Ceredigion dros y blynyddoedd".
Wrth roi teyrnged ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd cyn-wleidydd Plaid Cymru, Cynog Dafis fod rôl Gwilym Tudur mewn sawl maes wedi bod yn "allweddol".
"Roedd Gwilym yn arwr tawel... roedd e'n gefn i fi yn bersonol, fel craig yn gweithio yn y cefndir o'r golwg.
"Do'dd Gwilym ddim yn chwilio am gyhoeddusrwydd, ond roedd e'n ddyn cryf, yn ddyn gwydn, yn ddyn dewr - yn gweld beth oedd angen ei wneud ac yn ei wneud e."
Soniodd hefyd am rôl Gwilym Tudur wrth ymgyrchu dros addysg gynradd Gymraeg yng Ngheredigion.
"Aeth yn dipyn o argyfwng... ac roedd y Gymraeg yn gwegian yn ein hysgolion cynradd ni. Fe sefydlodd undeb Cymru Fydd - mudiad traws-fudiadol i gefnogi'r iaith Gymraeg - weithgor bach i edrych ar y mater.
"Fe gynhyrchon ni adroddiad yn argymell nifer o gamau radical ynghylch cryfhau'r Gymraeg, ac fe lwyddon ni i gael y cyngor sir i dderbyn yr argymhellion a dwi'n credu bod hynny wedi newid cyfeiriad yr iaith yn addysg gynradd Ceredigion."
'Yn byrlymu o hiwmor a doniolwch'
Ychwanegodd bod ei ddylanwad y tu hwnt i ymgyrchu yn bwysig iawn hefyd: "Chi'n meddwl amdano fe yn cymryd y cam mentrus 'na i brynu'r adeilad a sefydlu Siop y Pethe.
"Meddyliwch am ddylanwad Siop y Pethe yn Aberystwyth ond hefyd ar siopau llyfrau Cymraeg drwy Gymru.
"Mae'n bwysig i ddweud hefyd, dwi ddim yn meddwl fydde fe wedi gallu 'neud y gwaith oni bai bod gyda fe wraig hynod alluog ac ymroddedig, sef Megan. Roedd y ddau gyda'i gilydd wedi gwneud rhywbeth pwysig iawn.
"Ro'dd e'n ffraeth iawn, yn byrlymu o hiwmor a doniolwch... Ro'dd e'n ddyn llyfre... ac mae ystod ei weithgarwch yn rhywbeth i'w fawrogi a'i gofio gyda balchder."
Dywedodd Ffred Ffransis mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fod Gwilym Tudur yn "ddylanwad mawr" arno.
"Nid yn un unig fod Gwilym a Megan wedi bod yno o'r cychwyn wrth i Gymru fynnu dyfodol i'r iaith a chreu'r cyffro gyda Chymdeithas yr Iaith, ond gwnaeth Gwilym hefyd sicrhau fod modd trosglwyddo'r brwdfrydedd a'r arweiniad call i'r criw nesaf," meddai.
"Bu Gwilym yn ddylanwad mawr arnaf, yn gymeriad riw saith mlynedd yn hyn na'n criw ni yng Ngholeg Aberystwyth ac wedi ymsefydlu yn Siop y Pethe i fyw'r bywyd Cymraeg - ei holl fywyd yn brotest dros Gymru.
"Nid yn unig iddo fy ysbrydoli i a'm cyfoedion o fyfyrwyr ond rhoddodd gyngor ymarferol a threfnu llawer ar ein cyfer."
Tu hwnt i 'Wyt Ti'n Cofio?', roedd Gwilym Tudur wedi ysgrifennu sawl llyfr ac wedi sgriptio cyfresi teledu hefyd.
Bu'n addasu nifer o lyfrau plant yn yr 80au gan gynnwys Sion Corn a Mae Llygoden Hŷ yn y Tŷ, yn ogystal â chyhoeddi cyfrol o ysgrifau, 'Byclings!' yn 1981, a'r astudiaeth o iaith lafar bro Eifionydd - 'Amen, Dyn Pren' - yn 2004.
Fe hefyd ysgrifennodd y gyfres deledu i bobl ifanc Marinogion.
Roedd yn byw yng Nghaernarfon ers 2019, ar ôl byw am bron i hanner canrif yn Lledrod, ger Tregaron.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2013