Eisteddfod Pontypridd: 'Talcen caled' argyhoeddi pobl leol medd AS

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Parc Ynysangharad
Disgrifiad o’r llun,

Fe brynwyd y tir mae Parc Ynysangharad bellach yn sefyll arno gan bobl Pontypridd yn 1919

Mae'n "dalcen caled" i argyhoeddi pobl o bwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol a'r gwaddol a fydd ar ei hôl, meddai Aelod o'r Senedd.

Dywedodd Heledd Fychan, AS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, hefyd bod "nifer o bethau negyddol yn cael eu dweud am yr Eisteddfod" oherwydd y bydd angen cau Parc Ynysangharad am wythnosau, cartref Eisteddfod Genedlaethol 2024 ym Mhontypridd.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn yr ardal ers 1956, ac yn Aberdâr oedd hi bryd hynny.

Yn ôl y trefnwyr, y bwriad yw defnyddio Parc Ynysangharad a rhannau o dref Pontypridd gan greu "Eisteddfod drefol, amgen a chyffrous, sy'n cyfuno'r ardal leol gyda'r ŵyl ei hun".

Mae'r "gefnogaeth yn lleol wedi bod yn arbennig iawn" meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont yma'n cysylltu Parc Ynysangharad gyda chanol y dref

Dywedodd Heledd Fychan yn y Senedd bod "cynnwrf aruthrol yn yr ardal bod yr Eisteddfod yn dod".

Ond, meddai, "does yna ddim Eisteddfod Genedlaethol wedi bod am ddegawdau yn yr ardal, a nifer erioed wedi profi beth ydy Eisteddfod, felly mae hi'n dalcen caled o ran ceisio argyhoeddi pobl o bwysigrwydd Eisteddfod a'r gwaddol amlwg hwnnw 'dŷn ni'n gyfarwydd efo fo mewn ardaloedd eraill".

Ychwanegodd mai "un o'r prif bryderon ydy ei bod hi'n digwydd ym mharc Ynysangharad".

"Mae yna nifer o bethau negyddol yn cael eu dweud am yr Eisteddfod ar y funud oherwydd bod y parc am fod ar gau am, bosib, nifer o wythnosau oherwydd yr Eisteddfod yn dod."

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae cynnwrf aruthrol yn yr ardal" meddai Heledd Fychan

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles bod "brwdfrydedd lleol yn uchel iawn am yr ŵyl".

Dywedodd: "Ry' ni'n gwybod am y gwaith sy'n digwydd i sicrhau bod cymunedau lleol yn deall beth yw'r cynnig sydd ar gael gyda'r Eisteddfod, felly mae taith Maes B yn cael ei chynnal yn yr ysgolion dros y misoedd nesaf.

"Bydd pob disgybl blwyddyn 6 a 7 ym mhob ysgol yn cael y cyfle i fwynhau sioe am yr Eisteddfod yn rhad ac am ddim, a chynnal gweithdai merched yn gwneud miwsig i annog merched 16 i 25 i ymddiddori mwy mewn cerddoriaeth Gymraeg.

"Mae gwobrau busnes lleol, mae gwaith yn digwydd gyda Interlink er mwyn cynyddu gwirfoddoli."

Felly, meddai Mr Miles, "mewn amryw o ffyrdd, mae'r Eisteddfod eisoes yn cael dylanwad ac yn ymestyn i'r cymunedau cyfagos yn barod, ac mae hynny'n beth positif iawn, ac wrth wneud hynny, yn y pen draw, ry' ni'n sicrhau'r gwaddol hollbwysig hwnnw".

Mynediad am ddim?

Gofynnodd Heledd Fychan hefyd a oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau "i sicrhau mynediad am ddim i drigolion lleol neu cael prisiau rhatach... er mwyn sicrhau bod y gwaddol hwnnw mewn ardal sy'n allweddol o ran twf y Gymraeg yn cael ei wireddu".

Disgrifiad o’r llun,

"Mae cyllideb Llywodraeth Cymru o dan bwysau sylweddol iawn" meddai Jeremy Miles

Atebodd Mr Miles: "O ran Eisteddfod fforddiadwy, Eisteddfod am ddim, dwi'n credu y gwnaeth yr Aelod sôn, fel y mae hi'n gwybod, mae cyllideb Llywodraeth Cymru o dan bwysau sylweddol iawn.

"Dwi wedi siarad yn barod gyda phrif weithredwr yr Eisteddfod am sefyllfa'r Eisteddfod ym Mhontypridd, ac mae swyddogion wedi gofyn i'r Eisteddfod a'i phartneriaid am opsiynau posib i ni ystyried.

"Alla i ddim ymrwymo i unrhyw beth ar hyn o bryd, ond mae'r trafodaethau hynny yn digwydd yn barod."

'Arbennig iawn'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Rydyn ni'n ymwybodol fod y Parc yn ardal bwysig i drigolion lleol, ac felly byddwn yn adeiladu'r Maes drwy ddefnyddio parthau sy'n golygu bydd rhannau o'r Parc ar agor tan ddyddiau yn unig cyn agor yr Eisteddfod.

"Byddwn yn dilyn yr un drefn wrth ddatgymalu'r Maes ar ddiwedd yr ŵyl, er mwyn sicrhau bod y rhannau mwyaf poblogaidd o'r Parc yn ail-agor cyn gynted â phosibl."

Ychwanegodd bod y "gefnogaeth yn lleol wedi bod yn arbennig iawn".

"Rydyn ni'n parhau i gydweithio ar lawr gwlad gyda nifer o bartneriaid, ac wastad yn barod i drafod unrhyw bryderon - neu syniadau - sydd gan unrhyw un am y prosiect."