Gobaith teulu parafeddyg am atebion Ymchwiliad Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Collodd Aled Davies ei frawd Gerallt yn ystod y pandemig

Yng nghegin ei gartref ym Mhontarddulais, mae Eifion Davies yn ail-edrych ar y pentyrrau o lythyron o gydymdeimlad sydd mewn bocs ar y bwrdd o'i flaen.

"Ma' un yma o Brif Weinidog Cymru", meddai, "un arall o Dŷ'r Cyffredin... a hwn gan arweinydd Cyngor Powys... ma' 'na dros 500 yma i gyd."

Nid pob teulu sy'n derbyn cymaint o lythyron ar ôl eu colled, ond nid gŵr cyffredin oedd mab Eifion - Gerallt Davies.

Mae Eifion yn tynnu sylw at lythyr penodol.

"On behalf of the Board of Trustees and the membership of the College of Paramedics, we write to express the shock and deep sadness at the tragic loss of Gerallt."

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gerallt ar 20 Ebrill 2020 yn 51 mlwydd oed - un o'r gweithwyr iechyd cyntaf yng Nghymru i golli'i fywyd i Covid

Yn barafeddyg i'r gwasanaeth ambiwlans yn ardal Abertawe am 27 o flynyddoedd, ac yn arweinydd digwyddiadau mawr dros Gymru ar ran Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan, roedd Gerallt yn cael ei barchu a'i edmygu gan lawer.

Fe gafodd MBE yn anrhydeddau'r Frenhines yn 2019 am ei wasanaeth i gymorth cyntaf yng Nghymru.

Yn 2014, mewn partneriaeth â Chomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, fe sefydlodd gynllun Man Cymorth Abertawe, sydd wedi darparu gofal i filoedd o bobl ifanc yn y ddinas yn ystod y nos.

Cynllun sydd wedi lleihau'r angen iddyn nhw gael eu cludo i'r ysbyty ac sy'n cael ei ystyried yn un o'r goreuon ar draws y DU.

Yn fwy na dim, yn ôl Eifion, roedd gofalu am eraill yn rhan o wead ei fab.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eifion Davies, tad Gerallt, bod gofalu am eraill yn golygu llawer i'w fab

"Roedd edrych ar ôl pobl yn bwysig iddo fe," meddai.

"Buodd e'n casglu arian i gael canolfan newydd Sant Ioan fan hyn yn y Bont ac wedyn ar ôl agor wnaeth e gynnal dosbarth i 100 o blant ifanc i ddysgu cymorth cyntaf."

Ond pan darodd ton gyntaf Covid ym mis Mawrth 2020, fe drodd sylw Gerallt, fel cymaint o'i gydweithwyr, at fygythiad y feirws.

Dywedodd brawd Gerallt, Aled - sydd hefyd yn barafeddyg: "Fel arfer 'oedd Gerallt yn gweithio ar ben ei hun mewn RRV [cerbyd ymateb cyflym].

"Ond [ar ddechrau'r pandemig] fe gymeron nhw bobl o'r RRVs i weithio ar ambiwlansys oherwydd bod [gofynion] PPE eisiau dau berson i 'neud hynny.

"Aethon nhw â menyw mewn i'r ysbyty oedd yn 59 mlwydd oed â Covid... fe farwodd hi wedyn.

"Roedd y person 'oedd Gerallt yn gweithio gyda nhw wedyn wedi mynd yn eitha' tost... dalodd Gerallt e wedyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Davies, brawd Gerallt, hefyd yn barafeddyg

Ymhen ychydig ddyddiau fe ddirywiodd iechyd Gerallt gymaint bu'n rhaid ei ruthro i uned frys Ysbyty Treforys ac yn fuan wedyn i ofal dwys.

Roedd nifer o'r staff oedd yn gweithio yno eisoes yn 'nabod Gerallt.

"Geson ni weld e wrth y drws wrth iddo fe fynd mewn," medd Aled.

