Cofio Colin Webster: Seren Cymru a Man Utd

  • Cyhoeddwyd
Colin WebsterFfynhonnell y llun, Alamy

Trychineb Munich, 6 Chwefror 1958 - y diwrnod tywyllaf yn hanes clwb pêl droed Manchester United.

Roedd y tîm wedi bod yn chwarae gêm yn erbyn Red Star Belgrade yng nghystadleuaeth Ewrop ac ar eu ffordd adref pan stopiodd eu hawyren ym Munich yn yr Almaen i gael tanwydd.

Roedd yr amodau yn ddifrifol - mi fethodd yr awyren a chodi ddwywaith, ac ar y trydydd cynnig mi blymiodd gan ladd 23, gan gynnwys wyth o chwaraewyr a thri swyddog, ac fe anafwyd llawer mwy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe lladdwyd 23 o bobl yn y drychineb a elwir y 'Munich Air Disaster'

Mae 'na gysylltiad cryf gyda Chymru, gan mai is-reolwr Manchester United ar y pryd oedd Jimmy Murphy. Doedd o ddim ar yr awyren gan ei fod hefyd yn reolwr ar Gymru, ac yn dathlu arwain y garfan i rowndiau terfynol Cwpan Y Byd 1958 am y tro cyntaf yn eu hanes wedi buddugoliaeth yn erbyn Israel. Wnaeth y dathliadau ddim para'n hir wrth iddo ddychwelyd i Old Trafford a chlywed am yr hyn oedd wedi digwydd.

Cymro arall nad oedd ar yr awyren oedd Colin Webster. Mi oedd o wedi denu sylw Murphy tra'n chwarae i Gaerdydd, ac mi arwyddodd i Manchester United yn 1952. Oherwydd salwch wnaeth o ddim teithio i Munich ac felly mi arhosodd yr ymosodwr ym Manceinion.

Mi oedd o'n rhan o garfan Cymru chwaraeodd yng Nghwpan y Byd gan chwarae tair gêm yn y gystadleuaeth. Wedi ei gyfnod gyda Manchester United mi ymunodd ag Abertawe, ac roedd yn brif sgoriwr i'r Elyrch yn nhymor 1959-60 a 1960-61.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Manchester United cyn ffeinal Cwpan yr FA yn 1958. Colin Webster ydy'r ail o'r dde yn y rhes flaen (wrth ymyl Bobby Charlton)

Bu farw Webster yn 68 oed yn 2001, ond yn ddiweddar fe gyflwynwyd medal i'w deulu gan Manchester United am iddo fod yn rhan o'r garfan enillodd Adran 1 yn nhymor 1957-58. Ar y pryd yn ôl rheolau'r Gynghrair doedd Webster heb chwarae y nifer angenrheidol o gemau oedd yn gwarantu medal, ond mi wnaeth y clwb ymgyrchu i wneud yn siwr bod eu cyn-chwaraewyr yn cael eu cydnabod am yr hyn y gwnaethon nhw ei gyflawni.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y chwaraewr Mickey Thomas wnaeth gyflwyno'r fedal i deulu Webster

Cyn asgellwr Manchester United a Chymru, Mickey Thomas gyflwynodd y fedal i deulu Webster, ac yn ôl Thomas roedd o'n falch o gael bod yn rhan o'r digwyddiad.

"Roedd y teulu mor falch o dderbyn y fedal," meddai Thomas.

"Mae'r clwb wedi gweithio'n galed i wneud yn siwr bod hyn yn digwydd, ac mi oedd y teulu yn gwerthfawrogi'r holl ymdrech."

Fe gafodd 21 o fedalau eu cyflwyno i 18 o gyn chwaraewyr y clwb.

Hefyd o ddiddordeb: