Eisteddfod: Paratoi perfformiad 'cyfoes' opera roc Nia Ben Aur

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Yn ôl un o arweinwyr y côr, Osian Rowlands, mae'r "caneuon mor eiconig heddiw ag erioed"

Bydd fersiwn newydd sbon o'r opera roc Nia Ben Aur i'w gweld ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ym mis Awst.

Bydd hynny'n nodi union 50 mlynedd ers y perfformiad cyntaf yn Eisteddfod Caerfyrddin, 1974.

Nia Ben Aur oedd yr opera roc gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg.

Yn ôl un o arweinwyr y Côr yr Eisteddfod, Osian Rowlands, mae'n "bwysig iawn i ni yn lleol bod pobl leol yn cael y cyfleoedd yma gyda'r Eisteddfod yn dod i'r sir am y tro cynta' ers blynyddoedd maith, maith".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd opera roc gynta'r Gymraeg, Nia Ben Aur, ei pherfformio gyntaf yn Eisteddfod Caerfyrddin yn y 70au

Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Osian Rowlands: "O'dd lot o syniadau wedi cael eu taflu mewn i'r pot o ran cyngherddau a wedyn pan dda'th e i sylw fod Nia Ben Aur â chysylltiadau lleol.

"Ma' cysylltiad rhywun fel Cleif Harpwood wrth gwrs o'dd yn ganolog i'r sioe wreiddiol a cysylltiadau fe fel cyn ddisgybl Ysgol Gyfun Rhydfelen... mi o'dd teimlad cryf wedyn gyda'r pwyllgorau lleol bod hwn yn rhywbeth arbennig o'dd yn apelio at lot o bobl.

"Ma'n bwysig wrth gwrs oherwydd fe symudodd pethe mlaen o ran sioeau cerdd Cymraeg yn sgîl Nia Ben Aur a mae'r caneuon mor eiconig heddiw ag erioed."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd 300 o bobl yn yr ymarfer cyntaf ar gyfer sioe Nia Ben Aur Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Mae Osian yn rhan o dîm o bobl sy'n gyfrifol am y sioe newydd.

"Ma' Sam a Patrick o'r band Calan, VRï a NoGood Boyo wrthi'n creu trefniannau newydd, mwy cyfoes, gyda'u dylanwadau gwerin boed yn Gymreig, yn Wyddelig neu'n Llydaweg.

"Ma' Sam yn hoffi'r elfen mwy electro er mwyn dod â'r caneuon yn fwy cyfoes... ma' nhw wedyn yn cydweithio gyda Richard Vaughan, sydd yn creu trefniannau corawl o'r gwaith ma' Sam a Patrick yn wneud.

"O ran y cast wedyn, bydd yr Eisteddfod yn rhoi galwad allan yn fuan i gastio'r prif gymeriadau ond y gobaith yw ma' Angharad Lee yn cynhyrchu a chyfarwyddo, a wedyn ni'n gobeithio bydd aelodau'r côr yn gallu bod yn gymeriadau ychwanegol yn rhan o'r stori."

'Pwysig bod pobl leol yn cael cyfleoedd'

Mae'r trefnwyr yn chwilio am gast proffesiynol a phobl o'r ardal i fod yn rhan o'r perfformiad.

"Ni'n gobeithio bydd e'n gyfuniad o'r ddau", yn ôl Osian.

"Bydd y prif gymeriadau yn bobl proffesiynol ond bydden ni wrth ein bodd bod artistiaid yn lleol yn ceisio am y rhannau yma.

"Mae'n bwysig iawn i ni yn lleol bod pobl leol yn cael y cyfleoedd yma gyda'r Eisteddfod yn dod i'r sir am y tro cynta' ers blynyddoedd maith, maith.

"Mi gafodd y côr ein cyfarfod cynta' ddydd Sul ac mi'r oedd yr ystafell yn orlawn... dros 300 o bobl yn mynychu... o'dd gweld 30 tenor yn yr ystafell yn codi calon ac yn beth positif iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd opera roc Nia Ben Aur yn cael ei pherfformio 50 mlynedd ers y perfformiad cyntaf

A dydy hi ddim yn rhy hwyr i bobl ymuno gyda'r côr, ychwanegodd.

"Ma' digon o gyfle i bobl ymaelodi os ewch chi i wefan yr Eisteddfod neu dilynwch Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.

"Mae angen cofrestru a mae ymarferion bob rhyw bedair wythnos."

Cyffro yn yr ardal

"Ma lot o godi arian a lot o bwyllgorau ond o'dd gweld cymaint o bobl yn y côr ddydd Sul yn agoriad llygad... o'dd siaradwyr Cymraeg rhugl sydd yn cefnogi popeth sy'n digwydd yn y sir.

"Ond o'dd lot o bobl newydd - lot o ddysgwyr, lot o bobl di-Gymraeg ac aelodau o gorau bydde pobl ddim yn gwybod amdanyn nhw heblaw bo chi'n byw yn lleol ond ishe bod yn rhan o'r Eisteddfod ac ishe bod yn rhan a chefnogi'r Eisteddfod."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eisteddfod Genedlaethol 2024 yn cael ei chynnal Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd

Fel Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, mae Osian hefyd yn gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn rhoi hwb i'r Gymraeg yn y sir.

"Y gobaith yw y bydd y bwrlwm yn parhau ac y bydd y gynulleidfa newydd sy'n cael eu denu mewn i'r Eisteddfod, sydd yn gynulleidfa newydd i ni fel Menter Iaith, bo' ni'n parhau i gadw cysylltiad gyda nhw a gyda'r gweithgareddau.

"Gobeithio bydd yn agor llygad pawb bod y Gymraeg - fel o'dd y Cyfrifiad yn dangos - ddim yn iaith ysgol yn unig a bod e'n gallu creu bwrlwm a chyfleoedd i bawb ar draws y sir."