"Fi, Daniel a Jonathan ei feibion... a'r geiriau diwethaf dwedodd e wrtha i oedd "What a kerfuffle this is!"

Wythnos yn ddiweddarach, fe gafodd Aled alwad gan y meddyg oedd yn gyfrifol am ofal Gerallt.

"Dwedodd e: 'He's dying. I've said a prayer, I'm holding his hands - would you like to say a few words?' Beth allwn i ddweud?

"O'n i'n siarad ac wedyn glywes i'r beep gan y peiriant - a dyna oedd y diwedd. Amser cinio dydd Llun."

Fe fuodd Gerallt farw ar 20 Ebrill 2020 yn 51 mlwydd oed. Fe oedd un o'r gweithwyr iechyd cyntaf yng Nghymru i golli'i fywyd oherwydd Covid.

"Ro'n i'n teimlo'n ofnadwy - wedi colli'n frawd. Ac wedyn gorfod dweud wrth mam a dad," meddai Aled.

Pan gafodd Gerallt ei gladdu roedd y gymuned leol am ddangos eu gwerthfawrogiad o'i waith a'i fywyd cymaint ag y gallen nhw, o ystyried cyfyngiadau'r cyfnod clo.

"Diwrnod ei angladd ro'dd cannoedd a channoedd o bobl mas ar ochr yr hewl o fan hyn reit lawr i'r Bont. Roedd y Frigâd Dân mas i roi teyrnged iddo fe a sawl mudiad arall," meddai Eifion.

"Ond dim ond 12 ohonon ni oedd yn cael bod yn yr amlosgfa."

Am y tair wythnos nesaf, fe fydd Ymchwiliad Covid y DU yn eistedd yng Nghymru ac yn croesholi arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion am y penderfyniadau mawr gafodd eu gwneud yma yn ystod y pandemig.

Ond pa gwestiynau fyddai teulu Gerallt am eu gofyn?

"Ma' na lot o bethe," medd Aled.

"PPE er enghraifft, pam nad oedden nhw wedi dysgu ar ôl Operation Cygnus [ymarfer ar gyfer pandemig ffliw wnaeth Llywodraeth Cymru gymryd rhan ynddo yn 2016] nagon nhw wedi paratoi am rywbeth fel hyn.

"O'n nhw'n gallu gweld hefyd beth oedd yn digwydd ar draws Ewrop, yn yr Eidal er enghraifft, ac o'n nhw'n dal i adael pobl i fynd ar eu gwyliau i sgïo neu beth bynnag."

Ychwanegodd: "Yn Lloegr roedd [Gŵyl Rasio Ceffylau] Cheltenham wedi digwydd ac yng Nghymru concert y Stereophonics.

"Hefyd penderfyniadau i symud pobl â Covid mas o'r ysbyty i gartrefi gofal, a'r bobl yma yn sâl yn y nursing homes."

"Sai'n gwybod beth yw'r ateb," atega Eifion, "gweld pethe'n digwydd yn araf iawn o'n ni."

Clos Gerallt

Hanner milltir o dŷ'r teulu ym Mhontarddulais mae stad newydd o dai gafodd eu codi yn ddiweddar, a'r enw ar yr arwydd o flaen y tai yw Clos Gerallt.

Dyma arwydd bach arall o edmygedd y gymuned leol o fywyd Gerallt.

"Ma' fe'n meddwl lot i ni fel teulu - mae e dal yn fyw yn y cof," medd Aled.

I'w berthnasau a'r gymuned mae gwaddol Gerallt Davies gymaint yn fwy nag arwydd stryd.

Ond gobaith y teulu, fel miloedd yn rhagor a gollodd anwyliaid, yw y bydd yr ymchwiliad hefyd yn gadael gwaddol, ac yn cryfhau'n gallu i ymateb i unrhyw bandemig arall er mwyn diogelu bywydau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd swyddogion yn rhoi tystiolaeth fanwl dros yr wythnosau i ddod.

Pynciau cysylltiedig