Brodyr Croft wedi colli ffydd ym mwrdd rheoli Prydain
- Cyhoeddwyd
Mae'r efeilliaid Ioan a Garan Croft yn dweud eu bod wedi gadael carfan focsio Prydain bum mis cyn Gemau Olympaidd Paris 2024 ar ôl colli ffydd ym mwrdd rheoli Tîm Prydain.
Ni chafodd yr un o'r ddau, sy'n 22 oed, eu dewis ar gyfer cystadleuaeth ragbrofol, er mwyn ceisio sicrhau lle yn nhîm bocsio Prydain ym Mharis, yn yr Eidal ar 4-11 o Fawrth.
Er mwyn sicrhau lle ym Mharis, byddai un brawd wedi gorfod curo'r llall ac mae'r efeilliaid wedi siarad yn y gorffennol am beidio byth â bod eisiau ymladd yn erbyn ei gilydd.
'Anhapus 'da rhai penderfyniadau'
"Ro'n ni'n eithaf anhapus 'da rhai penderfyniadau, y ffordd cawsom ni ein trin, a'r ffordd cafodd popeth ei ddweud wrthym ni," meddai Garan.
"Ro' ni 'di colli pob ffydd a phenderfynon ni symud ymlaen."
Dywedodd Ioan: "Hyd heddiw, dydyn ni dal ddim wedi cael rheswm pam na chawsom ein dewis."
Roedd newid i'r dosbarthiadau pwysau Olympaidd yn golygu y byddai'n rhaid i'r ddau gystadlu yn y categori 71kg, gydag un lle yn unig ar gael ar gyfer y garfan Olympaidd.
Dywedodd Garan: "Cawsom gyfarfod gyda phenaethiaid Bocsio Prydain, ac fe eisteddon ni yno am bron i ddwy awr.
"Fe wnaethon ni adael yn teimlo'n fwy dryslyd na phan aethon ni i mewn."
Fe wnaeth Bocsio Prydain ymateb drwy ddweud bod dewis ar gyfer gemau rhagbrofol Olympaidd lle mae cystadleuaeth gref yn "broses anodd" a gall fod yn "siomedig iawn i'r bocswyr hynny nad ydyn nhw'n cael eu dewis".
"Nid ar chwarae bach y mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud ac mae natur chwaraeon elitaidd yn golygu ei bod yn anochel y bydd rhai unigolion yn siomedig gyda'r canlyniad.
"Fodd bynnag, mae'r panel wedi bod yn glir ac yn dryloyw yn ei resymeg ac wedi gweithredu er budd Bocsio Prydain Fawr wrth ddewis y bocswyr hynny y mae'n teimlo sydd â'r cyfle gorau ar hyn o bryd o gyrraedd Gemau Olympaidd Paris 2024."
Mae'r efeilliaid o Grymych bellach yn gobeithio troi'n broffesiynol ar ôl serennu fel amaturiaid.
Enillodd Ioan fedal aur i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022 gyda Garan yn cipio medal efydd.
Y nod yw bod yn bencampwyr byd
Dywedodd Ioan: "Rydyn ni wedi cael dwy flynedd llawn profiadau gyda Thîm Prydain Fawr, rydyn ni wedi profi cymaint ac wedi dysgu llawer ond gyda'n sefyllfa ni, y ffordd rydyn ni wedi cael ein trin, does dim byd yn ein cadw ni yn Sheffield."
Dywed Garan eu bod yn "gyffrous" am droi'n broffesiynol: "Mae ychydig yn gynt na'r disgwyl neu y bydden ni wedi meddwl. Serch hynny rydym yn barod amdano, mae gennym ni gefnogaeth dda y tu ôl i ni felly rwy'n credu y bydd yn llwyddiant, 100%."
Dywedodd Ioan: "Y nod lawr y lein yw bod yn bencampwyr y byd".
"Fe aethon ni i ddwy ornest byd Joe Cordina yng Nghaerdydd a dyna lle rydych chi eisiau bod, o flaen torf gartref, yn ennill teitl byd a dyna fydd y nod nawr dros y blynyddoedd nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022