Pwy oedd Jemima Nicholas?
- Cyhoeddwyd
Ddydd Sadwrn 24 Chwefror, mae plac porffor yn cael ei ddadorchuddio yn Abergwaun i gofio am yr arwres Jemima Nicholas - anrhydedd sydd yn cael ei rhoi i rai o ferched mwyaf nodedig Cymru.
Ond pwy oedd hi? A pham ei bod hi'n cael ei hadnabod fel arwres Gymreig, a helpodd i amddiffyn ynysoedd Prydain rhag y gelyn?
Wedi ei geni tua 1750, does yna ddim llawer o wybodaeth amdani, heblaw am y ffaith ei bod hi'n gweithio fel crydd, a bod sôn ei bod dros chwe troedfedd o daldra. Hawliodd ei lle yn hanes Cymru, fodd bynnag, yn dilyn digwyddiadau a ddechreuodd ar 22 Chwefror 1797...
Dyma oedd dyddiad yr ymosodiad diwethaf ar dir Prydeinig gan lu tramor, a hynny gan Weriniaeth Ffrainc. Liw nos, glaniodd byddin o 1,400 o filwyr o dan arweinyddiaeth Cyrnol William Tate yng Ngharreg Wastad, ger Abergwaun.
Wedi iddo gael y rhybudd fod ymosodiad ar droed, bu'n rhaid i'r Is-gyrnol Thomas Knox geisio ymgynnull milwyr lleol er mwyn paratoi i ymladd y gelyn, ond doedd ganddyn nhw ddim digon o filwyr wrth law i wynebu'r llu enfawr o Ffrainc, a bu'n rhaid aros am gefnogaeth.
Jemima Fawr
Yn ôl y stori, cymerodd Jemima Nicholas arni ei hun i gipio deuddeg o filwyr y gelyn, eu hebrwng i dref Abergwaun, a'u cadw dan glo yn Eglwys Santes Fair - a hynny ar ei phen ei hun, gyda fforch wair fel ei hunig arf.
Mae'n debyg hefyd mai hi wnaeth ddwyn perswâd ar ferched eraill yr ardal i wisgo eu clogynnau coch a'u hetiau tal du a gorymdeithio ar fryn y Bigni. O bell, edrychai rhain fel llu o filwyr, a oedd yn ddigon i ddychryn y Ffrancwyr.
Erbyn prynhawn 24 Chwefror, roedd yr ymosodwyr wedi ildio yn ddi-amod, ac wedi dianc oddi yno.
Roedd llawer o elfennau strategol tu ôl i'r penderfyniad i ildio; mae'n siŵr nad oedd y ffaith fod nifer o'r milwyr o'r fyddin Ffrengig wedi dechrau meddwi ac ysbeilio ffermdai lleol cyn gynted ag y glaniodd y cychod wedi helpu'r sefyllfa. Ond roedd ymdrech Jemima a merched yr ardal i dwyllo'r gelyn wedi cael effaith fawr ar gwrs yr hanes.
Derbyniodd Jemima Nicholas bensiwn am oes am ei chyfraniad, a bu farw yn Abergwaun ym mis Gorffennaf 1832, yn 82 oed a'i chladdu ym mynwent yr un eglwys ag y clôdd y milwyr Ffrengig ynddi.
Dirgelwch dwy het Jemima
Yn 2019, cafodd het Jemima Nicholas ei gwerthu mewn arwerthiant am £5,000, wedi iddi gael ei rhoi gan ŵr lleol, Hywel Davies. Gan fod Jemima heb gael plant, roedd yr het wedi ei phasio drwy ei theulu estynedig, ac wedi cyrraedd teulu Hywel gan fod ei fam yn ffrindiau gyda pherthynas i Jemima.
"Roedd yn adnabyddus fel het Jemima, roedd pawb yn gwybod amdano fel ei het hi," meddai Hywel Davies, bryd hynny. "Alla i eich sicrhau chi ei fod yn un go iawn."
Fodd bynnag, yn dilyn y newyddion am yr arwerthiant, honnodd pennaeth Ysgol Iau Abergwaun mai yn eu meddiant nhw oedd het Jemima Nicholas mewn gwirionedd; eitem oedd yn cael ei phasio ymlaen i bob pennaeth newydd, gyda'r cyfarwyddyd i'w thrysori.
Pa un yw het wreiddiol Jemima Nicholas? Ydi hi dal yn bodoli hyd yn oed? Does yna neb yn gwybod i sicrwydd. Ond mae ei chwedloniaeth yn parhau, ynghyd â'r gwerthfawrogiad tuag ati.
I nodi dauganmlwyddiant yr ymosodiad aflwyddiannus cafodd tapestri enfawr, 100 troedfedd o hyd, ei greu gan 80 o ferched yr ardal, sydd yn adrodd yr hanes, ac yn portreadu rhan Jemima yn y cyrch.
Ac ynghyd â'r gofeb iddi a gafodd ei gosod i nodi can mlynedd ers y cyrch, bydd y plac porffor newydd yn helpu pawb i gofio gorchest yr arwres Gymreig o Abergwaun.
Hefyd o ddiddordeb: