Y brodyr Croft o Grymych yn anelu am y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd yr efeilliaid fod eu profiad yng ngemau Birmingham wedi bod yn "anhygoel"

Wedi cipio medalau aur ac efydd yng Ngemau'r Gymanwlad, mae'r bocswyr Ioan a Garan Croft bellach â'u golygon ar y Gemau Olympaidd.

Mae'r efeilliaid o Grymych wedi dychwelyd adref ar ôl rhagori yn y cystadlaethau bocsio yn Birmingham.

Ond er disgrifio cynrychioli Cymru'n fel "anhygoel", mae eu gorwelion yn barod tuag at gemau Paris yn 2024.

"Mae aur y Gymanwlad yn gyflawniad anhygoel fel amatur, ond mae llawer mwy i'w wneud," dywedodd Ioan.

"Rydyn ni'n edrych ar y Gemau Olympaidd yn 2024. Dyna freuddwyd arall i mi, i gynrychioli Prydain Fawr yno.

"Bydd gemau rhagbrofol y Gemau Olympaidd yn dechrau'r flwyddyn nesaf. Gobeithio, yn 2024, bydda i'n Olympian".

Disgrifiad o’r llun,

Garan (chwith) ac Ioan Croft gyda'r medalau enillon nhw yng Ngemau'r Gymanwlad

Gobaith ei frawd, Garan, a enillodd efydd yn Birmingham yn y categori pwysau canol ysgafn, yw ymuno ag ef ym Mharis.

"Paris yw ein nod ers i ni fod yn blant. Mae llawer o waith caled i'w wneud ond mae'n nod realistig felly rydyn ni'n mynd i barhau i wthio a gobeithio y byddwch chi'n ein gweld ni yno.

"Rydyn ni'n ddau o'r goreuon allan yna. Rydyn ni gyda'r gorau yn y byd, felly mae'n fater o gael mwy o brofiad a pharhau i ddysgu."

Mae'r ddau yn dweud y bydden nhw'n hoffi troi'n broffesiynol yn y pen draw, ar ôl y Gemau Olympaidd.

Ond dywedodd Garan bod mwy i'w wneud ym myd bocsio amatur yn gyntaf.

"Rydym yn hoff iawn o'n bocsio amatur ar hyn o bryd, y teithio, y cystadlaethau a'r profiad. Mae llawer mwy i'w wneud ond yn y pen draw, ie, byddwn yn edrych i fynd yn broffesiynol yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Gerallt Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu yn dathlu llwyddiannau'r ddau frawd yn Birmingham

Er yr un oed a'n rhannu'r un angerdd at y gamp, mae'r ddau focsiwr yn cystadlu dan bwysau gwahanol.

"Dwi'n light-middle, sef 71kg ac mae e'n welterweight, so 67kg" meddai Garan.

"Mae'n bwysig iawn i ni aros mas o bwysau ein gilydd. Mae'n well gyda ni beidio bocsio ein gilydd a sai'n credu byddai mam neu dad yn rhy bles gyda ni'n ymladd yn erbyn ei gilydd hefyd."

Ychwanegodd Ioan: "Os bydden ni yn gwneud hwnna, dim ond un ohonon ni fyddai'n llwyddo felly wrth 'neud nhw'n wahanol, mae'r ddau ohonon ni'n gallu llwyddo."

Bocsio i'r brig

Ar 10fed diwrnod Gemau'r Gymanwlad, enillodd Ioan fedal aur yn rownd derfynol y categori pwysau welter, a hynny yn erbyn Stephen Zimba o Zambia.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ioan (chwith) a Garan yn arfer hyfforddi gyda'u tad yng nghlwb bocsio Aberteifi

"Cyn mynd, wên i'n 'neud cwpl o interviews fel hyn yn dweud bydden i'n hoffi clywed yr anthem 'na ar y podiwm, a sai'n gallu disgrifio sut wedd e'n teimlo. Roedd e'n freuddwyd," meddai.

"Sai'n meddwl mae e dal wedi sinkio mewn ond ie, jyst anhygoel."

Yno i gefnogi Ioan oedd Garan wedi iddo yntau sicrhau medal efydd i'w hun.

Dywedodd: "Roedd e'n sbesial iawn i'w weld e [Ioan] yn ennill y fedal aur ond dim jyst fe, yr holl dîm.

"Roedd naw bocsiwr yna o Gymru, chwech 'di cael medalau. Mae'n anhygoel a jyst yn dangos beth mae safon Cymru yn gallu gwneud."

Wrth ddisgrifio ei lwyddiant ei hun, dywedodd: "Wên i'n gobeithio ennill medal aur 'fyd - dwi'n gwybod o'n i'n ddigon da.

"Des i lan yn erbyn boi o Ogledd Iwerddon oedd yn brofiadol iawn, lot yn henach 'na fi 'fyd so bach yn anffodus fan 'na ond dwi'n gallu dysgu o'r ffeit nes i golli a symud 'mlaen."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Garan a Ioan yn focswyr ifanc gyda'u tad, Guy, yn 2013

Gyda'u tad, Guy, yn gyn-focsiwr amatur ei hun, mae e wedi bod yn ysbrydoliaeth i'r bechgyn ar hyd eu taith.

"Aeth dad â ni lawr i'r gampfa am y tro cynta' pan oedden ni'n wyth… dy'n ni byth wedi edrych yn ôl ers hynny.

"Gethon ni ffeits cyntaf ni pan oedden ni'n 10 a 'naeth dad coachio ni. Ond ers i ni symud i ymarfer llawn amser yng Nghaerdydd a Sheffield, roedd yn rhaid i dad sefyll yn ôl bach."