Sut i gynnal y parti gwylio Cân i Gymru perffaith

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gruffydd Siôn YwainFfynhonnell y llun, Gruffydd Siôn Ywain
Disgrifiad o’r llun,

Criw côr Llundain yn un o'r partion Cân i Gymru

Mae hi'r amser yna o'r flwyddyn... Cân i Gymru: noson sydd yn dod â phawb ynghyd yn eu cariad tuag at gerddoriaeth Gymraeg, a sydd byth yn achosi ffraeo ar-lein o gwbl... nac ydi wir.

Mae Gruffydd Siôn Ywain yn siwpyr-ffan o'r gystadleuaeth, ac yn cynnal parti gwylio bob blwyddyn. Eleni, fodd bynnag, mae wedi derbyn tocyn aur ac am fod yn Arena Abertawe er mwyn gwylio'r gystadleuaeth a chael profi'r wefr a'r chwys a'r dagrau yn fyw...

Ond yma mae o'n rhannu ambell i tip ynglŷn â sut y gallwch chi gynnal y parti Cân i Gymru perffaith.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Siôn Ywain
Disgrifiad o’r llun,

Y criw smart ar eu traed yn gwylio un o berfformiadau'r noson

Dim siarad yn ystod y caneuon

Sori, 'da chi yma i fwynhau a dal i fyny hefo ffrindiau? Take it outside. Mae 'na fusnes difrifol yn mynd ymlaen yn y stafell fyw ac mae angen tawelwch yn y gynulleidfa os gwelwch yn dda.

Diodydd

Mae pawb yn licio coctêls ar thema penodol. Dwi fawr o mixologist ond mae gen i gwpwrdd eang o weddillion poteli alcohol. Y tric ydi sylwi os ydi'r diod wedi ceulo cyn gorfodi neb i'w yfed...

Ryseits coctels Cân i Gymru:

  • Harbwr Diogel - gweddillion y cwpwrdd alcohol + lliw bwyd glas

  • Bach o Hwne - gweddillion y cwpwrdd alcohol + lliw bwyd gwyrdd

  • Rasta Gwyn - gweddillion y cwpwrdd alcohol + llaeth (dim ond y dewraf...)

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Siôn Ywain
Disgrifiad o’r llun,

Coctel Cân i Gymru arbennig - Cerrig yr Afon (allwch chi weld lle dwi 'di cuddio'r galon?)

Gwisg

Ar gyfer Eurovision 'da ni'n hoff o wisgo gwisg i gynrychioli gwlad sy'n cystadlu. Dydw i heb gael llawer o lwyddiant perswadio pobl i wisgo fel Mynydd Parys neu Bont Britannia eto ond mae gwisgo fel Arfon Wyn, er enghraifft, yn lot llai o ymdrech.

Teimlo'n fwy creadigol? Pam ddim dehongli un o ganeuon y gystadleuaeth? Ges i dri 'Cae o Ŷd' acw un blwyddyn. Awkward.

Y mantra bersonol ydi 'more is more'.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Siôn Ywain
Disgrifiad o’r llun,

Mewn gwisg ffansi Cae o Ŷd

Bwyd

Mae cost popeth (heblaw gwobr ariannol Cân i Gymru) wedi codi dros y blynyddoedd dwytha, a phwy sydd wir isio cael ail-forgais er mwyn bwydo criw o ffrindau pan alla'i ofyn iddyn nhw ddod â rhywbeth eu hunain?! Ar noson dda fydd gen i ddigon o fwyd dros ben i bara wythnos. Quids in!

Ond beth i'w weini yn ddelfrydol? Wel, yn ysbryd yr ŵyl - caws wrth gwrs!

Cadw sgôr

Fel un sy'n cymryd y peth yn llawer rhy ddifriol mae cadw sgôr yn hollbwysig. Marciau am y cyfansoddi, y perfformiad a'r vibe. Cân wael ond siaced gliter arbennig? Could still be in with a shot yn tŷ ni...

Dwi ddim yn un am y gemau yfed bingo Cân i Gymru achos erbyn fyddwn ni 'di cyrraedd yr ail VT a'r chweched stiwdio recordio ardd gefn byddwn i'n gocyls.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Siôn Ywain
Disgrifiad o’r llun,

Fi hefo tlws Cân i Gymru - neu'r nesa' peth ffeindies i mewn siop...?

'After-party'

Fel pob parti gwerth ei halen mae angen parti arall yn syth ar ei ôl. Yn yr achos hyn 'da ni wastad yn dilyn y sioe ei hun gyda dangosiad o'r clasur oesol Dim Byd fel Cân i Gymru. Margaret Williams yn canu Dy Fam? Stick it in my veins.

Gwyliwch Cân i Gymru am 20:00 nos Wener 1 Mawrth ar S4C neu ar BBC iPlayer

Hefyd o ddiddordeb: