Ymchwiliad Covid: 'Negeseuon WhatsApp Gething yn cael eu dileu'
- Cyhoeddwyd
Roedd negeseuon WhatsApp yn cael eu dileu'n awtomatig oddi ar ffôn Vaughan Gething yn ystod y pandemig, yn ôl tystiolaeth gafodd ei chlywed gan Ymchwiliad Cyhoeddus Covid y Deyrnas Unedig.
Mae'r ymchwiliad wedi dechrau ar dair wythnos o gasglu tystiolaeth yng Nghaerdydd ar yr hyn ddigwyddodd yng Nghymru.
Mr Gething oedd y gweinidog iechyd pan darodd Covid ac mae e nawr yn y ras i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.
Dywedodd bargyfreithiwr Llywodraeth Cymru nad oedd gweinidogion yn defnyddio WhatsApp fel sail i "wneud penderfyniadau".
Fe glywodd yr ymchwiliad gan Nia Gowman ar ran grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice sef mudiad sy'n cynrychioli pobl a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig.
Dywedodd wrth yr ymchwiliad bod Mr Gething yn defnyddio cyfleuster ar WhatsApp yn ystod y pandemig o'r enw "negeseuon yn diflannu", ble mae negeseuon yn cael eu dileu'n awtomatig yn dilyn amser penodol.
Dywedodd bod yna dystiolaeth hefyd bod cynghorwyr arbennig Llywodraeth Cymru yn dileu cyfathrebiadau mewn modd "amheus a systematig", a bod gweinidogion yn cael eu hatgoffa i ddileu negeseuon WhatsApp "unwaith yr wythnos".
Ychwanegodd fod yna dystiolaeth sy'n dangos bod Jane Runeckles, sef prif gynghorydd arbennig Prif Weinidog Cymru, a Vaughan Gething wedi troi ymlaen y cyfleuster "negeseuon yn diflannu".
Ac er iddo yntau ddweud wrth y Senedd nad oedd e'n defnyddio WhatsApp, mae yna dystiolaeth bod Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gyson yn defnyddio WhatsApp i drafod cyhoeddiadau polisi, meddai Ms Gowman.
Mae Vaughan Gething, sydd bellach yn weinidog yr economi, yn wynebu'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn y ras i olynu Mr Drakeford fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru.
Yn ystod hystings BBC Cymru yr wythnos diwethaf, dywedodd Mr Gething wrth gyfeirio at y negeseuon WhatsApp yng nghyd-destun yr ymchwiliad fod "popeth sydd gen i wedi ei roi i'r ymchwiliad".
Fe glywodd yr ymchwiliad hefyd ddydd Mercher gan Andrew Kinnier KC ar ran Llywodraeth Cymru.
Fe ddywedodd e nad oedd gweinidogion na swyddogion "yn defnyddio WhatsApp nac unrhyw ffordd arall o gyfathrebu'n anffurfiol" fel sail i'r broses "o wneud penderfyniadau".
'A oedd Cymru'n barod?'
Yn gynharach yn y dydd fe amlinellodd y Cwnsler i'r Ymchwiliad Tom Poole KC restr hir o gwestiynau y bydd angen i'r ymchwiliad eu hystyried wrth graffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru'n ystod y pandemig.
Mae'r rhain yn cynnwys pa mor barod oedd Cymru ar gyfer y pandemig, a pha mor o ddifri y gwnaeth gweinidogion gymryd bygythiad Covid ar ddechrau 2020.
Fe glywodd yr ymchwiliad nad oedd cabinet Llywodraeth Cymru wedi trafod Covid tan 25 Chwefror 2020, bron i fis cyfan ar ôl i gabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig drafod y feirws.
Dywedodd y Cwnsler i'r Ymchwiliad Tom Poole KC bod Llywodraeth Cymru wedi rhannu cannoedd o negeseuon gyda'r ymchwiliad, ond bod yna dystiolaeth o enghreifftiau ble cafodd negesuon eu dileu hefyd.
Dyw hi ddim yn glir pwy a gafodd wared ohonyn nhw - ac ai gweinidogion neu swyddogion a wnaeth.
Mae cannoedd o negeseuon wedi'u rhannu o "sawl grŵp anfon negeseuon", meddai Mr Poole, er dyw hi ddim yn ymddangos bod y negeseuon na negeseuon testun yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau swyddogol.
"Ond mae'r negeseuon yn taflu goleuni ac yn rhoi cyd-destun perthnasol i rai o'r penderfyniadau allweddol y bydd yr ymchwiliad yn eu hystyried," ychwanegodd Mr Poole.
"Mae yna adegau pan mae'r ymchwiliad wedi derbyn tystiolaeth bod negeseuon answyddogol wedi'u dileu. Bydd yr ymchwiliad am gael gwybod pam nad ydy'r negeseuon hynny bellach ar gael i'w harchwilio."
Bydd rhai o weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Vaughan Gething a Mark Drakeford, yn rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Fyddwn ni ddim yn gwneud sylw ar faterion yn ymwneud â'r ymchwiliad tra bod y gwrandawiadau'n digwydd.
"Bydd gweinidogion a swyddogion y llywodraeth yn rhoi tystiolaeth fanwl dros yr wythnosau i ddod.
"Rydym ni wedi ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n parhau i gydweithio'n llawn gyda'r ymchwiliad i sicrhau bod pob gweithred a phenderfyniad yn cael eu craffu'n gywir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Chwefror