Ateb y Galw: Dom James
- Cyhoeddwyd

Yr wythnos yma y cyflwynydd a cherddor Dom James sy'n Ateb y Galw.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Ci yn neidio ar fy ngwyneb i yn y parc pan o'n i'n ifanc.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Caerdydd. Dwi'n caru'r ddinas - mae popeth yn digwydd fan hyn, mae o'n rili cymysg o ran diwylliant, ac mae ganddo bopeth dwi angen.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Yn Vegas mis Ebrill d'wetha. Chwarae cardiau, yfed, clwbio a cael hwyl efo mêts fi.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hapus, egnïol a brwdfrydig.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Perfformio yn Maes B efo Lloyd - 'nath e ddod ar y llwyfan yn hwyr yn gwisgo sleeveless vest a baner Cymru fel clogyn.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Yn ysgol 'nath rywun tynnu trowsus fi lawr o flaen y merched.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Pan 'nes i wylio The Pursuit of Happyness efo Will Smith cwpl wythnosau nôl.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bwyta prydau llawn am 1 y bore. Mae Nain yn cwcio lot o fwyd a mae gen ni ffrij llawn o hyd - unrhywbeth dwi isio, cinio dydd Sul, bolognese neu fry up.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Llyfr ydi The Boy gan Roald Dahl - mae dipyn i 'neud efo Cymru, gan iddo gael ei fagu yng Nghymru.
Hitch efo Will Smith a Kevin James ydi fy hoff ffilm, dwi'n caru romantic comedies, Efrog Newydd, a Will Smith ydy fy hoff actor i.
Flagrant efo Andrew Schulz - mae'n cael gwesteion rili diddorol.

Will Smith a Kevin James yn y ffilm Hitch
Fyw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Denzel Washington. Achos dwi'n gwybod byswn i'n cymryd ei gyngor ar fywyd. Mae ganddo fe ffordd anhygoel o ddweud pethau.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Does 'na ddim byd rili, 'nai ddweud unrhywbeth wrth unrhywun.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud.
Byddwn i'n trio skydiving uwchben Efrog Newydd a glanio ar yr Empire State. Hefyd fyswn i'n cael ffeit UFC efo ffrind fi Brandon.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o fi gyda'r bois yn Vegas.

Dom gyda'i ffrindiau yn Las Vegas
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Drake, mae'n byw bywyd anhygoel.